Canrif ers i Gaerdydd golli'r gynghrair ar gyfartaledd goliau
- Cyhoeddwyd
Mae buddugoliaeth Clwb Pêl-droed Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ym 1927 - yr unig dro i dîm o du hwnt i Loegr ennill y tlws - yn uchafbwynt amlwg yn hanes y clwb.
Ond, dim ond tair blynedd ynghynt, fe ddaeth yr Adar Gleision o fewn trwch blewyn i ennill prif adran Lloegr, ond fe wnaethon nhw golli allan ar gyfartaledd goliau.
Ar benwythnos olaf tymor 1923/24, roedd Caerdydd angen buddugoliaeth gartref yn erbyn Birmingham i sicrhau'r gynghrair - ond ar ôl methu cic o'r smotyn fe orffennodd y gêm yn ddi-sgor.
A chyda Huddersfield, y tîm oedd yn mynd benben a Chaerdydd am y bencampwriaeth, yn ennill o 3-0 - fe orffennodd Caerdydd yn ail gan fod un gôl o wahaniaeth rhwng y ddau glwb.
Canrif yn ddiweddarach, dyma hanes y tymor lle bu *BRON i dîm o Gymru ennill prif adran Lloegr.
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
Fe enillodd Caerdydd ddyrchafiad i'r Adran gyntaf - y brif haen ym mhêl-droed Lloegr ar y pryd - yn nhymor 1920/21.
Dan arweiniad Fred Stewart – oedd yn rheolwr ar y clwb am dros 20 mlynedd – fe wnaeth Caerdydd sefydlu ei hunain fel tîm oedd yn gallu cystadlu tua brig y tabl.
Ymhlith sêr mwyaf y tîm oedd Fred Keenor, y capten a gododd tlws FA Lloegr yn 1927. Heddiw, mae cerflun o Keenor wedi ei osod y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd yr ymosodwr, Len Davies, yn un arall o hoelion wyth y tîm - a hyd heddiw, fo ydi'r prif sgoriwr yn hanes y clwb gyda 181 o goliau rhwng 1920 a 1931.
Mae Neil Jensen yn awdur sydd wedi cynnwys Caerdydd yn nhymor 1923/24 yn ei lyfr 'The Great Uncrowned' - sy'n olrhain hanes rhai o'r timau gorau sydd wedi boddi wrth ymyl y lan.
"Roedd Caerdydd yn anelu am y bencampwriaeth drwy gydol y tymor, ond o bosib oherwydd blinder a'r ffaith bod carfan fach ganddyn 'da nhw, fe wnaethon nhw ddechrau disgyn am yn ôl," meddai.
Prif gystadleuwyr yr Adar Gleision oedd Huddersfield dan arweiniad Herbert Chapman, rheolwr sy'n cael ei gydnabod fel un o'r rhai mwyaf dylanwadol yn hanes pêl-droed Prydain.
Gyda dim ond un gêm yn weddill, roedd gan Gaerdydd bwynt o fantais ar frig y tabl - mewn oes lle'r oedd timau yn cael dau bwynt am fuddugoliaeth.
“Roedd y sefyllfa yn un hynod o dynn” meddai Mr Jensen, "Roedd Huddersfield angen ennill o dair gôl, a gobeithio bod Caerdydd methu ennill – ac wrth gwrs, yn union hynny ddigwyddodd!”
Fe wnaeth Len Davies fethu cic o'r smotyn yn erbyn Birmingham - y tro cyntaf iddo gymryd cic o'r smotyn yn ei yrfa, yn ol Terry Phillips, hanesydd Clwb Pel-droed Caerdydd.
Roedd y ffaith bod Huddersfield wedi ennill 3-0 yn erbyn Nottingham Forest yn golygu bod ganddyn nhw gyfartaledd goliau o 0.024, mwy na Chaerdydd, ac felly'r Terriers oedd y pencampwyr.
"Pe bai gwahaniaeth goliau, y system 'y ni'n defnyddio nawr, mewn lle, byddai Caerdydd wedi ennill y gynghrair - roedden nhw wedi sgorio mwy o goliau."
Beth yw 'cyfartaledd goliau'?
O 1888, pan gafodd Cynghrair Pêl-droed Lloegr ei ffurfio, tan 1976, roedd cyfartaledd goliau yn cael ei defnyddio i wahanu timau oedd yn gorffen ar yr un nifer o bwyntiau.
Roedd y ffigwr yn cael ei gyfrifo drwy rannu nifer y goliau wnaeth y tîm sgorio, gyda nifer y goliau wnaethon nhw ildio.
Roedd nifer yn credu bod y system yn annog timau i chwarae pêl-droed mwy amddiffynnol, gan fod peidio ildio goliau yn debygol o arwain at gyfartaledd goliau uwch.
Cafodd y system ei ddiddymu ym 1976, a'i ddisodli gan wahaniaeth goliau - y system sydd yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw.
Dim Caerdydd yw'r unig dîm i golli allan oherwydd cyfartaledd goliau.
Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1953, fe wnaeth Arsenal ennill y brif adran gan drechu Preston North End ar gyfartaledd goliau, tra bod Manchester United wedi gwneud yr un peth i Leeds ym 1965.
Er iddyn nhw fethu a sicrhau'r bencampwriaeth, roedd y croeso i'r tîm wedi iddyn nhw ddychwelyd i Gaerdydd yn syfrdanol, yn ôl Mr Jensen.
"Fe gyrhaeddon nhw'r ddinas ar ôl 22:00 ac roedd yna filoedd ar filoedd o bobl y tu allan i'r orsaf drenau i'w croesawu.
"Fe wnaeth Len Davies geisio dianc heibio'r dorf, ond cafodd y cefnogwyr afael arno, a'i gario allan o'r orsaf ar eu hysgwyddau."
Tair blynedd yn ddiweddarach, roedd Keenor a Davies yn rhan o'r tîm wnaeth guro Arsenal, a Herbert Chapman, yn rownd derfynol cwpan FA Lloegr.
Yn ôl rheolwr presennol Caerdydd, Erol Bulut, mae'r hanesion yma o oes aur y clwb yn dal i ysbrydoli'r tîm heddiw.
"Mae hanes clwb pêl-droed, unrhyw glwb pêl-droed, yn hollbwysig," meddai.
“Dwi’n ymwybodol o hanes Clwb Pêl-droed Caerdydd… mae’n bwysig i gofio'r pethau positif o'n hanes gan ei fod yn ein hysbrydoli.
"Mae’n bwysig i fi fel hyfforddwr, mae’n bwysig i’r chwaraewyr ac, wrth gwrs, i’r cefnogwyr hefyd.”
Yn y 100 mlynedd ers colli'r gynghrair, mae’r clwb wedi mynd i fyny ac i lawr o brif gynghrair Lloegr sawl tro, ond tybed pa effaith fyddai un gôl arall nol yn 1924 wedi ei gael ar hanes yr Adar Gleision.