Ffioedd fflatiau wedi dyblu er eu bod yn 'ffiaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion bloc o fflatiau yn Sir Gâr wedi gweld eu ffioedd cynnal a chadw yn bron a dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r ffi yma yn talu am wasanaethau cynnal a chadw, ond yn ôl rhai sy’n byw yno mae ei gyflwr yn “ffiaidd”.
Mae'r cwmni sy'n rhedeg Llys Newydd yn Llwynhendy wedi'i leoli yn Birmingham, ac mae trigolion yn dweud nad ydyn nhw'n ymweld â’r safle yn rheolaidd.
Dywedodd un sydd wedi byw yno am bedair blynedd: “Dydyn nhw ddim yn ein trin ni fel pobl, maen nhw’n ein trin fel rhifau.”
Mae'r Principle Estate Management, sy'n rhedeg yr adeilad, wedi gwrthod gwneud sylw.
Symudodd Mandy Francis, 64, i'w fflat yn 2019. Ar y pryd roedd hi'n hapus gyda'i phenderfyniad.
Ond yna, dechreuodd ffioedd cynnal a chadw godi o £1,080 i dros £2,647 y flwyddyn.
Ond er y cynnydd, mae trigolion yn dweud fod cyflwr yr adeilad wedi dirywio.
Mae Mandy yn teimlo gormod o gywilydd i gael ffrindiau draw i’w chartref.
'Blêr, llaith, drewi'
“Os allwn i ei chludo hi [ei ffrind] o’i char i mewn i fy fflat byddwn i’n hapus, ond i gael hi’n cerdded drwy’r fynedfa dwi’n meddwl ‘o na, alla i ddim gwneud hynny’," meddai.
“Mae’r ardaloedd blaen yn ofnadwy. Mae'n flêr, mae'n llaith, mae'n drewi.”
Yn ôl Mandy dyw Principal Estate Management ddim yn ymweld â'r safle yn rheolaidd.
"Dydyn nhw ddim yn gwybod ein sefyllfa yma. Ni ddim ar gyflogau Llundain.
"Byddwn i'n dweud bod y rhan fwyaf o drigolion fel fi, ar isafswm cyflog."
Yn ôl Llywodraeth y DU mae'r rhan fwyaf o fflatiau yng Nghymru a Lloegr yn brydles (leasehold).
Mae hynny'n golygu, er bod trigolion yn berchen ar eu fflat am gyfnod o amser, dydyn nhw ddim yn berchen ar yr adeilad.
Mae lesddeiliaid yn talu'r rhydd-ddeiliad (freeholder) - perchnogion yr adeilad - trwy asiant rheoli, ar gyfer cynnal a chadw ardaloedd allanol a chymunedol.
Mae'r taliadau hyn yn cynnwys pethau fel paentio'r adeilad neu sicrhau bod mannau cymunedol yn lân.
Y llynedd roedd Mandy yn cael triniaeth canser ac i ffwrdd o'r gwaith.
Mae hi'n dweud bod Principal Estate Management, wedi gofyn am daliad ychwanegol o £375 gan bob preswylydd ar gyfer costau cynnal a chadw.
Doedd Mandy ddim yn gallu talu'r ffi, ac mae'n honni iddi gael ei bygwth â chamau cyfreithiol. Cafodd ei gorfodi i fenthyg arian gan aelod o'i theulu er mwyn ei dalu.
“O’n i methu cysgu," meddai.
"Roedd yn gwneud y broses o wella o ganser yn anoddach oherwydd roeddwn i’n becso am arian drwy’r amser.
“Dydyn nhw ddim yn ein trin ni fel pobl, maen nhw'n ein trin ni fel rhifau.”
Symudodd Hefin Dafydd, 52, i’r adeilad mis Rhagfyr 2023.
“[Mae] pethau ‘di rhydu neu ddiffyg paentio. Mae ‘na dipyn o damprwydd tu mewn i’r fflatiau. Mae’n ofnadwy a’n weledol iawn," meddai.
Mae Hefin yn poeni am yr effaith gall y problemau diweddar gael ar werth ei fflat.
“Mae rhywun eisiau gwerth y fflat i godi, felly heb gynnal a chadw dim ond un ffordd 'neith y pris fynd. Mae hynny yn fy mhoeni i.”
Ychwanegodd: “Mae dal yn gartref ar ddiwedd y dydd - fy nghartref i ydy o. Dwi jest efo pawb arall sy’n byw yma a’n gobeithio’r gorau am y dyfodol.”
'Angen llawer mwy o dryloywder'
Mae’r Mesur Diwygio Cyfraith Lesddaliad yn mynd drwy’r Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd.
Yn ôl Llywodraeth y DU fe fydd yn gwella perchnogaeth tai i filiynau ar draws Cymru a Lloegr, drwy wella tryloywder taliadau gwasanaeth, ac ymestyn y brydles 990 mlynedd.
Byddai'r mesur hefyd yn golygu gwahardd unrhyw dai lesddaliad newydd, ond nid fflatiau.
Mae Nia Griffith, AS Llanelli, eisiau gweld fflatiau yn cael eu gwahardd hefyd.
“Mae’n bwysig iawn bod pob adeilad sy’n cael eu hadeiladu nawr ddim yn llesddaliad achos mae’n hen ffasiwn," meddai.
"Mae angen llawer mwy o dryloywder i bobl weld beth sy’n mynd 'mlaen a beth maen nhw’n talu amdano.
“Y ffaith yw, unwaith chi wedi symud mewn ac mae ffioedd yn cynyddu a dydych chi ddim yn gallu talu, mae perygl eich bod chi’n colli’ch tŷ.”
Beth ddylai rhywun wneud yn y sefyllfa yma?
Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau yn rhoi cyngor cyfreithiol ar faterion lesddaliad. Maen nhw'n cynghori pobl i:
Weithio gyda phreswylwyr eraill i ffurfio grŵp preswylwyr lesddeiliaid;
Gall trigolion ystyried cymryd drosodd rheolaeth eu hadeilad o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 dan yr "Hawl i Reoli";
Cadw cofnod o lythyrau at y rheolwyr, cyfarwyddwyr neu landlordiaid;
Dylai lesddeiliaid dalu eu ffioedd yn gyntaf, ac yna mynd ati i’w herio.
'Hollol annerbyniol'
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn disgwyl i landlordiaid drafod â phreswylwyr ynglyn â chostau gwaith mawr, lle bo' cyfiawnhad dros hynny.
Ond ychwanegwyd bod codiadau na allen nhw gyfiawnhau yn “hollol annerbyniol”.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am dai yng Nghymru ond byddai rhai cyfreithiau, fel y mesur diwygio yma, yn berthnasol i Gymru yn ogystal â Lloegr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Byddwn ni’n parhau i adolygu ac ystyried a oes angen unrhyw newidiadau pellach ar ôl rhoi’r gwelliannau sylweddol yn y mesur hwn ar waith.”
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023
Mae Wallace Estates yn rhannol gyfrifol am redeg y bloc o fflatiau yn Llwynhendy.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd: “Mae’r gofyniad i osod system larwm tân newydd yn Llys Newydd, ynghyd â chwyddiant uchel, wedi achosi i gost cynnal a chadw gynyddu.
“Rydym yn cydymdeimlo â’r lesddeiliaid ac yn gweithio gyda Principle Estate Management i ledaenu’r costau i helpu lesddeiliaid ar adeg pan fo cyllid aelwydydd eisoes dan bwysau.”