Pryder ymysg disgyblion sy'n bwriadu astudio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae rhai disgyblion ysgol a oedd yn bwriadu mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio wedi dweud eu bod yn bryderus iawn ynglŷn â'r dyfodol.
Ddydd Mawrth fe wnaeth y brifysgol gyhoeddi eu bod yn bwriadu torri 400 o swyddi a'u bod yn ystyried cael gwared ar rai adrannau yn llwyr.
Ymhlith y pynciau mae'r brifysgol yn ystyried eu dyfodol mae cerddoriaeth, nyrsio, ieithoedd modern a chyfieithu.
Mae disgyblion o Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn dweud bod amseru'r cyhoeddiad yn creu ansicrwydd gan ei fod wedi dod ddiwrnod cyn dyddiad cau cyflwyno cais i'r brifysgol.
Mewn datganiad, pwysleisiodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd mai "cynigion sydd gerbron ar hyn o bryd a does dim penderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud".
Ychwanegodd eu bod eisiau "rhoi sicrwydd i ymgeiswyr a darpar fyfyrwyr y bydd rhaglenni ar gyfer 2025/2026 yn parhau".
Mae Enlli o Ysgol Bro Myrddin yn un o'r rhai sy'n gobeithio astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Noson cyn dyddiad cau UCAS, mae'n rhoi sioc i chi - bach o ansicrwydd," meddai.
"Sai'n gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd o ran cwrs fi, dyfodol fi.
"Galle'r brifysgol wedi rhoi lot mwy o warning i ni bod hwn falle'n mynd i ddigwydd."
Ychwanegodd ei bod hi'n awyddus i fynd i Gaerdydd i gael bod yng nghwmni lot o Gymry Cymraeg eraill, ond efallai y bydd yr hyn y mae Prifysgol Caerdydd yn ei ystyried yn ei hannog i astudio y tu allan i Gymru.
"Mae shwt gymaint o brinder athrawon cerdd yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg, i feddwl bod y cyfle 'na yn gallu cael ei gymryd bant a stopio pobl rhag gwneud cerdd yng Nghymru, ma' fe jest yn ofnadwy," ychwanegodd.
Yn y cyfamser mae dros 3,000 o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n galw am achub yr adran gerddoriaeth.
Dywed pennaeth gweithrediadau UCAS eu bod ar gael i gynnig help, ac os yw'r cwrs yn parhau ar wefan UCAS, bod modd i fyfyrwyr wneud cais fel arfer.
'Pwnc nyrsio ar gael yn 2025'
Yn y tymor byr mae Prifysgol Caerdydd yn dweud na fydd unrhyw effaith uniongyrchol ar fyfyrwyr nyrsio na'u gallu i gwblhau eu hastudiaethau.
"Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni gradd nyrsio i'r myfyrwyr sy'n dechrau yn 2025," medd llefarydd.
"Rydym yn hynod ymwybodol o'n rôl wrth ddarparu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i Gymru a thu hwnt ac rydym yn ymgynghori."
Ond mae'r cyfan yn creu ansicrwydd, medd Cady, sy'n gobeithio astudio nyrsio plant yng Nghaerdydd.
Wrth gyflwyno ei chais ar y diwrnod olaf i wneud hynny dywedodd: "Mae'n 'neud i fi feddwl, fi moyn newid opsiynau fi nawr.
"Fi 'di rhoi dau gais mewn i Gaerdydd, a ma' hyn wedi rhoi sioc i fi - tri cais s'da fi ar ôl nawr, a so hynny'n rhoi comfort i fi bo' fi am gael mewn i brifysgol.
"Fi moyn mynd mas o Gymru nawr. S'dim digon o ysgolion yng Nghymru fi moyn mynd i, felly fi moyn edrych ar ysgolion tu fas i Gymru."
'Ni angen nyrsys Cymraeg'
Ychwanegodd bod "effaith nid jest arno fi, ond ar holl ddyfodol yr NHS hefyd".
"S'dim 'da'r NHS digon o nyrsys yn barod, felly ble maen nhw'n mynd i gael nyrsys os ydyn nhw'n cael gwared ar y cwrs yng Nghaerdydd.
"S'dim logic tu ôl iddo fe - ni angen nyrsys, a ni angen nyrsys Cymraeg hefyd.
"Un o'r pethau pwysica' am nyrsio yw bo' chi'n gwneud i'r claf deimlo'n gyfforddus, felly wrth siarad gyda rhywun yn eu hiaith nhw, mae'n gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy cartrefol.
"Os fi'n mynd tu fas i Gymru, sai'n mynd i ddefnyddio iaith fi."
Mae Siwan o Ysgol Bro Myrddin yn gobeithio astudio'r Gyfraith a'r Gymraeg yng Nghaerdydd.
Tra nad oes bygythiad i'r pynciau hynny, byddai'r Gymraeg fel adran yn cael ei huno gyda Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, ac elfennau sy'n weddill o Hanes Archaeoleg a Chrefydd ac Ieithoedd Modern i greu Ysgol y Dyniaethau Byd-eang.
Dywedodd fod y cyhoeddiad ddydd Mawrth wedi dod fel "cymaint o sioc".
"Chi'n disgwyl i Gaerdydd, fel y brifysgol fwyaf yng Nghymru, i fod yn eitha' sicr o ran cyllid, ond mae'n amlwg fod rhywbeth mawr wedi digwydd - mae llawer o brifysgolion mewn trafferth ariannol ar hyn o bryd.
"Mae 'na ansicrwydd i bawb sy' wedi rhoi cais mewn yng Nghaerdydd nawr - oes mwy o doriadau yn mynd i ddod?
"Oes mwy o newidiadau'n mynd i ddigwydd?"
'Gall myfyrwyr wneud cais fel arfer'
Fe gafodd staff Prifysgol Caerdydd wybod am y newidiadau arfaethedig ddydd Mawrth, ac mae'r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad fydd yn para 90 diwrnod.
Yn gynharach roedd y brifysgol wedi dweud eu bod angen cymryd camau i fynd i'r afael â diffyg ariannol o £30m yn y gyllideb, wrth i gostau cynyddol a llai o fyfyrwyr rhyngwladol greu pwysau ar y sector addysg uwch yn gyffredinol.
Wedi cyhoeddiad dywedodd Courteney Sheppard, pennaeth gweithrediadau UCAS: "Mae UCAS wrth law i gefnogi myfyrwyr - i gael cyngor ar wneud penderfyniadau a chymorth gyda'u cais.
"Os yw myfyriwr yn bwriadu gwneud cais i gwrs, a bod y cwrs yn parhau i fod ar agor ar wefan UCAS, gall myfyrwyr wneud cais fel arfer.
"Os oes gan fyfyriwr bryder am gwrs penodol, rydym yn eu hannog i siarad â'r brifysgol neu'r coleg yn uniongyrchol.
"Dydd Mercher yw dyddiad cau cyflwyno ffurflenni UCAS, ond gall myfyrwyr barhau i wneud cais i brifysgol neu goleg tan y broses glirio yn yr haf - cyhyd â bod y cyrsiau'n parhau ar agor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024