Cyn-swyddog heddlu yn ddieuog o ymosod
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-swyddog heddlu wedi ei gael yn ddieuog o ymosod ar ddyn yng Nghasnewydd.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig ar 9 Gorffennaf 2021.
Roedd Gediminas Palubinskas, oedd yn blismon gyda Heddlu Gwent, yn ceisio arestio Mikael Boukhari am yrru heb drwydded cyn iddo redeg i ffwrdd.
Cafodd fideo ei ddangos i reithgor yn Llys y Goron Abertawe o'r ddau ddyn mewn gardd gefn tŷ yng Nghasnewydd.
Torrodd Mr Boukhari asgwrn yn ei law ac roedd ganddo gleisiau ar rannau o'i gorff ond cyfaddefodd ei fod wedi "cnoi" Mr Palubinskas ac wedi ei "ddyrnu" yn ystod y digwyddiad.
Ar ôl trafod am rai oriau, dyfarnodd y rheithgor yn unfrydol fod Mr Palubinskas, 34 yn ddieuog o'r cyhuddiad o ymosod.
Dywedodd David Ford o Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) bod gan blismyn "bwerau sylweddol i ddefnyddio grym, ond mae'n rhaid i'r ffordd maen nhw'n defnyddio'r grym hwnnw fod yn rhesymol".
"O ystyried pa mor ddifrifol oedd yr honiad, roedd yn bwysig bod ymchwiliad annibynnol a manwl."
Yn eu datganiad, mae'r IOPC yn nodi fod Mr Palubinskas wedi ymddiswyddo o Heddlu Gwent yn Ionawr 2024, ddiwrnod cyn dechrau gwrandawiad oedd yn ymwneud â mater gwahanol.
Roedd Mr Palubinskas yn euog o gamymddwyn difrifol yn y gwrandawiad hwnnw ac mae'r IOPC yn nodi "y byddai wedi cael ei ddiswyddo petai heb ymddiswyddo yn barod".
Mae Mr Palubinskas hefyd wedi ei wahardd rhag gweithio i'r heddlu.
Mewn datganiad, nad oedd yn cyfeirio at yr achos llys yma, dywedodd Heddlu Gwent fod Mr Palubinskas wedi ymddwyn mewn modd amhroffesiynol "ar sawl achlysur", ac na fyddai hynny'n cael ei dderbyn.
"Byddwn yn parhau i anfon neges glir i'n swyddogion, staff a'r cyhoedd nad oes lle i ymddygiad fel hyn o fewn ein gwasanaeth, ac y byddwn yn parhau i gael gwared â'r rhai hynny sy'n cael effaith negyddol ar hyder y bobl yn yr heddlu," meddai'r datganiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2023