Gareth Bale 'dal yn obeithiol' am ymgais i brynu CPD Caerdydd

Er nad oedd Bale wedi chwarae i Gaerdydd yn ystod ei yrfa, mae'n dweud bod y clwb yn "agos at ei galon"
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-seren Cymru a Real Madrid, Gareth Bale yn "dal yn obeithiol" y bydd ymdrech y mae o'n rhan ohoni i brynu Clwb Pêl-droed Caerdydd yn llwyddo.
Y gred yw bod Bale, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, wedi bod yn rhan o grŵp a gysylltodd yn uniongyrchol â pherchennog yr Adar Gleision, Vincent Tan.
Cafodd cynnig ei wneud i gael cyfran reolaethol yn y clwb, ond cafodd hwnnw ei wrthod gan y dyn busnes o Malaysia.
Dyw hi ddim yn glir a yw Tan yn agored i werthu ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i'r grŵp buddsoddi wneud cynnig arall.
Mewn cyfweliad gyda Sky Sports, fe wnaeth Bale gadarnhau ei fod yn rhan o'r ymdrech i brynu'r Adar Gleision.
"Ry' ni wedi bod yn siarad am y peth, yn ceisio trafod gyda Chaerdydd ond fe fydd mwy o newyddion yn dod i'r amlwg am hynny yn y dyfodol, a gobeithio gallwn ni sortio rhywbeth," meddai.
"Dydw i ddim yn gallu dweud gormod ar hyn o bryd, ond yr hyn fedra i ddweud yw bod diddordeb gennym ni yng Nghaerdydd, yn amlwg dyma fy nghlwb cartref i, ble ges i fy magu ac roedd fy ewythr yn chwarae iddyn nhw.
"Felly, byddai bod yn rhan o'r grŵp sy'n berchen ar y clwb yn gwireddu breuddwyd."
Dyw Caerdydd heb wneud sylw ar yr adroddiadau, ond mae'r BBC ar ddeall nad oedd y cynnig wedi cael ei drafod gan fwrdd rheoli'r clwb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd18 Ionawr