Prisiau tai Cymru yn is am y pumed chwarter yn olynol

Rhes o dai yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi gostwng am y pumed chwarter yn olynol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru.

£229,263 oedd pris cyfartalog tŷ ddiwedd Mawrth, yn ôl cymdeithas adeiladu Principality - 6.5% yn is na'r flwyddyn flaenorol.

Ym Mro Morgannwg roedd y gostyngiad mwyaf, sef 15.7%.

Gwynedd, Sir Y Fflint, Caerffili ac Abertawe oedd yr unig siroedd i weld prisiau'n codi o'i gymharu â'r llynedd.

Mae'r ffigyrau, medd llefarydd ar ran y Principality, yn dangos bod marchnad dai Cymru'n parhau i fod yn ei sefyllfa fwyaf heriol ers argyfwng ariannol 2008.

Gostwng eto wnaeth nifer y tai sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru - llai na 8,400 yn ystod tri mis cyntaf 2024, sy'n ostyngiad o 15% dros flwyddyn.

Daw'r ffigyrau o Fynegai Prisiau Tai Cymru y Principality rhwng Ionawr a Mawrth 2024, sy'n dangos y newidiadau mewn prisiau tai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae prisiau tai wedi gostwng 2.1% yng Nghymru o'i gymharu â'r chwarter diwethaf, a 6.5% o'i gymharu â'r llynedd.

O'i gymharu â'r uchafbwynt cyfartalog o £249,000 ddiwedd 2022, mae prisiau wedi gostwng £20,000 ar gyfartaledd, ond maen nhw'n dal £55,746 yn uwch na phum mlynedd yn ôl.

Chwilio tu allan i'r brifddinas

Disgrifiad o’r llun,

"Sbel yn ôl, bydde chi'n cael mwy am eich arian yn symud allan o Gaerdydd, ond dwi ddim yn credu eich bod chi'n cael hynny mwyach," medd Craig Preece.

Mae Craig Preece, 60, o Gaerdydd wedi bod yn chwilio am fyngalo i ymddeol gyda'i wraig, ond mae'n disgwyl y byddan nhw'n dod o hyd i rywle y tu allan i'r brifddinas.

Dywedodd fod y gostyngiad cyffredinol ym mhrisiau tai ledled Cymru wedi ei "synnu", o ystyried ei bod yn ymddangos bod prisiau wedi parhau'n gymharol sefydlog yn yr ardaloedd lle mae wedi bod yn edrych, gan gynnwys Caerffili.

"Rydyn ni wedi dod allan o Gaerdydd i chwilio am y math yma o eiddo," meddai.

"Be' dwi 'di sylwi ydy sbel yn ôl, bydde chi'n cael mwy am eich arian yn symud allan o Gaerdydd, ond dwi ddim yn credu eich bod chi'n cael hynny mwyach.

“Mae rhai ardaloedd y tu allan i Gaerdydd ychydig yn llai costus.

"Mae'r farchnad yn teimlo'n gymharol gadarn... ac mae cysylltiadau ffyrdd [gwell] a chysylltiadau rheilffordd yn mynd i helpu pobl i deithio i'r ddinas."

Llai o alw am dai mawr

Fe wnaeth prisiau ostwng o fewn 18 o 22 awdurdod lleol Cymru o'i gymharu â'r llynedd.

Roedd yna ostyngiadau ffigyrau dwbl yn siroedd Caerfyrddin, Dinbych, Merthyr Tudful, Powys a Bro Morgannwg, oedd ar frig y tabl gyda gostyngiad o 15.7%.

Ond cynyddu wnaeth prisiau yng Ngwynedd, Caerffili, Abertawe a Sir Y Fflint - y sir gyda'r cynnydd mwyaf, 12%.

Mae nifer y tai a gafodd eu gwerthu hefyd wedi lleihau am chwarter arall, sy'n golygu bod nifer gwerthiannau wedi gostwng yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ers diwedd 2021.

Yn ôl y Principality, cartrefi sengl oedd yn gwerthu waethaf yn ystod y chwarter mwyaf diweddar, ac mae hynny'n amlygu llai o alw am dai mawr.

Ffynhonnell y llun, Principality
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amodau'n dal yn heriol, medd Shaun Middleton o'r Principality, ond mae'n bosib i'r sefyllfa wella wrth i chwyddiant ostwng

“Mae pwysau economaidd a chost uwch morgeisi'n golygu bod fforddiadwyedd yn dal yn broblem i lawer o brynwyr, gan roi pwysau diamau ar y farchnad dai yng Nghymru," dywedodd pennaeth dosbarthu'r Principality, Shaun Middleton.

“Er yr amodau mwyaf heriol i'r farchnad dai ers argyfwng ariannol byd-eang 2008, mae'r newyddion diweddaraf fod chwyddiant yn parhau i ostwng - er yn arafach na'r disgwyl - yn awgrymu y gallai marchnad dai Cymru weld arwyddion mwy positif yn fuan.

“Mae sawl dadansoddwr economaidd hefyd wedi darogan bod cyfradd sylfaen Banc Lloegr wedi cyrraedd brig o 5.25 a bydd yn gostwng eleni.

"Mae'r dybiaeth yma'n ysgogi cytundebau morgais gwell ac yn gwella fforddwyiadedd tai.”

Pynciau cysylltiedig