Athro chwaraeon yn euog o ymosod ar ddisgybl 16 oed ar noson allan

Llŷr DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Llŷr Davies dridiau wedi'r ymosodiad, mewn digwyddiad ar wahân

  • Cyhoeddwyd

Mae athro chwaraeon wedi'i ganfod yn euog o ymosod ar ddisgybl ysgol ar noson allan yn Sir Gâr.

Roedd Llyr James, 31, wedi ei gyhuddo o ymosod ar Llŷr Davies, 16, yng Nghastellnewydd Emlyn ar 9 Mawrth eleni.

Bu farw'r bachgen dridiau wedi'r digwyddiad, ond fe glywodd yr achos llys nad oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a'r farwolaeth.

Roedd James, fu'n dysgu yn Ysgol Bro Teifi, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Mynnodd ei fod yn “chwarae dwli” pan afaelodd yn y bachgen ar noson y digwyddiad, a bod ganddo berthynas “chwareus” gyda Llŷr Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Llyr James yn gadael y llys ddydd Mawrth wedi ei euogfarn

Wrth roi tystiolaeth yn Llys Ynadon Llanelli yn gynharach ddydd Mawrth, dywedodd James bod Llŷr Davies yn un “o gymeriadau hoffus iawn” Ysgol Bro Teifi a'i fod yn ei adnabod ers iddo ddechrau fel disgybl ym mlwyddyn 7.

Yn ôl James Ashton, ar ran yr erlyniad, roedd James wedi llusgo'r bachgen i ali ac ymosod arno.

Daeth yr ynadon i'r casgliad ddydd Mawrth fod James yn euog ac fe gafodd yr achos ei ohirio tan 25 Hydref ar gyfer adroddiadau cyn dedfrydu.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion nad yw Llyr James "bellach yn cael ei gyflogi gan Ysgol Bro Teifi".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr erlyniad fod Llyr James fod y wedi llusgo Llŷr Davies i'r ali yma ac ymosod arno

Fe welodd y llys luniau CCTV o'r digwyddiad.

Penderfynodd yr ynadon fod y fideo hwnnw yn dangos fod y digwyddiad yn "ymosodiad direswm", a achosodd anaf i law Llŷr Davies.

Dywedon nhw fod y fideo yn "dangos yr hyn ddigwyddodd... yn ei gyfanrwydd", a'i fod yn "allweddol" yn y penderfyniad i ganfod James yn euog.

Gwelwyd James ar y fideo yn "rhedeg ar gyflymder tuag at Llŷr Davies" cyn iddo "ei orfodi i ali".

Fe wnaethon nhw ymddangos rhyw 10 eiliad yn ddiweddarach "gyda'r diffynnydd yn dal i afael yn Llŷr Davies".

Dywedodd yr ynadon hefyd fod tystiolaeth fod Llŷr Davies wedi anafu ei law yn y digwyddiad.

"Roedd gweithredoedd y diffynnydd... yn unochrog, a doedd dim gweithred gan Llŷr Davies," meddai'r ynadon.

"Nid chwarae oedd hyn - roedd yn ymosodiad direswm."

Pynciau cysylltiedig