Ramsey ddim yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau Kazakhstan a Chanada

Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r capten Aaron Ramsey wedi'i adael allan o'r garfan ar gyfer y gemau nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey wedi cael ei adael allan o'r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Kazakhstan yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd a'r gêm gyfeillgar yn erbyn Canada.

Fe wnaeth y chwaraewr canol cae 34 oed chwarae ei gêm gyntaf i'w dîm newydd Pumas UNAM yn Mecsico yr wythnos diwethaf.

Dyma oedd y tro cyntaf iddo chwarae ers dioddef anaf i'w goes ym muddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Luton nôl ym mis Mawrth, felly mae'r rheolwr Craig Bellamy wedi penderfynu nad yw'n ddigon ffit ar gyfer y daith i Astana.

Tydi capten Leeds United, Ethan Ampadu, ddim wedi ei gynnwys chwaith ar ôl iddo ddioddef anaf i'w ben-glin yn eu buddugoliaeth yn erbyn Everton yn gynharach yn y mis.

Fe fydd Cymru yn wynebu Kazakhstan oddi cartref fel rhan o'r ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026 am 15:00 brynhawn Iau, cyn wynebu Canada yn Abertawe ar nos Fawrth, 9 Medi.

Ennill o 3-1 oedd hanes tîm Craig Bellamy pan deithiodd Kazakhstan i Gaerdydd nôl ym mis Mawrth.

Nathan BroadheadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Broadhead yn un o dri o chwaraewyr Wrecsam sydd wedi'u cynnwys yn y garfan

Does 'na ddim lle yn y garfan i Rubin Colwill er iddo greu argraff i Gaerdydd yn Adran Un y tymor hwn.

Ond mae dau o chwaraewyr ifanc Yr Adar Gleision - Dylan Lawlor a Ronan Kpakio - wedi eu cynnwys, yn ogystal â chwaraewr canol cae Coventry City Kai Andrews.

Andrews, Kpakio a Lawlor ydi'r unig chwaraewyr yn y garfan o 25 sydd heb ennill cap rhyngwladol.

Am y tro cyntaf mewn mwy na degawd mae chwaraewyr o Glwb Pêl-droed Wrecsam wedi eu dewis i fod yn rhan o garfan y tîm cenedlaethol, gyda Danny Ward, Nathan Broadhead a Kieffer Moore i gyd wedi'u cynnwys.

Mae Cymru yn ail yng Ngrŵp J gydag un golled yn eu pedair gêm yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn - colled o 4-3 yng Ngwlad Belg ym mis Mehefin.

Maen nhw bwynt y tu ôl i Ogledd Macedonia a enillodd 1-0 yn Kazakhstan, tra bod Gwlad Belg yn drydydd.

Y garfan yn llawn:

Gôl-geidwaid: Karl Darlow (Leeds United), Adam Davies (Sheffield United), Danny Ward (Wrecsam)

Amddiffynnwyr: Ben Cabango (Abertawe), Jay Dasilva (Coventry City), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ronan Kpakio (Caerdydd), Dylan Lawlor (Caerdydd), Chris Mepham (Bournemouth), Joe Rodon (Leeds United), Neco Williams (Nottingham Forest)

Canol cae: Kai Andrews (Coventry City), David Brooks (Bournemouth), Charlie Crew (Doncaster Rovers - ar fenthyg o Leeds United), Jordan James (Stade Rennais), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Sorba Thomas (Stoke City), Harry Wilson (Fulham)

Ymosodwyr: Nathan Broadhead (Wrecsam), Liam Cullen (Abertawe), Mark Harris (Oxford United), Lewis Koumas (Birmingham City - ar fenthyg o Lerpwl), Daniel James (Leeds United), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Kieffer Moore (Wrecsam)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.