Gareth Bale wedi gwneud cynnig arall i brynu CPD Caerdydd

Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Gareth Bale yn dweud bod consortiwm y mae o yn ei arwain wedi gwneud cynnig arall i brynu Clwb Pêl-droed Caerdydd.

Mae Bale, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, yn rhan o grŵp a gysylltodd yn uniongyrchol â pherchennog yr Adar Gleision, Vincent Tan i drafod gwerthiant y clwb.

Cafodd cynnig ei wneud ym mis Mehefin i gael cyfran reolaethol yn y clwb, ond cafodd hwnnw ei wrthod gan y dyn busnes o Malaysia.

Ond mewn cyfweliad gyda Front Office Sports Today, fe gadarnhaodd Bale fod y grŵp wedi gwneud cynnig arall i brynu'r Adar Gleision.

"Mae'n newyddion cyffrous, mae cynnig newydd wedi cael ei wneud. Rydyn ni'n meddwl ei fod yn gynnig da," meddai.

"Mae'n gynnig teg iawn, os nad mwy na theg, ac rydyn ni'n gobeithio bydd y perchnogion yn ei ystyried o ddifri."

Ychwanegodd: "Fydden ni wrth ein boddau os yw'r cynnig yn cael ei dderbyn fel bod modd i ni wneud yr hyn 'da ni eisiau ei wneud - sef sicrhau fod Caerdydd yn cyrraedd ei lawn botensial."

Does dim awgrym ar hyn o bryd fod Vincent Tan yn agored i werthu'r clwb - ar ôl buddsoddi dros £200m ers dod yn berchennog yn 2010.

Dyw Caerdydd heb wneud sylw ar y mater.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.