Tafwyl am ddim yn 'tynnu pobl mewn i deulu ein diwylliant ni'

- Cyhoeddwyd
Mae'n "hollbwysig" bod gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd yn parhau am ddim er mwyn "tynnu'r rhai ar ymylon y Gymraeg... i mewn i deulu ein diwylliant ni", meddai un o'r trefnwyr.
Bydd yr ŵyl Gymraeg boblogaidd yn cael ei chynnal ym Mharc Biwt, Caerdydd dros y penwythnos.
Dyma'r 19eg tro i'r ŵyl i gael ei chynnal, a hynny ar ôl i'r cyfan gychwyn ym maes parcio tafarn y Mochyn Du yn 2006.
Er bod Tafwyl wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd, dywedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Heulyn Rees, eu bod yn bwriadu cadw'r ŵyl yn un am ddim.
Esboniodd bod gwneud hyn yn galluogi iddynt ddenu pobl "sydd ddim yn byw bywydau bob dydd yn y Gymraeg" i'r ŵyl ac i ddiwylliant Cymraeg.
'Mae wedi dod yn bell'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd: "Fi ddim yn siŵr bydde neb wedi disgwyl Tafwyl i fynd ar y trywydd y mae wedi mynd ar hyd y blynydde.
"Mae wedi dod yn bell o'i gwreiddiau yn y Mochyn Du."
Er bod yr ŵyl bellach yn denu miloedd yn flynyddol, mae'r fenter wedi parhau i gadw mynediad i'r ŵyl yn ddi-dâl, ac yn gobeithio parhau gyda hynny.
Dywedodd Mr Rees eu bod wedi gwneud gwaith ymchwil ar y gynulleidfa, ac er bod nifer o bobl yn nodi eu bod yn hapus i dalu am fynediad, dywedodd mai'r "hyn fydden ni'n ei golli bydd yr unigolion hynny fydden ni'n gobeithio eu targedu".

Yn Nhafarn y Mochyn Du, Pontcanna, y treuliodd Tafwyl ei blynyddoedd cynnar
Dywedodd ei fod yn awyddus i groesawu'r rheiny ar "ymylon y Gymraeg, sydd ddim yn byw bywydau bob dydd yn y Gymraeg".
"'Da' ni eisiau tynnu nhw i mewn i deulu ein diwylliant ac yn awyddus i beidio â'u colli."
Ychwanegodd fod yr "egwyddor am ddim" yn hollbwysig.
Wrth sôn am y gynulleidfa oedd yn yr ŵyl llynedd, dywedodd fod "ryw 12% o'r bobl ddaeth i mewn i'r maes llynedd yn bobl oedd digwydd bod yng Nghaerdydd, yn dwristiaid...
"Mae'n amlwg fod Tafwyl yn rhywbeth sy'n tynnu cynulleidfa y tu fas i'r gynulleidfa arferol."
'Monitro'r tywydd'
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd taranllyd ddydd Sadwrn a allai effeithio'r ŵyl.
Dywedodd Mr Rees fod y fenter yn "monitro'r sefyllfa".
Bydd digwyddiad nos Wener Tafwyl yn cael ei gynnal yn y Tafiliwn, sydd o dan do, felly dywedodd na fydd glaw yn effeithio ar y perfformiadau hynny.

Bydd yr ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 y flwyddyn nesaf, a dywedodd Mr Rees fod y paratoi wedi hen gychwyn.
"Mae Tafwyl wedi mynd yn rhywbeth sydd [angen] cynllunio blynyddol a mwy na blwyddyn bellach."
Ag yntau'n awyddus i weld yr ŵyl yn datblygu, ychwanegodd: "Y funud mae'r ŵyl yn sefyll yn llonydd yw'r funud mae'r ŵyl mewn dirywiad."
Y bwriad yw cynnal yr ŵyl ym Mharc Biwt eto'r flwyddyn nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd16 awr yn ôl