A fyddai agor meysydd parcio preifat yn datrys problemau traffig Eryri?

Disgrifiad,

Car yn cael ei dowio ger Pen-y-pass yn Eryri yn ystod penwythnos y Pasg 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw ar Barc Cenedlaethol Eryri i ystyried llacio rheolau a'i gwneud yn haws i berchnogion tir i agor meysydd parcio preifat.

Ers rhai blynyddoedd mae ceir yn parcio ar briffyrdd wedi bod yn broblem mewn sawl cymuned wrth i ymwelwyr heidio i rai o atyniadau amlyca'r ardal.

Ond er cyflwyno sawl mesur, gan gynnwys mwy o fysiau a symud ceir sy'n parcio'n anystyriol, barn un aelod o awdurdod y parc yw fod angen gwneud mwy.

Yn ôl John Pughe Roberts, fe allai agor meysydd parcio preifat fel rhan o gynllun peilot helpu rhai ffermwyr i arallgyfeirio hefyd.

Ond dywed awdurdod y parc nad yw syniad o'r fath yn syrthio o fewn polisïau cynllunio cyfredol.

Disgrifiad o’r llun,

Ar un diwrnod yn unig yn ystod penwythnos y Pasg 2023 cafodd 29 o gerbydau eu towio am barcio peryglus ar y ffyrdd cul ger Llyn Ogwen

'Yr un hen stori'

Dydy problemau parcio ddim yn beth newydd yn Eryri.

Mewn rhai ardaloedd mae cwyno wedi bod am gerbydau argyfwng yn cael eu rhwystro oherwydd pobl yn parcio ar ochr y ffordd.

Y llynedd cafodd bron i 30 o gerbydau eu towio am barcio'n beryglus ar yr A5 yn ardal Llyn Ogwen ar ddydd Gwener y Groglith.

Tra bod y parc cenedlaethol yn gyfrifol am sawl maes a chyfleuster parcio eu hunain, mae nifer yr ymwelwyr â rhai rhannau o'r parc yn golygu nad yw'r llefydd rheiny wastad yn ddigonol.

Disgrifiad o’r llun,

John Pughe Roberts: "Fasa'n well gan bobl dalu £10 i wybod bod eu ceir yn saff"

Yn ôl y Cynghorydd John Pughe Roberts, sy'n ffermio yn ogystal â bod yn gynghorydd sir yng Ngwynedd, mae'n amser edrych am atebion eraill.

Mae'n awgrymu y dylai tirfeddianwyr yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd dderbyn caniatâd cynllunio dros dro i agor meysydd parcio preifat.

Byddai modd wedyn, meddai, i rannu unrhyw incwm rhwng y tirfeddiannwr a'r Parc at gynnal a chadw llwybrau yn lleol, gan dargedu'r ardaloedd lle mae'r broblem ar ei waethaf.

"'Da ni isho croesawu pobl. Fasa'n well gan bobl dalu £10 i wybod bod eu ceir yn saff," meddai Mr Roberts.

"Mae pawb yn gwybod lle mae'r hotspots, ac [ar y funud] 'di o'm yn deg i amaethwyr chwaith sydd eisiau mynd ymlaen hefo'u gwaith hefo ffyrdd 'di cau a pobl yn parcio o flaen giatiau ac ati.

"Fyddai hyn yn lleddfu'r broblem hwnnw hefyd a fyddai'r ffyrdd yn fwy agored i bobl."

Ffynhonnell y llun, Geraint Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r B4403 rhwng Llanuwchllyn a'r Bala hefyd wedi cael ei rhwystro ar adegau prysur oherwydd nifer y rhai sy'n parcio ar ochr y ffordd

Dywedodd ei fod yn "siomedig" fod mesurau o'r fath yn groes i bolisi'r Parc, ond fod lle i ail edrych.

"Ar hyn o bryd dydy o'm yn gweithio i neb... y twristiaid na phobl leol."

'Mae ishe' edrych ar bob cyfle'

Yn ôl Gwynedd Watkin, swyddog sirol Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngwynedd, mae'n syniad sy'n deilwng o drafodaeth bellach.

"Mae unrhyw fath o syniad i'w groesawu er mwyn trio datrys problemau amlwg sydd wedi bod yn y gorffennol," meddai.

"'Da ni wedi gwyntyllu'r syniad yma ers blynyddoedd lawer i ddweud y gwir, ond wedi cael ein harwain i gredu byddai'r adran gynllunio ddim yn goddef y ceisiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Gwynedd Watkin: "Mae cyfle i arallgyfeirio"

Mae gan amaethwyr yr hawl i newid defnydd tir am 28 diwrnod mewn blwyddyn, ac yn ôl Mr Watkin "mae'n debyg bod y rhai sydd â diddordeb yn gwneud hynny'n barod".

"Mae'n gyfnod ansicr iawn [i'r diwydiant] ac mae ishe' edrych ar bob cyfle, ond hefo maes parcio mae angen safle cyfleus ac fydd yn gallu cael ei warchod, a bydd costau.

"Mae 'na rai pobl wedi trio blychau gonestrwydd ac wedi gweithio'n dda mewn rhai llefydd, ond mae cyfle i arallgyfeirio."

'Lle i agor y sgwrs eto'

Yn ôl Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlethol Eryri, mae gwaith caled wedi bod yn mynd yn ei flaen dros y blynyddoedd diwethaf.

Neges y parc o hyd, meddai, yw i bobl baratoi o flaen llaw ond bod sawl mesur eisoes wedi bod yn llwyddiannus.

"Mae gwasanaeth [bws] Sherpa'r Wyddfa wedi ei wella'n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf a mae cynnydd o 70% wedi bod yn y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yna - 'da ni mor falch o hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Jones yn pwysleisio mai'r cyngor o hyd yw i ymwelwyr baratoi o flaen llaw

"Mae 'na bartneriaeth hefyd sy'n edrych ar y sefyllfa yn ardal Ogwen, mae llinellau melyn dwbl yna erbyn hyn a hefyd arwyddion newydd yn dangos ei fod yn barth lle all pobl gael eu towio.

"'Da ni wedi gwneud cynlluniau gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ac mae bws yno, y T10 yn mynd o Fangor i Gorwen bob awr, ac mae'r clwb pêl-droed ym Methesda yn cynnig llefydd parcio i bobl ddefnyddio'r T10."

Gan gyfeirio at syniad Mr Roberts, dywedodd byddai angen ystyriaeth ehangach.

"Mae'n ddeddf cynllunio gan Lywodraeth Cymru felly yn rheol ar draws y wlad felly fyddai angen newid ar lefel genedlaethol, ond mae ein cynllun datblygu lleol ni yn caniatáu pobl i ddefnyddio neu agor meysydd parcio i fyny at 28 diwrnod bob blwyddyn.

"Mae'r cynllun datblygu lleol yn Eryri yn cael ei adolygu flwyddyn nesa' felly mae lle i agor y sgwrs eto wrth gwrs, ond fydd rhaid cael newid cenedlaethol."