Cannoedd yn mynychu angladd yr AS Hefin David

Cafodd yr angladd ei chynnal yn Eglwys St Catwg, Gelli-gaer
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth rhai o ffigyrau amlycaf gwleidyddiaeth Cymru ymgynnull i gofio am y gwleidydd Hefin David yn ei angladd ddydd Llun.
Daeth cannoedd o bobl ynghyd yn Eglwys St Catwg, Gelli-gaer yn Sir Caerffili i gofio amdano.
Clywodd y gwasanaeth fod Mr David wedi "gweithio'n ddiflino i godi ei lais ac i wneud gwahaniaeth," a'i fod yn driw i'w deulu.
Bu farw Mr David yn sydyn fis Awst yn 47 oed.
Bu'n Aelod o'r Senedd ar ran y Blaid Lafur dros etholaeth Caerffili ers 2016.
Mae'n gadael ei bartner, AS Cwm Cynon Vikki Howells, a dwy o ferched.

Roedd y prif weinidog Eluned Morgan ymysg y nifer o ASau a fynychodd y gwasanaeth
Roedd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, ymhlith y gwleidyddion a fynychodd yn yr angladd.
Roedd y cyn-brif weinidogion Mark Drakeford a Vaughan Gething yno, yn ogystal â Delyth Jewell o Blaid Cymru.
Cafodd arch Mr David ei gario i mewn i'r eglwys wedi ei orchuddio â baner Cymru a rhosod coch.
Roedd yr adeilad bychan yn llawn, gyda nifer o bobl wedi ymgynnull y tu allan yn gwrando ar y gwasanaeth drwy uchelseinydd.
Cafodd y gwasanaeth ei arwain gan y Parchedig Gary Powell.
'Bwrlwm a bywyd y parti'
Ar ôl i'r gynulleidfa ganu emyn Calon Lan, cafwyd darlleniadau Cymraeg a Saesneg o'r Beibl, cyn i ffrind Mr David, Dr Huw Brunt roi teyrnged iddo.
Dywedodd Dr Brunt, prif swyddog iechyd cyhoeddus amgylcheddol Llywodraeth Cymru, fod Hefin David wedi ymrwymo i "weithio'n galed a chodi ei lais".
"Fe weithiodd yn ddiflino i godi ei lais ac i wneud gwahaniaeth," meddai Dr Brunt, gan ddisgrifio Mr David fel "eiriolwr cryf dros anghenion dysgu ychwanegol".
Fe ddywedodd fod Mr David wedi "byw ei fywyd yn llawn" gan ddweud mai ef oedd "bwrlwm a bywyd y parti yn aml".
Dywed Dr Brunt fod gan Mr David "lawer o ffrindiau" a bod "mynd ar noson allan gyda Hefin fel mynd ar noson allan gyda'r rhan fwyaf o dde Cymru".
Ychwanegodd mai teulu "oedd rhan bwysicaf" ei fywyd.

Mae Mr David yn gadael ei bartner, AS Cwm Cynon Vikki Howells, a dwy o ferched
Dywedodd y Parchedig Powell: "Fe wnaeth Hefin fyw i ymroi i'w deulu a'i gymuned.
"Roedd yn rhan allweddol o'r gymuned, a'i wreiddiau'n ddwfn ac yn gryf yn y rhan hwn o'r byd."
Dywedodd bod Mr David yn ddyn "unigryw a oedd wedi cyffwrdd ein bywydau oll yn ei ffordd unigryw ei hun".
"Mae ei golled wedi effeithio arnom oll, ac yn gadael bwlch enfawr," meddai.

Yn dilyn Gweddi'r Arglwydd, fe wnaeth y gynulleidfa ganu'r ail emyn, Guide Me O Thou Great Redeemer, cyn i chwaer Mr David, Siân, yn darllen y gerdd, Strength of the Mountain.
Daeth y gwasanaeth i ben gyda'r gân I Bob Un Sy'n Ffyddlon, cyn i'r gwasanaeth symud i Amlosgfa Thornhill.
Cafodd cwest ei agor i farwolaeth Mr David fis diwethaf.
Fe glywodd y cwest fod Mr David wedi ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 12 Awst.
Mae disgwyl i'r cwest llawn ddigwydd fis Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl