Bale wedi bod yn rhan o ymgais i brynu Clwb Pêl-droed Caerdydd

Roedd cyn-gapten Cymru Gareth Bale yn rhan o ymdrech i brynu Clwb Pêl-droed Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe lansiodd Gareth Bale ymdrech i brynu Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd fis diwethaf.
Y gred ydy bod cyn-gapten Cymru, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, wedi bod yn rhan o grŵp a gysylltodd yn uniongyrchol â pherchennog yr Adar Gleision, Vincent Tan.
Cafodd cynnig ei wneud i gael cyfran reolaethol yn y clwb, ond cafodd hwnnw ei wrthod gan y dyn busnes o Malaysia.
Dydy Caerdydd - a ddisgynnodd i Adran Un y tymor diwethaf - ddim yn gwneud sylw ar yr adroddiadau, a ddaeth i'r amlwg brynhawn Gwener.
Roedd adroddiadau ynghylch y posibilrwydd o Bale yn symud i Gaerdydd fel chwaraewr yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd 2022, ond fe ddewisodd ymuno â chlwb LA FC yn yr Unol Daleithiau.
Roedd adroddiadau yn gynharach ym mis Mehefin fod Bale yn rhan o ymdrech gan gonsortiwm sydd o'r Unol Daleithiau i brynu Plymouth Argyle - clwb arall yn Adran Un.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Ionawr