Eisteddfod yr Urdd 2026: 'Bydd croeso Môn yn un twymgalon'

Roedd Llywarch, Bedwyr a Gruff ymhlith y rheiny oedd yn mwynhau'r Ŵyl Groeso ym Mona brynhawn Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Roedd cannoedd o blant a phobl ifanc yn rhan o ddigwyddiadau amrywiol ar Ynys Môn brynhawn Sadwrn wrth i'r sir baratoi i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2026.
Yn eu coch, gwyn a gwyrdd, fe ddaeth ynyswyr ynghyd wrth i Fôn groesawu'r ŵyl ieuenctid am y tro cyntaf ers 2004.
Yn wreiddiol roedd bwriad i lansio'r Ŵyl Groeso gyda gorymdaith drwy strydoedd Llangefni, ond oherwydd y tywydd bu'n rhaid symud yr holl ddathlu i Faes Sioe Môn.
Celt, Fleur de Lys a Cordia fydd yn cloi'r dathliadau gyda gig ym mhafiliwn y maes.

Plant yn mwynhau rhai o'r gweithgareddau
Fe fydd yr Eisteddfod ym Môn fis Mai nesa' yn un arloesol, wrth i'r ŵyl ehangu o chwe diwrnod i saith am y tro cyntaf.
Maes y sioe ym Mona, ger Gwalchmai, fydd cartref yr wŷl - gyda'r digwyddiad brynhawn Sadwrn yn cael ei weld fel rhan annatod o'r gwaith paratoi, yn ogystal â chyfle i godi arian ac ymwybyddiaeth.
Dywedodd Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, fod y gwaith hwnnw'n mynd yn dda.
"'Dan ni'n ffodus iawn yma fod gennym ni gymunedau gweithgar iawn, ledled yr ynys, sydd wedi bod yn brysur iawn dros y flwyddyn a hanner diwetha' yn cynnal bob math o weithgareddau i godi pres at yr Eisteddfod," meddai.
"Mae gennym ni darged ariannol o £380,000 a 'da ni 'di cyrraedd £200,000 hyd yma.
"Felly mae gennym ni ffordd i fynd eto ond 'da ni mor ddiolchgar am yr holl waith mae'n holl wirfoddolwyr ledled yr ynys wedi ei wneud i helpu ni."

Yn ôl Manon Williams, yma gyda Mr Urdd, mae'r ynys wedi casglu dros £200,000 - sydd dros hanner y targed ariannol o £380,000
Ychwanegodd Ms Williams fod yr wŷl groeso yn rhan o'r ymdrechion i ledaenu ymwybyddiaeth ac ysgogi bwrlwm cyn yr Eisteddfod.
"'Dan ni isho i holl blant yr ynys gael cyfle i fod yn rhan o'r paratoadau, nid yn unig bod yn rhan o'r Steddfod ei hun ond yr holl baratoadau hefyd.
"Felly i gyd-fynd hefo'r gân groeso, mae 'na recordiadau o ysgolion y sir i gyd, sydd wedi cynnal eu gorymdeithiau bach eu hunain dros y pythefnos diwetha', felly mae pawb yn cael cyfle i fod yn rhan.
"Rŵan mai ni ydi'r Steddfod nesa' yn 2026 mae pawb yn newid gêr hefo codi arian, mae'r testunau wedi'u cyhoeddi rhyw bythefnos yn ôl rŵan, felly mae 'na hen edrych ymlaen at y cystadlu flwyddyn nesa' a'r sioeau ieuenctid fydd yn cael eu cynnal."
'Maen nhw'n gwneud yn wych'
Bydd 2026 yn nodi pumed ymweliad yr wŷl i Fôn yn dilyn Llangefni (1948), Caergybi (1966), Porthaethwy (1976) a Mona (2004).
Yn ôl Urdd Gobaith Cymru, mae cynnal digwyddiadau fel yr wŷl groeso yn bwysig i godi bwrlwm yn lleol a sicrhau fod yr wŷl "yn un i bawb".
Dywedodd Cyfarwyddwr Celfyddydol y mudiad, Llio Maddocks: "'Dan ni wedi newid yr amserlen ac ychwanegu diwrnod, i drio denu mwy o gystadleuwyr gobeithio.
"Yn enwedig yn yr oedran uwchradd, 'da ni'n gwybod pa mor brysur ydy'r Sulgwyn a 'da ni mor falch o gael cefnogaeth y pwyllgor gwaith a'r gwirfoddolwyr lleol."

Dywedodd Llio Maddocks fod maes Sioe Môn yn "beffaith" i gynnal yr wŷl
Ychwanegodd Ms Maddocks: "Mae'r lle yn llawn dop, mae 'na rywbeth yma i bob oedran, ac mae'n braf gweld pobl o bob ardal o Ynys Môn yma.
"Beth sy'n hyfryd ar Ynys Môn ydy fod 'na faes yma sy'n gwbl berffaith barod i'r Steddfod, 'da ni wedi bod yma o'r blaen yn 2004.
"Y bwrlwm, 'da chi'n gallu ei deimlo yma, ac maen nhw'n gwneud yn wych."

Roedd Band Pres Biwmares ymysg y perfformwyr
Roedd rhai o ymwelwyr ifanc yr wŷl wedi mwynhau'r diwrnod.
Dywedodd Gruff, sy'n naw oed, ei fod yn edrych ymlaen at gystadlu fis Mai nesa'.
"Dwi'n edrych ymlaen lot... Dwi'n byw yn Llangefni sydd reit wrth ymyl, fedra' i bron iawn cerdded yna os fyswn i isho... dwi'n excited."
'Croeso twymgalon'
Yn gynharach yn y mis fe wnaeth yr Urdd gyhoeddi eu bwriad i ehangu'r ŵyl i saith diwrnod er mwyn "ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd sy'n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd".
Mae manylion y cystadlaethau newydd, sy'n un o ganlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys aelodau, aelwydydd, ysgolion a phwyllgorau lleol, i'w gweld yn y Rhestr Testunau ar gyfer prifwyl 2026.
Ond er gwaetha'r newidiadau eleni, mae Derek Evans, Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Môn, yn sicr bydd y croeso ym Môn yn un cynnes.

"Mae pob ardal yn gweithio'n galed iawn," meddai Derek Evans
"Mae pobl Môn yn rhyfeddol ac mae pob ardal yn gweithio'n galed iawn, iawn i daro'u targed lleol, a nifer wedi cyrraedd eu targed yn barod," meddai.
"Bydd croeso Môn yn un twymgalon, mi fydd ein breichiau ni yn llydan agored, fydd y ddwy bont yn agored hefyd, a 'da ni'n gobeithio y bydd pawb yn heidio yma i dderbyn y croeso hwnnw."
Bydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn cael ei chynnal ar faes Sioe Môn ger Gwalchmai rhwng dydd Sadwrn y Sulgwyn, 23 Mai a dydd Gwener 29 Mai, 2026.
Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd yn 2027 cyn dychwelyd i'r gogledd i ardal Eryri yn 2028.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024