Lleoedd nyrsio Prifysgol Caerdydd i gael eu 'hail-leoli' i sefydliadau eraill

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri cannoedd o swyddi, ac yn ystyried cael gwared ar rai adrannau yn llwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru, Vikki Howells AS wedi dweud bod y llywodraeth yn hyderus y gallai lleoedd cwrs nyrsio Prifysgol Caerdydd gael eu "hail-leoli i sefydliadau eraill yng Nghymru."
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales dywedodd ei bod yn gweithio gyda phrifysgolion eraill i ail-leoli'r lleoedd petai Prifysgol Caerdydd yn bwrw ymlaen gyda'r cynnig i ddod â'i cwrs nyrsio i ben.
Ddiwedd Ionawr fe ddywedodd y brifysgol eu bod yn bwriadu cael gwared â 400 o swyddi academaidd llawn amser er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad.
Yn rhan o'r cynigion hefyd roedd cael gwared â rai adrannau yn llwyr, gan gynnwys nyrsio.
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
Fel rhan o'r newidiadau'r brifysgol byddai 7% o'r gweithlu yn colli eu swyddi er mwyn mynd i'r afael â diffyg ariannol o £31m yng nghyllideb y brifysgol.
Wrth ymateb i'r cynigion ar y pryd, dywedodd Helen Whyley o Goleg Nyrsio Brenhinol (RCN) mae'r cynigion yn "bryderus" wrth ddisgrifio Prifysgol Caerdydd fel un o ddarparwyr mwyaf nyrsys gyda mwy na 1,000 o fyfyrwyr.
Dywedodd y brifysgol bod y cynigion er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad a'i bod ar hyn o bryd yn cynnal proses ymgynghori sydd am bara 90 diwrnod.

Mae staff a myfyrwyr wedi bod yn protestio yn erbyn cynlluniau posib ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ôl Vikki Howells, mae'r cynnig i ddod a chwrs nyrsio'r brifysgol i ben yn "hynod siomedig".
Dywedodd "Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda phrifysgolion eraill yn yr ardal ac yn hyderus, os bydd Caerdydd yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau anffodus hyn i dorri eu hysgol nyrsio, y gallwn ail-leoli'r lleoedd hynny i sefydliadau cyfagos."
Byddai hyn er mwyn sicrhau "nad oes bygythiad i'r targed o nyrsys yr ydym yn edrych i'w recriwtio" meddai.
Aeth ymlaen i ddweud bod "trafodaethau yn parhau" ac nid oes modd manylu ar yr opsiynau ym mhellach.
Er hyn, dywedodd ei bod yn "hyderus y gallwn gynnal lleoedd nyrsio cyffredinol yn y rhanbarth a hefyd ledled Cymru."
Mae Prifysgol Caerdydd eisoes wedi dweud bod y cynigion er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad.