Gall newid statws ysgol arwain at 'genhedlaeth goll o siaradwyr Cymraeg'

Cafodd y cynlluniau i greu ysgol Gymraeg newydd eu cymeradwyo gan y cyngor ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i greu ysgol Gymraeg newydd yn ne Cymru yn "gam yn ôl", gan eu bod hefyd yn golygu newid statws ysgol ddwyieithog i fod yn uniaith Saesneg, medd prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo ddydd Mercher, ac mae'n golygu y bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd ar gyrion pentref Llanharan yn sgil datblygiad tai mawr yno.
Mae'r cynllun i greu ysgol newydd i'w "groesawu'n fawr," yn ôl Osian Rowlands, ond mae'n poeni fod newid statws iaith Ysgol Dolau yn Llanharan i fod yn uniaith Saesneg yn creu risg y bydd "cenhedlaeth goll" o siaradwyr Cymraeg.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud fod hwn yn "ddatblygiad cadarnhaol gan greu gofod pwrpasol i gefnogi holl ddysgwyr y Gymraeg mewn un ysgol."

Mae teuluoedd yn dueddol o aros gydag un ysgol, meddai Osian Rowlands, prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Fel rhan o gynllun tai Llanilid, bydd 1,850 o dai yn cael eu hadeiladu, gan gynnwys adnoddau cymunedol ac ysgol gynradd Gymraeg newydd.
Bydd lle i 480 o ddisgyblion yn yr ysgol newydd, yn ogystal â 60 o blant meithrin.
Wrth siarad gyda BBC Cymru Fyw, roedd gan Osian Rowlands deimladau cymysg am y cynlluniau.
"Yn amlwg mae'n newyddion da bod ysgol Gymraeg newydd yn agor yn y sir, ac mae hyn yn cael ei groesawu'n fawr ac yn gam mawr ymlaen," meddai.
"Ond, mae hi'n siomedig bydd Ysgol Dolau yn Llanharan yn newid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn gategori Saesneg – ac mae hwn yn anffodus yn teimlo fel cam yn ôl."

Bydd datblygiad tai mawr yn cael ei godi ar y safle yma ar gyrion Llanharan
Ychwanegodd y gall newid statws iaith ysgol olygu bod "cenhedlaeth goll" o siaradwyr Cymraeg.
"Beth sy'n dueddol o ddigwydd yw bod teuluoedd yn sticio gyda'r un ysgol ac felly mae pawb sydd yn Ysgol Dolau yn barod, yn mynd i aros yna," meddai.
"Felly bydd y 150 o lefydd ychwanegol sydd wedi eu creu yno oherwydd y newid i'r ffrwd Gymraeg yn cael eu llenwi gyntaf, ac mae yna risg bod 'na genhedlaeth goll yn mynd i fod."
Mae tua 300 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg a thua 150 drwy'r Gymraeg yn Ysgol y Dolau ar hyn o bryd.
'Pam fod angen newid Ysgol Dolau o gwbl?'
Mae Mr Rowlands yn cwestiynu pam fod angen newid statws iaith Ysgol Dolau.
"Mae'r broses yma wedi symud yn gyflym iawn. Ym mis Gorffennaf soniwyd yn gyntaf am yr ysgol newydd mewn cyfarfod CSCA (Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg) ac mae'r cyfan wedi ei basio drwy Gabinet y Cyngor o fewn llai na saith mis.
"Rwy'n gobeithio y bydd modd parhau i symud mor gyflym i lenwi bylchau mewn ardaloedd eraill o'r sir, megis ardal Aberpennar a Gogledd Pontypridd, fel bod modd i blant a phobl ifanc y sir dderbyn addysg Gymraeg o fewn eu cymuned."
Bwriad y cyngor ydi dod â'r newidiadau i rym erbyn mis Medi 2027.
'Diogelu' yr iaith Gymraeg
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf fod y cynlluniau yn ateb y galw sydd wedi ei greu gan y datblygiad tai.
"Rhaid i'r Cyngor baratoi ar gyfer y galw am addysg yn sgil y datblygiad tai Llanilid.
"Mae hyn yn cynnwys sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, a fydd yn darparu cyfleusterau cyffrous i ddysgwyr a staff.
"Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol gan greu gofod pwrpasol i gefnogi holl ddysgwyr y Gymraeg mewn un ysgol."
Mae'r Cyngor hefyd yn dweud fod y cynllun yma yn diogelu dysgu trwy'r Gymraeg yn fwy effeithiol nag ysgolion dwyieithog.
"Bydd gan yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd le ar gyfer 480 o ddisgyblion oedran ysgol ynghyd â 60 o leoedd meithrin.
"Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'i gymharu â'r ysgol ddwyieithog bresennol, ac mae'n golygu bod y capasiti ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddiogelu, nad yw'n wir mewn ysgolion dwy iaith.
"Bydd yr ysgol gynradd newydd yn gwella'r nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg lleol, gan ddiogelu nifer y dysgwyr Cymraeg, a darparu addysg mewn cyfleuster o'r radd uwch, wrth i ni barhau i gefnogi gweledigaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2024