Mam a laddodd ei mab, 7, i dreulio cyfnod amhenodol mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 43 oed wedi cael ei dedfrydu ar ôl cyfaddef iddi ladd ei mab saith oed ddechrau'r flwyddyn.
Fe gafodd Papaipit Linse orchymyn ysbyty i gael ei chadw mewn uned iechyd meddwl am gyfnod amhenodol am ddynladdiad Louis Linse.
Cafodd y bachgen ei ganfod mewn gwely wedi ei dagu i farwolaeth ar ôl i Linse ei hun alw'r gwasanaethau brys i'w cartref yn Heol y Farchnad Uchaf, Hwlffordd am 10:45 fore Mercher, 10 Ionawr.
Fe blediodd Papaipit Linse yn euog i ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig, ond yn ddieuog i gyhuddiad o'i lofruddio - ple a gafodd ei dderbyn gan yr erlyniad.
'Teimlo fel robot'
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y diffynnydd wedi cyfaddef ei bod wedi lladd ei mab yn ystod galwad brys, gan ddweud ei bod "wedi teimlo fel robot" a heb allu stopio'i hun.
Fe gafodd Louis ei gludo i Ysbyty Llwynhelyg ble bu farw er gwaethaf ymdrechion i'w adfywio.
Dywedodd meddyg wrth y llys ei fod yn credu fod gan Papaipit Linse sgitsoffrenia paranoiaidd.
Clywodd y llys bod Linse wedi symud i'r DU o Wlad Thai yn 2017 ar ôl cyfarfod ei gŵr yn 2014, gan setlo yn Hwlffordd.
Adeg marwolaeth Louis, roedd ei gŵr yn glaf mewn uned sieciatryddol yng Nglannau Mersi, ac fe fyddai'r ddau'n ymweld ag e'n rheolaidd.
Yn ôl yr amddiffyn, dywedodd gwarchodwr plant a ofalodd am Louis yn y mis cyn ei farwolaeth bod perthynas "serchus" rhwng y fam a'i mab, cyn iddi sylwi ar "newid" yn y fam a thueddiadau "paranoiaidd".
Dywedodd y gwarchodwr bod Linse yn trafod cynllwyniau posib ac yn credu bod ysbrydion yn aflonyddu ar y tŷ.
Fe gysylltodd ag adran gwasanaethau cyhoeddus ar 9 Ionawr, a ddywedodd eu bod yn ymwybodol o'r teulu ac am "gadw golwg arnyn nhw".
'Pwl seicotig a arweiniodd at drasiedi'
Wrth ei dedfrydu Linse ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC ei fod wedi lladd ei mab "yn ystod pwl seicotig".
"Cafodd eich mab Louis ei ladd gennych chi nid oherwydd eich bod yn berson drwg. Bu farw oherwydd roeddech chi ar y pryd yn dioddef salwch meddwl.
"Pe tasech chi heb fod mor sâl ar y pryd ni fyddai byth wedi digwydd a byddech chi wedi cario ymlaen i fod yn fam dda, ofalgar, serchus iddo."
Ychwanegodd: "Roedd yr hyn a ddigwyddodd iddo yn drasiedi annisgrifiadwy ac rwy'n ymwybodol bod ei farwolaeth yn annioddefol i lawer o bobl.
"Rwyf wir yn gobeithio, fodd bynnag, y bydden nhw'n deall rhesymeg y gorchymyn."
Ychwanegodd bod y tri seiciatrydd a oedd wedi adolygu'r achos wedi cynghori yn erbyn dedfryd o garchar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024