Pwy ydi Alan Bates?
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymgyrchydd Alan Bates yn ôl yn llygad y cyhoedd wrth iddo roi tystiolaeth i ymchwiliad sgandal Swyddfa'r Post.
Y gŵr o ardal Llandudno fydd yn cael ei holi gyntaf wrth i’r gwrandawiad ail agor ar 9 Ebrill.
Mae ei broffil wedi cynyddu’n sylweddol yn sgil drama Mr Bates vs The Post Office. Ond pwy ydi’r Alan Bates go iawn, a sut ddaeth o’n rhan mor ganolog o’r ymgyrch?
Gwreiddiau'r stori yng ngogledd Cymru
Mae gwreiddiau’r stori yng ngogledd Cymru yn mynd yn ôl chwarter canrif wedi i Alan Bates newid gyrfa a dod yn is-bostfeistr.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd ei eni yn Lerpwl - ac mae cyngor y ddinas eisoes wedi trafod ei anrhydeddu am ei waith ymgyrchu - ac astudiodd dylunio graffeg yn Wrecsam.
Roedd yn arfer gweithio fel rheolwr prosiectau yn y diwydiant treftadaeth, gan gynnwys i Cadw, oedd yn golygu dod i wybod am gasglu data, cyfrifiaduron a gwerthiant.
Erbyn diwedd yr 1990au roedd o a’i bartner Suzanne Sercombe eisiau newid ac yn chwilio am fusnes i fuddsoddi ynddo.
Roedd Swyddfa Bost a siop yn ardal Craig-y-Don, Llandudno, yn ddelfrydol - lleoliad braf, dafliad carreg o’r promenâd, ac yng nghanol rhes o siopau bychan.
Fe gymeron nhw’r lle drosodd yn 1998, gan fuddsoddi £65,000 yn y busnes.
Ond chafodd Alan Bates ddim cyfnod braf yno.
Dechrau ei drafferthion
O fewn dim, yn y flwyddyn 2000, daeth y system gyfrifiadurol Horizon i'w swyddfa yng Nghraig-y-Don. Newyddion da i rywun efo cefndir Alan Bates, ac roedd o’n gobeithio y byddai’r busnes yn elwa wrth fynd yn ddigidol.
Ond buan ddaeth y trafferthion gydag arian yn ymddangos i ddiflannu o’r system - £6,000 ar un adeg.
Ar ôl ymchwilio, daeth Alan Bates o hyd i rai camgymeriadau - ac adfer rhai miloedd o bunnoedd yn ôl i'r cyfrifon. Ond roedd dros £1,000 dal ‘ar goll’ a dim syniad pam.
Er mai fo oedd yr is-bostfeistr oedd yn gyfrifol am y busnes - ac yn ôl ei gytundeb yn gorfod talu am unrhyw golledion - doedd o ddim yn gallu gweld yr holl ddata cyfrifiadurol er mwyn canfod beth oedd wedi mynd o’i le.
Felly fe wrthododd dalu’r arian, wnaeth o ddim arwyddo bod y cyfrifon yn gywir ac fe gododd ei bryderon gyda'i reolwyr. Yna yn 2003 fe wnaeth Swyddfa’r Post ddod â’i gytundeb i ben - ac roedd o wedi colli ei holl fuddsoddiad.
Fe allai hynny wedi dod â chysylltiad Alan Bates a’r Post i ben. Ond megis cychwyn oedd y sgandal.
Sut ddaeth o’n ganolbwynt yr ymgyrchu?
Cyfuniad o’i gymeriad, ei sgiliau a’i sefyllfa - ac roedd o’n flin efo Swyddfa’r Post a'r anghyfiawnder yn ei gorddi.
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd Alan Bates wedi clywed am ambell un arall oedd wedi cael trafferthion tebyg, felly fe sefydlodd wefan i godi ymwybyddiaeth - www.postofficevictims.org (tydi'r wefan ddim yn bodoli erbyn heddiw).
Fe gysylltodd efo newyddiadurwyr a chael dim lwc tan i gylchgrawn Computer Weekly wneud stori amdano fo a chwech is-bostfeistr arall ym mis Mai 2009.
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe roddodd gyfweliad i newyddiadurwyr BBC Cymru ar raglen Taro Naw S4C, wnaeth ddatgelu eu bod wedi dod o hyd i dros 30 is-bostfeistr efo cwynion tebyg am system Horizon.
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
Ar ôl y rhaglen fe benderfynodd Alan Bates geisio cael neges i’r is-bostfeistri er mwyn trefnu cyfarfod. A mis Tachwedd 2009 daeth criw bychan ohonyn nhw at ei gilydd yn neuadd bentref Fenny Compton yn Swydd Warwick - digwyddiad sy’n enwog erbyn hyn diolch i ddrama ITV.
Dyma ddechrau’r grŵp ymgyrchu Justice for Subpostmasters Alliance, a phenodwyd Alan Bates yn gadeirydd.
Ers hynny mae o - ac eraill - wedi gweithio ar yr ymgyrchu yn ddi-dâl, gan dynnu ei bensiwn yn gynnar er mwyn cynnal ei hun.
Mae’r daith wedi bod yn hir, a rhwystrau di-ri ar hyd y ffordd.
Y trobwynt oedd ennill yr achos yn erbyn y Swyddfa Bost yn yr Uchel Lys yn 2019. Erlyniad grŵp oedd hwn, gydag enw Alan Bates ar yr achos a fo oedd y cyntaf i roi tystiolaeth. Arweiniodd hyn at ddileu nifer o euogfarnau is-bostfeistri oedd wedi eu herlyn ar gam.
Tystiolaeth i’r ymchwiliad
Alan Bates, sy'n byw bellach yn ardal Bae Colwyn, fydd y cyntaf i roi tystiolaeth wrth i‘r ymchwiliad cyhoeddus ail-ddechrau ar 9 Ebrill.
Mae o eisoes wedi rhoi tystiolaeth yn yr achosion llys ac i bwyllgorau gwleidyddol yn San Steffan, ond fe fydd mwy o ddiddordeb gan y cyhoedd y tro hwn oherwydd ei broffil uchel.
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae’r ymchwiliad wedi clywed tystiolaeth gan nifer fawr o bobl, gan gynnwys is-bostfeistri yn son am effaith y sgandal arnyn nhw a gan ymchwilwyr y Swyddfa Bost oedd yn eu herlid.
Yn y rhan nesaf o'r ymchwiliad fe fydd nifer o unigolion oedd mewn swyddi uchel o fewn y Swyddfa Post, y Post Brenhinol a’r llywodraeth yn rhoi tystiolaeth. Bydd cadeirydd yr ymchwiliad Syr Wyn Williams yn ceisio gwybod mwy am lywodraethiant y Post a’r ymateb i’r sgandal a’r pryderon.
A mis nesaf fe fydd Paula Vennells, y cyn-brif weithredwr sydd wedi bod dan y lach am ei rôl yn y sgandal, yn rhoi tystiolaeth.
Fel y gŵr o ogledd Cymru, mae’r diddordeb ynddi hithau hefyd wedi cynyddu’n sylweddol ers cael ei phortreadu yn y ddrama Mr Bates vs The Post Office.