Holland yn ôl ar gyfer y gemau yn erbyn Denmarc a'r Eidal

Roedd adroddiadau y gallai Ceri Holland fethu Euro 2025 oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Lerpwl, Ceri Holland wedi ei chynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer eu gemau olaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni.
Roedd pryderon y gallai Holland, 27, fethu Euro 2025 oherwydd anaf, ond mae hi'n rhan o'r garfan o 26 o chwaraewyr y mae Rhian Wilkinson wedi ei ddewis i wynebu Denmarc a'r Eidal.
Mae'r golwr profiadol Laura O'Sullivan yn absennol ar ôl dioddef anaf i'w phen-glin, gyda Soffia Kelly, 18, wedi ei dewis yn ei lle.
Mae ymosodwr ifanc Manchester United, Mared Griffiths yn dychwelyd i'r garfan, tra bod Jess Fishlock a Kayleigh Barton hefyd wedi eu cynnwys ar ôl trafferthion diweddar gydag anafiadau.
Fe fydd Cymru yn wynebu Denmarc yn Odense ar 30 Mai cyn herio'r Eidalwyr yn Abertawe ar 2 Mehefin.
Mae Cymru ar waelod Grŵp A4 ac yn wynebu'r posibilrwydd o ddisgyn i haen B y gystadleuaeth.
Y garfan yn llawn
Golwyr: Olivia Clark (Leicester City), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Soffia Kelly (Aston Villa), Poppy Soper (Blackburn Rovers)
Amddiffynwyr: Rhiannon Roberts (Real Betis), Josie Green (Crystal Palace), Charlie Estcourt (DC Power), Hayley Ladd (Everton), Gemma Evans (Liverpool), Mayzee Davies (Manchester City), Lily Woodham (Crystal Palace - ar fenthyg o Seattle Reign), Ella Powell (Bristol City), Esther Morgan (Sheffield United).
Canol cae: Alice Griffiths (Durham - ar fenthyg o Southampton), Angharad James (Seattle Reign), Lois Joel (Newcastle United), Carrie Jones (IFK Norrköping), Jess Fishlock (Seattle Reign), Mared Griffiths (Manchester United).
Ymosodwyr: Ceri Holland (Liverpool), Rachel Rowe (Southampton), Kayleigh Barton (Charlton Athletic), Tianna Teisar (Bristol City), Hannah Cain (Leicester City), Ffion Morgan (Bristol City), Elise Hughes (Crystal Palace).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd18 Chwefror