Tom Lockyer: 'Genedigaeth fy merch wedi newid fy myd'
- Cyhoeddwyd
Mae amddiffynnwr Cymru wnaeth brofi ataliad ar y galon wrth chwarae wedi datgelu ei fod wedi dod yn dad am y tro cyntaf.
Fe ddisgynnodd amddiffynnwr Luton Town, 29, ar y cae mewn gêm Uwch Gynghrair yn erbyn Bournemouth ym mis Rhagfyr.
Dyna'r eildro i Lockyer gael problem ar ei galon, wedi iddo hefyd ddisgyn ar y cae yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth fis Mai diwethaf.
Mewn cyfweliad â phodlediad The Rest is Football, dywedodd y Cymro bod genedigaeth ei ferch "wedi newid ei fywyd" ac wedi cynnig persbectif newydd ar fywyd.
Dywedodd Lockyer mai "pêl-droed oedd y peth pwysicaf yn y byd... ond mae'r ferch fach yma wedi cyrraedd ac wedi newid popeth i mi".
"Y peth cyntaf ddaeth i'm meddwl ar ôl i mi ddisgyn oedd 'ma'n nghariad i yn yr eisteddle ac mae hi'n feichiog ers saith mis'.
"Ond dwi'n meddwl ei bod hi wedi delio â'r peth yn wych, ac roedd hi'n anhygoel drwy'r broses geni."
Mae meddygon wedi gosod teclyn ICD (implantable cardioverter-defibrillator) yn ei frest, sydd i fod i ailddechrau'r galon yn syth os oes digwyddiad tebyg yn y dyfodol.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ym mis Chwefror, dywedodd yr amddiffynnwr sydd wedi ennill 16 cap dros Gymru, ei bod hi'n "rhy gynnar" i wybod a fydd yn chwarae eto.
Ychwanegodd Lockyer, sydd heb chwarae ers y gêm honno ym mis Rhagfyr, ei fod yn gobeithio ymweld â'i glwb, Luton Town, yn fwy cyson yn y dyfodol agos.
"Yn amlwg mae'r babi newydd gyrraedd a does gen i ddim yr egni ar hyn o bryd - ond pan fydd pethau yn tawelu rywfaint, gobeithio bydd modd i mi fynd mewn yn amlach," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2023