'Byddwn i ddim yma heddiw' heb gymorth cynllun ieuenctid

Lois yng nghanolfan Inspire
Disgrifiad o’r llun,

Nod cynllun Inspire yn Wrecsam yw lleihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty o ganlyniad i hunan-niweidio

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae gwasanaeth sy'n cefnogi pobl ifanc yn y gogledd wedi gweld cynnydd o 278% yn nifer yr achosion o hunan-niweidio sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw ers 2019.

Nod cynllun Inspire yn Wrecsam yw ceisio lleihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty o ganlyniad i hunan-niweidio.

Yn ôl Lois o Wrecsam, byddai hi "ddim yma heddiw" heb y gefnogaeth wnaeth hi ei dderbyn gan Inspire.

Dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd Addysg Cymru, "nad oes 'na opsiwn anghywir" wrth ofyn i wasanaethau am gymorth.

Dywedodd Lois, sydd bellach yn 18 oed, ei bod wedi dechrau hunan-niweidio a chael trafferth gyda'i harferion bwyta rai blynyddoedd yn ôl.

"Roedd o'n ffordd i mi allu teimlo fy mod i mewn rheolaeth," meddai, "yn enwedig ar ddiwrnod gwael, neu yn ystod y pandemig pan roedd popeth allan o'n rheolaeth i.

"Dyna oedd yr unig beth o'n i'n meddwl byddai'n gallu rhoi rheolaeth a rhyddhad i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois yn annog unrhyw un sy'n hunan-niweidio i ofyn am gymorth

Fe aeth rhieni Lois a hi at feddyg teulu, wnaeth ei chyfeirio hi wedyn at Inspire.

Dywedodd ei bod wedi creu cysylltiad gyda'i gweithiwr cymorth, Charlie, yn syth.

"Fe wnaeth hi fy helpu i fagu rhywfaint o hyder," meddai.

"Fe wnaeth hi helpu mi ddeall pam fy mod i'n ei wneud o [hunan-niweidio] a be' oedd yr hyn oedd yn ysgogi'r ymddygiad yma... byddwn i ddim yma hebddyn nhw."

'Does neb am feddwl eich bod chi'n faich'

Mae Lois yn mynd i ganolfan Inspire ers blwyddyn erbyn hyn, ac mae hi'n gobeithio mynd ymlaen i weithio fel pensaer.

Mae hi'n annog unrhyw un sydd yn hunan-niweidio i ofyn am gymorth.

"Doeddwn i erioed eisiau help. Roeddwn i'n meddwl 'fedra i wneud hyn ar ben fy hun', 'ma' hyn yn embarassing', 'dydw i ddim eisiau bod yn faich'.

"Does neb am feddwl eich bod chi'n faich neu'n wirion am feddwl yr hyn 'dach chi'n ei feddwl.

"Maen nhw eisiau helpu, ac mae Inspire wedi gwneud gymaint o wahaniaeth i mi.

"Mae pawb angen gwasanaeth fel hyn yn eu bywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig a'r cyfryngau cymdeithasol wedi effeithio'n fawr ar bobl ifanc, medd Donna Dickinson

Mae Inspire - sy'n cael ei arwain gan Gyngor Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - yn dweud eu bod wedi gweld nifer yr achosion sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw yn sgil hunan-niweidio bron yn treblu ers 2019.

Dywedodd Donna Dickinson, pennaeth ataliad a chynhwysiad gyda'r cyngor, fod y mater yn un cymhleth ond fod y cyfnodau clo a dylanwad y cyfryngau cymdeithasol wedi cael effaith fawr.

"Mae pobl ifanc yn gorfod delio gyda lot fawr o bwysau yn eu bywydau," meddai.

"Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi effeithio ar hynny, ond mae o hefyd yn gallu bod yn gymorth ar adegau - drwy ddangos i bobl lle i fynd am gefnogaeth.

"Mae'n rhaid i ni wrando ar bobl ifanc er mwyn deall yr hyn sy'n eu heffeithio, a dyna sut rydyn ni'n ceisio addasu ein gwasanaethau ni yma.

"Mae'r bobl ifanc yma yn gorfod delio â gymaint o bethau, ond maen nhw'n wych ac yn llawn uchelgeisiau fel unrhyw un arall."

Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Lynne Neagle weld cynlluniau fel Inspire yn cydweithio gydag ysgolion

Mae cynllun arall yn y ddinas - Wrexham's Info Shop - yn dweud eu bod wedi derbyn 10,000 o negeseuon gan bobl ifanc y llynedd, yn holi am gyngor ynghylch materion fel iechyd meddwl neu iechyd rhyw.

Fe ymwelodd Ms Neagle â'r ddau wasanaeth yn ddiweddar er mwyn cwrdd â rhai o'r bobl ifanc y maen nhw wedi eu cefnogi.

Dywedodd fod modd i wasanaethau fel hyn weithio gydag ysgolion er mwyn cynnig ystod eang o gefnogaeth.

"Ry'n ni eisiau i bobl ifanc ddeall nad oes 'na opsiwn anghywir pan mae hi'n dod at ofyn am gymorth," meddai.

"Ble bynnag maen nhw'n dewis mynd am gefnogaeth, ry'n ni eisiau i'r gefnogaeth yna fod ar gael.

"Byddai rhai yn fwy cyfforddus yn dod i rywle fel hyn efallai, lle mae yna weithwyr ieuenctid ac mae modd adeiladu perthynas hirdymor."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.