Galw ar y llywodraeth i wneud mwy i gadw myfyrwyr prifysgol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i newid cyfeiriad wrth geisio denu mwy o fyfyrwyr addysg uwch i aros yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na £2.2 biliwn dros bum mlynedd ar gymorth i fyfyrwyr Cymreig sy'n astudio cyrsiau mewn prifysgolion y tu allan i Gymru.
Daeth y ffigyrau i law mudiad Dyfodol i'r Iaith, yn sgil cais rhyddid gwybodaeth (FOI).
Mae'r llythyr, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, yn dangos fod y llywodraeth wedi gwario £550m yn y flwyddyn ariannol 2022-23 ar gymorth i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio y tu hwnt i Glawdd Offa.
Mewn darlith ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd fore Mercher, dywedodd Dr Huw Griffiths o Dyfodol i'r Iaith fod y ffigwr yna yn "hollol boncyrs".
Ond dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru fod y rhan fwyaf o’r arian yn cael ei dalu'n ôl ar ffurf ad-daliadau.
Mae'r gwariant ar gymorth myfyrwyr wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, meddai llefarydd, "oherwydd ystod o ffactorau megis y cynnydd mewn costau byw a chynnydd mewn cymorth cynnal a chadw".
'Y raddfa yw'r broblem, nid yr egwyddor'
Yn ôl Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith, mae yna "resymau dilys" i fyfyrwyr o Gymru fynd i Loegr i dderbyn addysg uwch.
Ond esboniodd: "Y raddfa yw'r broblem, nid yr egwyddor."
Mae ffigyrau'r llywodraeth yn dangos fod grantiau a benthyciadau sydd wedi'u rhoi i fyfyrwyr Cymreig sy'n dewis astudio y tu allan i Gymru wedi cynyddu flwyddyn ar flwyddyn - o £320,190,000 yn 2018-19 i £553,473,000 yn 2022-23.
Mae hynny'n gyfanswm o dros £2.26bn mewn pum mlynedd.
Mae ystadegau gan Gomisiynydd y Gymraeg, dolen allanol yn dangos mai 62% o holl fyfyrwyr Cymru sy'n aros yn eu gwlad eu hunain am addysg prifysgol ar hyn o bryd.
Mae'r ganran yn sylweddol uwch ymhlith myfyrwyr o'r Alban a Lloegr, sef 95%.
Awgrymodd yr arolwg mai dim ond tua 40% o ddisgyblion a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, sy'n 16 oed neu'n hŷn, oedd yn bwriadu aros i astudio yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru fod bron i hanner y myfyrwyr sy'n gadael i astudio mewn gwlad arall yn dychwelyd i weithio yng Nghymru.
Mae Jack Bailey, 24, yn dod o'r Rhyl ond bellach yn gweithio fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn Llundain ar ôl graddio o Gaergrawnt.
Yn ei farn ef, bu cynllun o'r enw Seren yn "gwbl dyngedfennol" i drywydd ei fywyd.
Cafodd Rhwydwaith Seren ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i annog y myfyrwyr mwyaf disglair i fynychu prifysgolion fel Rhydychen, Caergrawnt, Harvard a Yale.
"Fyse ni'n sicr ddim wedi ymgeisio i Gaergrawnt heb y cynllun, doedd just ddim gyda fi'r adnoddau i 'neud cyn hynny," dywedodd.
Does dim cynlluniau ganddo i ddychwelyd i Gymru yn y dyfodol agos.
"I fod yn blaen, ma' mwy o arian a mwy o gyfleoedd yn Llundain," esboniodd.
Petai'n dychwelyd i Gymru, meddai, byddai ei yrfa a’i gyflog yn dioddef.
Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio fod "dewis pa gwrs a ble i fynd i'r brifysgol yn ddewis personol i lawer o fyfyrwyr".
Dychwelyd i Gymru 'ddim yn apelio'
Yn Rhagfyr 2023, lansiodd y Pwyllgor Materion Cymreig, dolen allanol ymchwiliad i ddeall y ffactorau sy’n cymell pobl ifanc i symud y tu allan i Gymru.
Rhwng 2011 a 2021, roedd gostyngiad o 2.5% yng nghyfran y bobl yng Nghymru rhwng 15 a 64 oed.
Mae Rosy Pearson, 23, sy'n wreiddiol o Lanrwst, yn un o'r rheiny sydd heb ddychwelyd i Gymru ar ôl iddi raddio.
Mae Rosy bellach yn gweithio yn Bordeaux, Ffrainc ac yn gweld ei dyfodol hi yno.
"Dwi ddim yn gweld fy hun yn symud nôl i Gymru," meddai, "di'o just ddim yn apelio ata i o gwbl."
Fel nifer, mae’n teimlo "fel mwy o Gymraes" y tu allan i Gymru, gan nad oes rhaid iddi "gyfiawnhau pa mor Gymraeg ydw i".
Mae’n ychwanegu mai "agweddau mewnblyg" sy'n ei chadw hi rhag dychwelyd adref mwy na dim, a'i bod hi’n mwynhau’r awyrgylch "mwy agored" sydd i’w chael tu hwnt i’r ffin.
Mae’r awdur a'r ymgyrchydd iaith, Heini Gruffudd o’r farn bod Seren yn annog "cylch dieflig" o gryfhau prifysgolion Lloegr ar draul prifysgolion yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwadu fod cynllun Seren yn annog myfyrwyr i adael y wlad, gan ddweud fod 35.2% o ddysgwyr Seren a ddechreuodd yn y brifysgol yn 2023 wedi astudio yng Nghymru.
Wrth siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd Heini Gruffudd ei fod yn gweld y "gwaedlif o fyfyrwyr" allan o Gymru fel "colled ddifrifol" i Gymru.
Yn ei farn ef, dylai Seren roi "blaenoriaeth i brifysgolion Cymru" i sicrhau fod y "myfyrwyr gorau" yn "ddigon hyderus y gallen nhw gael yr addysg orau yng Nghymru".
Yn ddiweddar mae nifer o brifysgolion Cymru - gan gynnwys Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd - wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri swyddi oherwydd cyfnod ariannol "heriol" yn y sector addysg uwch.
Mae rhybudd wedi bod fod "argyfwng" yn wynebu prifysgolion Cymru - gyda gor-ddibyniaeth ar recriwtio myfyrwyr tramor a chostau cynyddol.
'Tensiwn cynhenid'
Cafodd Rhwydwaith Seren - sydd bellach wedi'i ailenwi yn Academi Seren - ei sefydlu 2015 yn dilyn adroddiad gan yr Arglwydd Paul Murphy, oedd yn aelod seneddol i’r Blaid Lafur ar y pryd.
Dywedodd yr Arglwydd Murphy wrth Cymru Fyw ei fod yn “siomedig iawn” i glywed y feirniadaeth o Rwydwaith Seren, sydd yn ei farn ef, wedi bod yn “llwyddiant mawr”.
“Gallwn ni ddim gwadu cyfleoedd i bobl Cymreig fynd i’r prifysgolion gorau yn y byd,” meddai.
Yn ei farn ef, “agwedd fewnblyg sydd wrth wraidd y gred na allwn ni [fel Cymry] fuddio o adael Cymru”.
Datgelodd adolygiad, dolen allanol o Seren yn 2018, "densiwn cynhenid" rhwng amcanion y cynllun ac "amcanion ehangach" y llywodraeth i gefnogi’r sector Addysg Uwch yng Nghymru.
Tanlinellodd yr adroddiad "ddiffyg eglurder" ynglŷn â rôl Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru o fewn Rhwydwaith Seren, gan awgrymu y gallai eu cyfraniad “leihau llwyddiant Seren”.
Yn ôl Cefin Campbell AS, Llefarydd Addysg Plaid Cymru, mae’n rhaid “troi cynllun Seren ar ei ben” i sicrhau fod y disgyblion “mwyaf disglair yn aros [yng Nghymru]”.
Yn 2019, yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, cafodd £2m ei roi i dreialu "dulliau arloesol" o gefnogi'r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg fel rhan o gynllun ARFOR.
Nod y cynllun yw hybu cyfleoedd i bobl a theuluoedd ifanc aros neu i ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid yng Nghymru.
Ond mae Mr Campbell yn pryderu fod cynllun ARFOR a Rhwydwaith Seren “yn gwrth-ddweud ei gilydd” a bod angen gwneud mwy i “atal y gwaedlif o fyfyrwyr" allan o Gymru.
Cefnogi dysgwyr 'beth bynnag eu cefndir'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyw Seren ddim yn ariannu trefn sy'n annog myfyrwyr i adael Cymru.
"Mae Academi Seren yn cefnogi'r dysgwyr mwyaf galluog yng Nghymru, beth bynnag eu cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol neu eu lleoliad, i fynd i brifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd - gan gynnwys prifysgolion yma yng Nghymru.
"Dewisodd 35.2% o ddysgwyr Seren a ddechreuodd yn y brifysgol yn 2023 astudio yng Nghymru.
"Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis aros yng Nghymru neu ddychwelyd yma. Mae bron i hanner y myfyrwyr sy'n gadael i astudio mewn gwlad arall yn dychwelyd i weithio yng Nghymru, ac mae dros ddwy ran o dair o fyfyrwyr Cymru yn dilyn eu hastudiaethau ôl-radd yma."
"Mae dewis pa gwrs a ble i fynd i'r brifysgol yn ddewis personol i lawer o fyfyrwyr. Nid yw'n ymwneud â chau cyfleoedd sy'n bodoli y tu allan i Gymru, ond sicrhau bod cyfleoedd tebyg ar gael yma, fel bod pobl ifanc yn teimlo bod Cymru'n lle y gallant gynllunio eu dyfodol."
Mewn ymateb i gwestiwn am wariant o £2.2bn ar gymorth i fyfyrwyr Cymreig sy'n astudio cyrsiau addysg uwch y tu allan i Gymru rhwng 2018 a 2023, dywedodd llefarydd: "Mae'r gwariant ar gymorth myfyrwyr wedi cynyddu ers 2018, oherwydd ystod o ffactorau megis y cynnydd mewn costau byw a chynnydd mewn cymorth cynnal a chadw.
"Fodd bynnag, mae rhan fwyaf o’r arian yn cael ei dalu'n ôl ar ffurf ad-daliadau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf