Chwarter pobl 18 i 34 oed byth yn ateb galwadau ffôn

Beca
Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrru neges destun "just yn haws”, yn ôl Beca o Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi’n casáu ateb y ffôn?

Mae arolwg diweddar wedi canfod bod chwarter y bobl rhwng 18 i 34 oed byth yn ateb galwadau ffôn, gyda’r mwyafrif yn dewis eu hanwybyddu neu yn ffafrio ymateb drwy neges destun.

Yn ôl Beca o Gaerdydd, sy’n perthyn i genhedlaeth Gen Z, “ni just yn tueddu i textio cos mae just yn haws”.

“Fi ddim yn rili galw ffrindiau fi, dim ond os ma’ fe’n argyfwng neu rywbeth."

Disgrifiad o’r llun,

“Ni’n textio ar group chats a pethe so sai’n meddwl bod 'na pwynt mewn galw,” meddai Seren

Mae ei ffrind Seren yn dweud ei bod yn “ateb pan ma’n rhieni yn galw, ond dim pan ma’n ffrindiau oherwydd ma' 'na dim pwynt”.

“Ni’n textio ar group chats a pethe so sai’n meddwl bod 'na pwynt mewn galw."

Disgrifiad o’r llun,

“Weithie dwi’n trio cael gafel ar ffrindie fi ar y ffôn os ma rhywbeth pwysig ond dydyn nhw ddim yn ateb," meddai Twm

Ond i Twm, sydd hefyd yn yr un criw, mae ceisio cael gafael ar ei ffrindiau “yn medru bod yn rhwystredig”.

“Weithie dwi’n trio cael gafel ar ffrindie fi ar y ffôn os ma rhywbeth pwysig ond dydyn nhw ddim yn ateb."

Ychwanegodd: “Fi yn meddwl os 'da chi yn siarad drwy neges destun, 'da chi’n cael mwy o amser i feddwl am beth i ddweud yn lle pressure sydd ar galwad ffôn."

Disgrifiad o’r llun,

“Ma' hyn yn digwydd yn aml iawn oherwydd bod pobl yn teimlo yn anghyfforddus wrth siarad ar y ffon neu yn nerfus,” meddai Donna Dixon

Yn ôl Donna Dixon, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn arbenigo ar effaith technoleg ar bobl ifanc, “ma' hyn yn aml iawn oherwydd bod pobl yn teimlo yn anghyfforddus wrth siarad ar y ffôn neu'n nerfus”.

Dywedodd bod y nerfusrwydd oherwydd “diffyg rheolaeth”.

“I gymharu efo cyfathrebu yn ddigidol neu ysgrifenedig, ma' rhaid ateb yn amser go wir."

Ar y llaw arall mae’n dweud fod “pobl ifanc yn rhagori wrth gyfathrebu yn ddigidol ac yn ysgrifenedig, ac ma’r sgiliau newydd 'ma yn adlewyrchu sut ma' natur cyfathrebu yn newid yn yr oes ddigidol ‘ma”.

'Well siarad ar text'

Yn ôl Seren mae cyfnod Covid wedi cael effaith ar y ffordd mae’n cyfathrebu ar y ffôn.

“Fi’n meddwl y rheswm yw canolbwyntio a pethe, ers Covid, ma' canolbwyntio ni 'di mynd bach yn llai a ni ddim rili yn cal amser i galw achos ni angen meddwl am pethe i siarad am so fi’n meddwl mae’n well i just siarad ar text.

Disgrifiad o’r llun,

"Fi’n dysgu gwersi piano ac ma gorfod cysylltu gyda rhieni, odd hwnna yn poeni fi yn fawr," dywedodd Beca

I Beca, dim ond yn ddiweddar mae hi’n teimlo yn hyderus i siarad â rhywun ar y ffôn.

“Cwpl o flynyddoedd yn ôl, odd dim gymaint o hyder gyda fi yn ateb y ffôn neu ffonio pobl fy hunan.

"Fi’n dysgu gwersi piano ac ma gorfod cysylltu gyda rhieni, odd hwnna yn poeni fi'n fawr.

“Fi’n credu y mwya ni’n tyfu lan a‘r mwya ni’n dod i nabod y byd proffesiynol byddwn ni’n dod yn fwy cyfforddus gyda galwadau ffôn."

Pynciau cysylltiedig