'Athrawon angen cymorth i ddeall safbwynt plant di-Gymraeg'

Katie Hall, Zac Mather a Liam BevanFfynhonnell y llun, Bethan Miller Co
Disgrifiad o’r llun,

Katie Hall gydag aelodau eraill Chroma, Zac Mather a Liam Bevan

  • Cyhoeddwyd

Mae prif leisydd y band roc Chroma yn credu dylai athrawon gael cymorth i wybod sut i ddelio’n well gyda disgyblion sydd ddim yn dod o aelwydydd Cymraeg.

Yn ôl Katie Hall, sydd ei hun o gartref di-Gymraeg, mae peryg bod diffyg dealltwriaeth yn cael effaith sydd i’r gwrthwyneb i’r hyn maen nhw’n gobeithio ei gyflawni – sef cael pobl ifanc a phlant i siarad yr iaith.

Ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru fe ddywedodd fod y ffordd mae rhai athrawon yn ceisio cael disgyblion i siarad Cymraeg ar yr iard yn gallu edrych fel eu bod yn dweud y drefn.

Ac i’r disgybl, meddai, mae hyn yn gerydd am siarad eu hiaith gyntaf a’r un maen nhw’n naturiol yn siarad gartref a gyda'u ffrindiau.

“Fi’n gallu gweld fel mae pobl o generations wahanol i generation fi sydd ‘di profi sut mae colli iaith a sut mae iaith dan bwysau yn teimlo… so mae o fel ‘ok all these brats yn siarad Saesneg ar yr iard’ - ma' rhaid bod e’n rili infuriating," meddai Katie.

“Ond o bersbectif fi, basa pobl yn gweud ‘o siaradwch Gymraeg, siaradwch Gymraeg’ a chi like ‘oh my god’ – a nine times out of 10 bydde pobl jest yn mynd yn dawel’.

“Fi wirioneddol yn meddwl dim bai'r athrawon ydi hynny, ond dylse fod rhyw fath o training neu ryw fath o package neu rywbeth iddyn nhw fel bod ti’n equiped yn y sefyllfa yna.”

Fe gafodd Katie Hall ei magu ger Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf. Fe gafodd addysg Gymraeg ond Saesneg oedd iaith y cartref ac iaith gyntaf nifer o’i ffrindiau wrth dyfu fyny.

Disgrifiad o’r llun,

Chroma yn 2016 pan enillon nhw gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol

Doedd cerddoriaeth Cymraeg ddim yn rhan o fywyd Katie Hall tan iddi fynd i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ddiweddarach fe berswadiodd ei chyd-aelodau o'r band Chroma i gystadlu ym Mrwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 – wnaeth agor eu llygaid i’r sin.

Mae Chroma – sy’n cloi nos Wener Maes B eleni – yn un o fandiau mwyaf cyffrous y sîn roc Gymraeg ar hyn o bryd, a dros yr haf fe fuon nhw’n chwarae o flaen torf o 20,000 ym Manceinion wrth gefnogi’r Foo Fighters.

Yn ei chyfweliad ar Beti a’i Phobol, dywedodd Katie Hall - fu’n gweithio fel swyddog cymunedol i’r Eisteddfod Genedlaethol - fod yn rhaid cofio bod agweddau plant a phobl ifanc yn wahanol iawn i oedolion.

“Pan ti’n 16 ti jest yn becso am lip gloss ac arholiadau ti ddim o reidrwydd yn meddwl am y big picture am yr iaith a be' ma' hynny’n golygu," meddai.

"Ti jest yn meddwl 'mae’r oedolyn yma yn rhoi stŵr i fi am siarad'. Fi wirioneddol ddim yn meddwl mai bai athrawon yw e.”

'Cyfle teg i bob plentyn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fis Gorffennaf, fe gyhoeddon ni Fil y Gymraeg ac Addysg yn y Senedd.

"Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a nod y Bil yw rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, beth bynnag fo’u cefndir a pha bynnag ysgol y maent yn ei mynychu.

"Byddwn ni’n parhau i gefnogi’n hysgolion ac athrawon i gyflwyno mwy o Gymraeg i fwy o ddysgwyr.

"Mae’r Bil yn cynnig sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sef sefydliad i gefnogi pobl o bob oedran i ddysgu Cymraeg, rhoi cyfeiriad ac arweiniad strategol i ddarparwyr dysgu, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg."

Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 dydd Sul 4 Awst ac ar BBC Sounds