Buddugoliaeth gyntaf i Craig Bellamy fel rheolwr Cymru

Chwaraewyr Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Reuters
  • Cyhoeddwyd

Fe enillodd Cymru o 2-1 oddi cartref yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Lun.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y rheolwr newydd, Craig Bellamy - a hynny yn ei ail gêm wrth y llyw.

Roedd goliau cynnar gan Kieffer Moore a Harry Wilson yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i'r ymwelwyr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn yr ail safle yng ngrŵp 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Kieffer Moore wedi llai na 30 eiliad

Roedd pum newid i'r tîm a ddechreuodd y gêm ddi-sgor yn erbyn Twrci nos Wener, gyda Bellamy yn newid y siâp yn ogystal.

Roedd y golwr Karl Darlow yn ennill ei gap cyntaf, tra bod Lewis Koumas ac Ollie Cooper yn dechrau gêm i Gymru am y tro cyntaf.

Nid oedd rhaid aros yn hir am y gôl gyntaf wrth i Kieffer Moore roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi cwta 30 eiliad.

Fe adlamodd y bêl at draed yr ymosodwr profiadol yng nghanol y cwrt cosbi wedi i amddiffynwyr Montenegro fethu a'i chlirio, ac fe ergydiodd Moore yn gywir i gornel isa'r rhwyd.

Roedd hi'n 2-0 llai na dau funud yn ddiweddarach, wrth i Harry Wilson daro'r bêl yn wych i gornel ucha'r rhwyd o 25 llath gyda'i droed chwith.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Ond yn y glaw mawr yn ninas Nikšić, fe dyfodd y tîm cartref i mewn i'r gêm wedi'r dechreuad siomedig.

Fe ddylai Montenegro fod wedi taro nôl wedi gwrth ymosodiad cyflym, ond fe wnaeth Nikola Krstovic wastraffu'r cyfle.

Darodd Stevan Jovetic y trawst gydag ergyd arbennig o du mewn i'w hanner ei hun yn dilyn pas lac gan Ethan Ampadu.

Cyn yr egwyl, roedd angen arbediad gwych gan Karl Darlow a gwaith amddiffynnol gwych gan y capten Ben Davies i atal y tîm cartref rhag sgorio.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Gyda’r glaw yn dal i arllwys, y tîm cartref gafodd y gorau o funudau agoriadol yr ail hanner gan ennill sawl cic gornel. Ond llwyddodd y Cymry i atal unrhyw ymdrechion o werth.

Cafodd Nico Williams a Wilson gyfleoedd i ymestyn mantais Cymru ond roedd eu hymdrechion yn siomedig.

Moore gafodd y cyfle gorau i sgorio'r drydedd, a hynny wedi 65 munud, wrth iddo daro'r bel dros y trawst o chwe llath gyda cheg y gôl yn llydan agored.

gydag 20 munud yn weddill, fe wnaeth y tîm cartref daro'r postyn wrth i ergyd bwerus Jovovic o bellter hedfan heibio Darlow.

Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Driton Camaj i'r tîm cartref yn dilyn gwrthymosodiad sydyn

Wrth i Montenegro barhau i bwyso, gwnaeth Darlow arbediad campus o beniad Jovetic.

Ond doedd dim y gallai’r golwr wneud wedi 72 munud, serch hynny, wrth i Driton Camaj sgorio i’r tîm cartref yn dilyn gwrthymosodiad sydyn.

Rhoddodd y gôl hyder newydd i Montenegro a doedd hi ddim yn syndod gweld Aaron Ramsey yn dod i’r cae fel eilydd i gynnig mwy o arweiniad i’r Cymry.

Er y pwysau, prin oedd y cyfleoedd ym munudau olaf y gêm gydag amddiffyn Cymru yn sefyll yn gadarn.

Wedi pum munud o amser ychwanegol daeth y chwiban olaf gyda Chymru’n sicrhau gyntaf dan reolaeth Craig Bellamy.

Bydd gem nesaf tîm dynion Cymru gartref yn erbyn Gwlad yr Iâ ar 11 Hydref.