Gwerthiant tai Cymru'n cynyddu wrth i brisiau ostwng
- Cyhoeddwyd
Mae prisiau tai yng Nghymru wedi gostwng i £232,000 ar gyfartaledd - cwymp o 3% mewn blwyddyn - yn ôl ffigyrau diweddaraf Cymdeithas Adeiladu'r Principality.
Mae Mynegai Prisiau Tai Cymru hefyd yn dangos bod nifer y tai a gafodd eu gwerthu rhwng Gorffennaf a Medi eleni wedi cynyddu 11% ers y llynedd.
Dywedodd Shaun Middleton o Principality bod y cynnydd yn nifer y gwerthiannau yn awgrymu "llygedyn o sefydlogrwydd" yn y farchnad dai.
Ond mae'r darlun yn amrywio ar draws Cymru.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae prisiau tai wedi cynyddu 3.5% ar gyfartaledd yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl Anwen Waring a'i gŵr Kieran o Fargam, mae yna ddiffyg diddordeb wedi bod yn eu tŷ nhw ers ei roi ar y farchnad fis diwethaf.
Mae Ms Waring, 28, yn credu bod eu tŷ nhw yn berffaith ar gyfer prynwyr tro cyntaf.
Ond mae'r pris wedi cynyddu'n sylweddol ers iddyn nhw ei brynu yn 2021.
'Y farchnad ddim yn gwneud cystal'
"Mae prynwyr tro cyntaf yn gorfod ymestyn eu cyllideb cryn dipyn," meddai.
"Dyw'r farchnad ddim yn gwneud cystal â byddai rhywun yn gobeithio."
Mae'r cwpl eisiau symud i Borthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr - lle mae prisiau tai hefyd ar gynnydd - i fod yn agosach at deulu a ffrindiau, ac maen nhw wedi dod o hyd i'r tŷ delfrydol.
"Rydyn ni'n gobeithio ac yn gweddïo na fydd y tŷ [yna] yn gwerthu," meddai Ms Waring.
"Ond rydyn ni jyst yn gorfod bod yn amyneddgar gyda'n tŷ ni ar hyn o bryd."
Mae'r farchnad dai wedi'i heffeithio gan y cynnydd yng nghostau byw dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal, â phenderfyniad Banc Lloegr i gynyddu cyfraddau llog - sy'n gwneud benthyg arian ar gyfer morgeisi, er enghraifft, yn ddrutach.
Ond wrth i chwyddiant - sy'n mesur faint mae prisiau yn codi - ddisgyn yn is na tharged Banc Lloegr o 2%, mae nifer o ddadansoddwyr yn disgwyl i gyfraddau llog gwympo eto.
Ym mis Awst, cafodd cyfraddau eu torri i 5% am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig ym Mawrth 2020.
'Edrych yn bositif'
Mae data Cymdeithas Adeiladu'r Principality ar gyfer trydydd chwarter y flwyddyn yn dangos darlun cymysg.
"Dyw hi ddim yn hollol glir i ba gyfeiriad mae prisiau tai yn mynd ar y cyfan," meddai Shaun Middleton.
Fe gwympodd y pris cyfartalog o gymharu â'r chwarter diwethaf rhwng Ebrill a Mehefin, pan welwyd y cynnydd cyntaf mewn prisiau ers dros flwyddyn.
Ond wrth i nifer y gwerthiannau godi 11% ers y llynedd, ac 18% yn fwy o gymharu ag Ebrill-Mehefin, fe ddywedodd Mr Middleton bod hyn "yn dangos bod y farchnad yn edrych yn bositif".
Mae Rhys Young, ymgynghorydd morgeisi o Gaerfyrddin, yn cyfaddef bod yna wahaniaeth ar draws y wlad o ran prisiau tai yn codi neu'n gostwng.
Ond mae'n teimlo'n hyderus bod pethau yn gwella ar y cyfan.
"Mae lot yn dibynnu ar y gyllideb [Llywodraeth y DU] ar ddiwedd y mis yma," meddai.
"Mae bach o sefydlogrwydd yn y farchnad nawr, yn enwedig o ran cyfraddau llog hefyd.
"Pan aeth cyfraddau llog lan fe wnaeth nifer y bobl oedd yn prynu tai dawelu tipyn bach, ond y teimlad yw bod cyfraddau am ddod lawr felly mae pethau yn gwella."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Mehefin