Cannoedd yn protestio'n erbyn toriadau 'hurt' Prifysgol Caerdydd

protestwyr
  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o staff addysg uwch a myfyrwyr wedi bod yn protestio y tu allan i'r Senedd yn erbyn cynlluniau posib i dorri swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wythnos diwethaf fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi eu bod yn bwriadu torri cannoedd o swyddi, ac yn ystyried cael gwared ar rai adrannau yn llwyr.

Fe wnaeth ymgyrchwyr yn y brotest, a gafodd ei drefnu gan Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU), alw ar weinidogion i gynnig rhagor o gefnogaeth ariannol i'r sector.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle nad oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael i gefnogi prifysgolion, ond mae hi'n trafod diwygiadau posib i'r sector gyda Llywodraeth y DU.

Daw'r protestiadau ar ôl i Brifysgol Caerdydd gyhoeddi eu bod yn ystyried newidiadau er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad.

Mae'r cynigion yn cynnwys cau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, uno adrannau eraill a thorri 400 o swyddi academaidd llawn amser.

Fel rhan o'r newidiadau byddai 7% o'r gweithlu yn colli eu swyddi er mwyn mynd i'r afael â diffyg ariannol o £31m yng nghyllideb y brifysgol.

Fe gafodd y staff wybod am y newidiadau arfaethedig wythnos diwethaf, ac mae'r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad fydd yn para 90 diwrnod.

Mae'r UCU yn dweud eu bod am gynnal pleidlais ymhlith aelodau ar weithredu diwydiannol posib.

Ysgrifennydd Cyffredinol UCU, Dr Jo Grady
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y canlyniadau i Gaerdydd yn debyg i'r effaith ar Bort Talbot pan gaeodd safle dur Tata, meddai Dr Jo Grady

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCU, Dr Jo Grady fod y toriadau wedi bod yn "sioc enfawr" i staff y brifysgol.

"Mae'r ffordd y mae prifysgolion yn cael eu hariannu yn y DU yn ansefydlog," meddai.

"Mae problemau ariannol gyda nifer o sefydliadau, ond wedyn mae sefydliadau fel Prifysgol Caerdydd sydd â digon yn ei gronfeydd - miliynau a miliynau o bunnoedd - sy'n dewis y foment hon i ailstrwythuro ac i dorri cyrsiau sydd am gael effaith negyddol ar y brifysgol ond hefyd ar Gymru gyfan a Chaerdydd yn enwedig."

Mae Dr Grady yn galw am "weithredu brys" gan Lywodraeth Cymru ac am fwy o fuddsoddiad yn y brifysgol.

"Os nad oes buddsoddiad nawr bydd sgil-effaith ar y ddinas hon yn debyg i be' welsom ni pan syrthiodd Tata Steel.

"Byddwn yn cymryd camau diwydiannol os oes angen."

Carys Davies, myfyrwraig nyrsio
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n anodd gwybod beth sydd gan y dyfodol i nyrsio yn gyffredinol yma yng Nghymru," meddai Carys Davies, sy'n astudio nyrsio yn y brifysgol

Dywedodd Carys Davies, myfyrwraig nyrsio fod penderfyniad y brifysgol i dorri'r cwrs yn "hurt".

"Mae prinder o nyrsys yma yng Nghymru felly dwi ddim yn deall pam mae'r brifysgol eisiau torri'r cwrs, dydi o ddim yn gwneud synnwyr," meddai.

"Mae'n anodd gwybod beth sydd gan y dyfodol i nyrsio yn gyffredinol yma yng Nghymru gyda phopeth sy'n mynd ymlaen."

'Dim arian ychwanegol i brifysgolion'

Wrth siarad â BBC Politics Wales, Ysgrifennydd Addysg Cymru, Vicky Howells na fyddai modd rhoi arian ychwanegol i brifysgolion "heb gyflwyno toriadau mewn meysydd eraill fel y gwasanaeth iechyd, addysg neu wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill".

Ychwanegodd ei bod yn edrych newidiadau posib i'r ffordd y mae addysg uwch yn cael ei ariannu ar y cyd â Llywodraeth y DU.

"Fe fyddwn ni'n rhan o'r gwaith yma fydd yn canolbwyntio ar sut gallwn ni ddiwygio'r sector addysg uwch ar draws y DU.

"Gallwn edrych ar faterion fel mudo, myfyrwyr tramor, cyfraith cystadleuaeth a rheolau'r Trysorlys sy'n gyfrifol am drefniadau cyllid myfyrwyr."