Agor cwest i farwolaeth dynes gafodd ei tharo gan lori ailgylchu

Daphne StallardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daphne Stallard yn helpu'n "rheolaidd" yn Eglwys Iau'r Drindod Sanctaidd yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod dynes 89 oed a fu farw ar ôl cael ei tharo gan lori ailgylchu yn Llandudno wedi dioddef anafiadau difrifol i'w brest.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad wrth i un o loriau Cyngor Sir Conwy bacio'n ôl ar Stryd Brookes yn y dref tua 09:00 fore Llun, 1 Medi.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys - gan gynnwys ambiwlans awyr - fynychu'r digwyddiad, ond bu farw Daphne Stallard yn y fan a'r lle.

Dywedodd y teulu mewn datganiad fod Ms Stallard - mam Mary Stallard, Esgob Llandaf, "yn olau disglair llawn cariad yng nghanol ein teulu".

Yn dilyn gwrandawiad byr yn Rhuthun ddydd Llun, cafodd y cwest ei ohirio.

Cafodd un o weithwyr y cyngor sir ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi'r digwyddiad, a'i ryddhau dan ymchwiliad yn ddiweddarach.

Pynciau cysylltiedig