Llafur yn beio'r Ceidwadwyr am fethiannau GIG Cymru

Nick Thomas-Symonds
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nick Thomas-Symonds fod y gwasanaeth iechyd ar draws y DU mewn "cyflwr tlotach" na phan oedd Llafur mewn grym ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd

Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n gyfrifol am ostyngiad mewn cyfraddau bodlonrwydd yn GIG Cymru, yn ôl un o wleidyddion blaenllaw Llafur.

Dywedodd Nick Thomas-Symonds, ymgeisydd Llafur yn Nhorfaen yn yr etholiad cyffredinol, fod y gwasanaeth iechyd ar draws y DU mewn "cyflwr tlotach" na phan oedd Llafur mewn grym ddiwethaf.

“Os edrychwch pryd mae cyfraddau bodlonrwydd gyda’r GIG yng Nghymru wedi bod ar eu huchaf, roedd hynny yn gynnar yn 2010,” meddai wrth y BBC.

“Mae hynny oherwydd roedd gennych chi, ers dros ddegawd, lywodraethau Llafur y naill ochr i’r M4 yn cydweithio.”

Dywedodd fod 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol wedi gadael y GIG mewn "cyflwr tlotach... ar draws y Deyrnas Unedig" ac yn benodol yng Nghymru.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Yng Nghymru, mae tua 20,000 wedi aros dros ddwy flynedd am driniaeth, ond dim ond 200 yw’r ffigwr hwnnw yn Lloegr.

I ddod â’r rhestrau aros hyn i lawr, dywedodd Mr Thomas-Symonds y byddai Llafur yn rhoi “chwistrelliad o arian” i’r GIG, wedi’i ariannu trwy dargedu "loopholes treth ar gyfer non-doms", ysgolion preifat a rheolwyr cronfeydd ecwiti.

Fodd bynnag, gwadodd fod y sefyllfa yng Nghymru yn waeth yn gyffredinol na’r GIG yn Lloegr.

"Mae yna agweddau lle gallwch chi dynnu sylw at ystadegau sy'n well yn Lloegr na Chymru, [ond] os edrychwch chi ar ranbarthau Lloegr, rydych chi'n dechrau cael darlun gwahanol eto."

Ffynhonnell y llun, San Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Thomas-Symonds wedi cynrychioli Torfaen yn San Steffan ers 2015

Ychwanegodd Mr Thomas-Symonds fod gan Brif Weinidog Cymru Vaughan Gething gefnogaeth y Blaid Lafur cyn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o'r un aelod o'r senedd sydd heb hyder yn arweinyddiaeth Mr Gething.

Ond gwrthododd ateb a fyddai wedi derbyn y rhodd dadleuol o £200,000 y derbyniodd Mr Gething gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, pe bai ef yn yr un sefyllfa.

"Ni allaf fynd yn ôl ac ateb cwestiwn damcaniaethol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw mewn unrhyw ornest... fe fydda i bob amser yn sicr o ddilyn y rheolau," meddai.

"A dyna wnaeth Vaughan Gething."

Roedd yn cydnabod bod "pryderon wedi eu codi", a dywedodd mai dyna pam mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi cael y dasg o adolygu'r rheolau.

"Mae gen i 100% hyder yn Vaughan Gething. Rwy'n cefnogi'r gwaith y mae'n ei wneud."

'Tanseilio'r setliad datganoledig'

Ychwanegodd Mr Thomas-Symonds, pe bai Llafur yn ennill mwyafrif yn San Steffan, y byddai'r llywodraeth yn "disgwyl llawer" gan y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys llywodraeth Lafur Cymru.

"Bydd hynny'n golygu bod gennych chi berthynas adeiladol," meddai.

"Fydd gennych chi ddim llywodraeth yn San Steffan bellach sydd yn gyson yn ceisio tanseilio'r setliad datganoledig."

Ffynhonnell y llun, HS2
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinidogion Cymru wedi honni bod Cymru wedi colli biliynau oherwydd dynodi HS2 yn gynllun "Cymru a Lloegr"

Fodd bynnag, dywedodd Mr Thomas-Symonds na allai wneud unrhyw addewidion y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i Gymru oherwydd gwariant ar HS2 yn Lloegr.

Mae gweinidogion Cymru wedi honni bod Cymru wedi colli biliynau o bunnoedd oherwydd bod HS2 wedi ei ddynodi yn gynllun "Cymru a Lloegr" gan Drysorlys y DU - er nad yw'n croesi'r ffin.

"Ni allaf eistedd yma a gwneud addewidion o bethau na allaf eu costio, na allaf ddweud wrthych o ble mae'r arian yn dod," meddai Mr Thomas-Symonds.

"Dyna'r dull a arweiniodd Liz Truss i'r fath lanast, ac mae pobl ar hyd a lled Cymru yn dal i dalu'r gost amdano."

Gallwch wylio cyfweliad llawn Mr Thomas-Symonds ar BBC iPlayer.

Bydd BBC Cymru'n cyfweld Ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwr David TC Davies, arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, a chynrychiolwyr o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK dros yr wythnos nesaf.

Pwy sy'n ymgeisio yn etholaeth Torfaen?

  • Nikki Brooke - Plaid Treftadaeth

  • Philip Davies - Y Blaid Werdd

  • Lee Dunning - Annibynnol

  • Nathan Edmunds - Ceidwadwyr

  • Matthew Jones - Plaid Cymru

  • Brendan Roberts - Democratiaid Rhyddfrydol

  • Nick Thomas-Symonds - Llafur

  • Ian Williams - Reform UK