Archesgob yn arwain neges Nadolig i weddïo am heddwch
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru wedi galw ar y cyhoedd i ganolbwyntio ar, a gweddïo am, heddwch i'r rheini sy'n dioddef y Nadolig hwn.
Mewn neges ar y cyd ag Archesgob Caerdydd, Mark O'Toole, a Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Simon Walkling, nododd y Gwir Barchedicaf Andrew John yr heriau sy'n wynebu pobl ddiniwed ar draws y byd yn yr hyn yn ystod "blwyddyn ofnadwy i lawer".
Maen nhw'n tynnu sylw'n benodol at y rhyfeloedd sy'n parhau i ddinistrio bywydau yn Gaza ac Wcráin, ac at bobl ledled Cymru sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.
"Y Nadolig hwn efallai y byddwn yn ymwybodol o densiynau mewn teuluoedd, a'r anawsterau o gael dau ben llinyn ynghyd," dywedodd y tri arweinydd yn eu datganiad.
"Eleni rydyn ni'n cofio'r rhyfeloedd yn y wlad lle ganwyd Iesu, yn Wcráin ac mewn rhannau eraill o'r byd.
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd26 Awst 2023
"Ganed Iesu i fyd nad oedd yn wahanol iawn i'n byd ni heddiw. Roedd yna wrthdaro a rhyfela, roedd yna deuluoedd yn anghytuno ac yn ffraeo, ac roedd bywyd yn galed.
"Ond cerddodd Duw ar y ddaear hon trwy Iesu yn yr ardaloedd tywyll yn ogystal ag yn y goleuni gan ddod â gobaith i bawb.
"Mae angen heddwch yn ein byd. Pam ddim ffeindio amser i weddïo dros heddwch y Nadolig hwn?
"Rydyn ni'n gweddïo am lawenydd a gobaith i ni i gyd."
Mae hefyd am i ni gofio am ganmlwyddiant Apêl Heddwch Menywod Cymru, i gofio am y ddeiseb a gyflwynwyd ganddynt i America ynghylch ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd i hyrwyddo 'Cyfraith nid Rhyfel'.
"Llofnodwyd y neges gan tua 60% o fenywod Cymru, ar ôl teithio o gartref i gartref ac o aelwyd i aelwyd, a dangos beth mae pobl gyffredin yn gallu ei gyflawni trwy gydweithio â’i gilydd."
Dyma’r ail dro i’r ddau archesgob gyhoeddi neges Nadolig ar y cyd.
Daw eu datganiad i ben drwy ddweud bod pob un ohonom angen heddwch yn ein byd: "Hwyrach ein bod am ddianc rhag tensiwn ein teuluoedd. Efallai y carem gael pum munud o lonydd i ni'n hunain wrth baratoi at y Nadolig.
"Beth am ymweld ag eglwys i gael lle i dawelu a myfyrio, a rhoi amser i weddïo dros heddwch y Nadolig hwn? Rydyn ni'n gweddïo am lawenydd a gobaith i ni i gyd."
Polisi Rwanda'n 'anfoesol'
Mewn cyfweliad am ei neges Nadolig gyda BBC Cymru, soniodd Andrew John hefyd am ei siom yn gweld Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak yn parhau gyda'r Bil Rwanda.
"Dwi'n teimlo'n siomedig oherwydd 'sa i'n credu bod y polisi yn effeithiol ond hefyd mae'n anfoesol," dywedodd.
“Mae hyn yn broblem sy'n wynebu gwledydd ar draws Ewrop ac mae'n gofyn am ymateb sy'n cynnig pob gwlad yn cydweithredu.
"Dwi'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i feddwl eto."
Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Gartref: "Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud beth bynnag sydd angen i ddod â stop i'r cychod ac atal pobl rhag peryglu eu bywydau wrth law pobl ffiaidd sy'n rhan o grwpiau smyglo.
"Dyna pam rydym wedi mynd i'r afael â chanfyddiadau'r Goruchaf Lys er mwyn gallu cychwyn hediadau i Rwanda cyn gynted â phosib."
Ychwanegodd: "Mae Rwanda yn barod i groesawu pobl. Mae'n wlad ddiogel sy'n poeni'n fawr am gefnogi ffoaduriaid, a bydd ein Bil Diogelwch Rwanda yn gwneud hyn yn gwbl glir yng nghyfraith y DU."
'Perygl creu casineb am genedlaethau'
Sefyllfa’r Dwyrain Canol sy’n cael sylw’r Annibynwyr yng Nghymru hefyd.
"Wrth i ni ddathlu pen-blwydd Iesu mae'r lladdfa erchyll yn ei wlad enedigol yn taflu cysgod dros y dathliadau hynny," meddai'r Parchedig Jeff Williams - Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a chyn-bennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru.
Mae'n poeni am y perygl y bydd y rhyfel hwn yn creu casineb am genedlaethau.
"Rhaid i’r gymuned ryngwladol wneud popeth o fewn eu gallu yn wleidyddol, a hynny ar frys, i geisio rhoi stop ar y rhyfel.
"Mae hynny’n cynnwys addewid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â gwerthu mwy o arfau i Israel."
Mae hefyd yn galw am ddarparu cymorth dyngarol ar "raddfa anferth i leddfu dioddefaint dinasyddion diniwed yn Gaza".
Codi llais yn erbyn anghyfiawnderau
Yr angen am heddwch a chyfiawnder yw byrdwn y Parchedig Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, hefyd.
Dywed eu bod fel enwad wedi "codi llais eleni gydag eraill, gan alw am fyd tecach" a'u bod fel rhan o'r Cyngor Cenhadaeth Fyd-eang wedi tanlinellu'r "sefyllfa anghredadwy sy’n wynebu’r miliynau o bobl sydd wedi eu dal yn gaeth yn Gaza".
"Fe wnaethon ni alw ar Israel i roi'r gorau i'w bomio a rhoi sylw i'r argyfwng dyngarol sy'n traflyncu'r rhanbarth."
Mae'n hi'n cyfeirio hefyd at rannau o'r byd - fel talaith Manipur yn India, ble mae'r Presbyteriaid yn gwneud gwaith cenhadol - lle mae rhai Cristnogion wedi gorfod ffoi rhag "trais a braw".
Ychwanegodd eu bod hefyd yn parhau "i godi llais yn erbyn yr anghyfiawnderau sy'n wynebu Cristnogion, ac eraill, ym Myanmar, lle gall siarad gwirionedd wrth rym ddod â chosb ffyrnig gan gynnwys marwolaeth".
Dywedodd Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, Bill Davies bod cyfnod y Nadolig eleni "yn gyfnod cythryblus yn hanes y byd" gan holi: "Faint o ryfeloedd sydd yn dal i fodoli heddiw tybed? Oes yna rywun yn gwybod?"
"Cofiwn yn arbennig am y Dwyrain Canol o bobman ar drothwy dathlu genedigaeth Tywysog Heddwch a ddangosodd inni fywyd llawn cariad at gyd-ddyn ac at Dduw...
"Bydded i dangnefedd yr Ŵyl drigo yn ein calonnau ninnau y Nadolig hwn a thrwy gydol y flwyddyn newydd."