'Nes i adael coleg i helpu mam efo costau byw'
- Cyhoeddwyd
Er ei bod yn gweithio’n llawn amser mae Beca Williams o Ddeiniolen yn meddwl y bydd angen ail swydd arni i allu fforddio gwersi gyrru.
Fe wnaeth y fenyw ifanc 18 oed adael y coleg dwy flynedd yn ôl i helpu ei mam gyda chostau byw, ac ar un pwynt roedd hi'n gweithio "12 awr y diwrnod - saith diwrnod yr wythnos".
Yn fuan wedyn fe brynodd gar iddi’i hun, sy'n eistedd tu allan i dŷ ei mam heb ei ddefnyddio.
Dywedodd Beca ei bod hi bron â rhoi’r gorau i’r syniad o yrru erbyn hyn, gyda gwersi’n costio “£70 yr wythnos” – a’r rhan fwyaf o’i chyflog eisoes yn mynd tuag at filiau.
"Nes i gadw'r car fel motivation rili, ond mae 'na ond gymaint ti'n gallu neud tan ti'n deud i dy hun 'does 'na'm point, dwi methu fforddio fo'," meddai.
"Dio ddim just y gwersi, ti efo'r insurance, y tax, petrol, a bob dim arall sy'n dod efo fo."
Mae gan Beca swydd llawn amser yn gweithio ar y peiriannau gwnïo mewn ffatri gyfagos ond mae’n teimlo bod pobl ifanc o deuluoedd incwm is yn cael eu “hanwybyddu” gan wleidyddion.
Yr etholiad cyffredinol fis nesaf fydd y tro cyntaf iddi allu pleidleisio, ond dyw Beca ddim yn siŵr a fydd hi'n gwneud hynny.
"Mae 'na lot o bobl yn stryglo. Mae'r argyfwng costau byw dal i fynd. Dydi prisiau pethau heb ddod lawr o gwbl eto," meddai.
“Mae teuluoedd yn trio cael eu clywed a'n trio dweud wrth wleidyddion, ond does dim byd yn cael ei wneud.
"Ti'n teimlo fel ti'n sownd mewn loop ti methu cael allan o, a mae o am fod yr un peth am weddill dy fywyd, achos dyna be' ydy bod yn oedolyn.
"Dwi 'di cael lot o bobl yn gofyn os dwi am bleidleisio blwyddyn yma achos dwi newydd droi'n 18. Ar y funud, dwi'm yn teimlo fel bod nhw'n gwrando."
Dywedodd Beca ei bod yn ddiolchgar bod ei swydd yn talu mwy na’r isafswm cyflog ar gyfer ei hoedran, ond nad yw'r £1,400 mae’n ei ennill bob mis yn ddigon i fforddio gwersi gyrru – a pharhau i dalu tuag at filiau’r cartref, bwyd a chostau trên a bws.
Dywedodd ei bod yn teimlo bod llawer o bobl o'i hoedran hi wedi blino'n lân gan gostau byw.
"Dwi di sylwi fod lot o bobl oed fi yn mynd i hospitality, a lot o nhw'n gadael coleg fel nes i," meddai.
"Mae rhent yn £700 y mis - 'di hynna just ddim yn bosib ar gyflog rhywun sy'n 18 oed.
"Does genna ni ddim y pres i fynd i unrhyw le.
"Fedran ni ddim bod allan yn hwyr achos rhan fwyaf o'r amser mae gennym ni gyfrifoldebau dylia ni ddim cael yn 18."
Mae mam Beca, Delyth, yn cytuno fod pethau’n mynd yn anoddach i’w phlant.
Dywedodd y rheolwr elusen, 46, sy’n fam sengl i dri, y bu’n rhaid iddi wneud yn glir i’w phlant na allen nhw "ddibynnu ar fanc mam" i'w hachub.
"Mae'r genhedlaeth yma wedi mynd trwy gymaint efo lockdown ac wedi methu allan ar gymaint," meddai.
"Pan o'n i'n ifancach, os o'n i isio mynd allan yn y nos o'n i'n gallu - ac o'n i ddim o deulu cyfoethog.
"Rŵan maen nhw'n gorfod edrych ar ôl eu pres gymaint i bob dim."
'Di o ddim yn ddigon'
Dywedodd Delyth ei bod yn eistedd i lawr gyda Beca bob wythnos i edrych dros ei chyllideb a’i harian, ac mai’r unig bethau roedd hi'n ei wario ar ei hun oedd ei gwallt a'i hewinedd.
Dywedodd Delyth fod y teulu cyfan wedi cael trafferth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Dwi'n gweithio, dwi'n gwneud pres, ond 'di o ddim yn ddigon.
"O'n i'n arfer gallu gwneud y weekly shop am £45 - mae o'n ddwbl hynna wan.
"O'n ni'n arfer gallu mynd am ddiwrnodau allan bach, dim byd mawr.
"Ond dwi methu cofio'r tro ola' aethon ni allan fel teulu, 'di o ddim yn rhywbeth allwn ni fforddio gwneud ddim mwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2024