Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-1 Sweden

- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal oedd hi yn Wrecsam nos Fawrth, ar ôl i Gymru ddod yn ôl yn erbyn Sweden i sicrhau eu pwynt cyntaf o Gynghrair y Cenhedloedd.
Filippa Angeldahl sgoriodd y gôl gyntaf o'r gêm i Sweden yn y STōK Cae Ras, gyda Kayleigh Barton yn sgorio o'r smotyn yn yr ail hanner i'w wneud hi'n 1-1.
Fe wnaeth Cymru golli eu gêm gyntaf o'r ymgyrch yn erbyn yr Eidal o un gôl i ddim yn Monza, ger Milan dydd Gwener.
Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf y gystadleuaeth yng ngrŵp 4 gyda'r Eidalwyr, Denmarc a Sweden.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
Mae'r canlyniad yn erbyn Sweden - un o dimau gorau'r byd - yn un hanesyddol a fydd yn llenwi tîm Rhian Wilkinson â hyder cyn eu gêm nesaf yn erbyn Denmarc ar 4 Ebrill.
Daeth gôl gyntaf y gêm ar ôl 14 munud wedi i gyffyrddiad gan Olivia Clark o groesiad lanio i Angeldahl.
Er ambell i gyfnod da i Gymru oddi ar y bêl ac mewn meddiant, roedd yr hanner cyntaf yn ddigon cyfforddus i Sweden a aeth i mewn i'r egwyl ar y blaen.

Y tîm yn dathlu ar ôl i Barton ei gwneud hi'n 1-1
Fe wnaeth Wilkinson newidiadau yn ystod yr egwyl gyda Jess Fishlock, Hannah Cain a Rhiannon Roberts ymlaen i'r ail-hanner.
Wrth i'r munudau fynd heibio, roedd Cymru'n tyfu i mewn i'r gêm daeth eu cyfle gorau hyd yna gyda Ceri Holland yn taro'r bêl dros y gôl o 20 llath.
Fe wnaeth Sweden daro'r postyn dwywaith, ond ar ôl cyfnod o amddiffyn da ac ambell i ergyd eu hunain, cafodd Cymru cic cosb ar ôl i beniad gan Barton daro llaw Emma Kullberg.
Gyda'r sgôr yn gyfartal, daeth Cymru'n agos iawn i'w gwneud hi'n 2-1 gydag arbediad isel gwych gan gôl-geidwad Sweden Jenifer Falk yn cadw ergyd Holland allan o'r rhwyd.