Cyhuddo menyw o geisio llofruddio ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 45 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng nghanol Pontypridd fore Mawrth.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i'r digwyddiad ar y ffordd rhwng adeiladau'r Gwasanaeth Prawf a Kwik Fit yn y dref am tua 09:00 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Mae dyn 58 oed o Pentre yn parhau yn yr ysbyty gydag "anafiadau a allai newid ei fywyd" wedi'r digwyddiad.
Fe wnaeth Rayal Milne, sy'n dod o Bontypridd, ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio.
Mae hi hefyd yn wynebu cyhuddiad o achosi cythrwfl (affray).
Cafodd ei chadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys y Goron ddydd Gwener.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n edrych am unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r achos, ac maen nhw wedi diolch i aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cefnogi'r ymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin