Heddlu'n 'ennill y frwydr' ar ganabis a dwyn yng nghefn gwlad

Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys Richard Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Richard Lewis, yn dweud bod cyffuriau'n "flaenoriaeth"

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi amddiffyn ei record ar droseddau gwledig ar ôl cyfres o ladradau beiciau cwad a darganfyddiadau o ffatrïoedd canabis mawr.

Yn ôl Dr Richard Lewis, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi torri trosedd o 18% yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2024 - dros bedair gwaith y gostyngiad cyfartalog yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd bod mwy o ffatrïoedd cannabis yn cael eu darganfod yn yr ardal oherwydd bod cyffuriau yn "flaenoriaeth" i’r llu, a bod Heddlu Dyfed-Powys yn "fwy blaenllaw" wrth chwilio amdanyn nhw.

Fis Tachwedd, rhybuddiodd undeb NFU Cymru bod cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru yn cael eu bygwth gan "don o ladradau" ar ffermydd.

Fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys yn ddiweddar iddynt dderbyn dros 60 o adroddiadau am feiciau cwad wedi’u dwyn ar draws y llu yn ystod 2024.

Disgrifiad,

Soniodd Mark Davies am effaith lladrad o'i fferm yn Sir Benfro dros yr haf

Yn ôl y Prif Gwnstabl Lewis mae’r llu yn "gweithio’n galed" i dorri’r niferoedd o ladradau gwledig.

“Ni wedi erlyn pobl yn ddiweddar am ddwyn quads, a ni ‘di bod yn llwyddiannus yn gwneud hynny”, meddai.

“Mae sawl achos yn mynd drwy’r system ar hyn o bryd, felly, mae’n anodd i ddweud yn union ond fuodd achos llwyddiannus lawr yn Sir Benfro pythefnos yn ôl, a ni dal wrthi.

"Ma’ ‘na dîm cefn gwlad sydd wrthi yn gwneud y gwaith i ni dros Dyfed-Powys.”

‘Darganfod gwerth £15m o ganabis’

Mae’r Prif Gwnstabl Lewis yn dal dau bortffolio Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, gan arwain ar Gyffuriau a Pherfformiad yr Heddlu.

Wrth ddisgrifio record diweddar Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd mai cyffuriau yw un o'r blaenoriaethau.

“Dros bron â fod y ddwy flynedd ddiwethaf, ni ‘di darganfod bron i £15m o werth o ganabis mewn ffatrioedd dros Ddyfed-Powys.

"Ni’n chwilio fwy amdano fe, achos ni am atal y troseddau yma yn y dyfodol”, meddai.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwerth £2m o ganabis ei ganfod mewn hen ysgol yn Llandysul

Yng Nghastellnewydd Emlyn ym mis Tachwedd cafodd ffatri ganabis ei chanfod bedwar drws i lawr o'r orsaf heddlu yn y dref.

Mae'r Prif Gwnstabl Lewis yn gwrthod awgrym bod hynny'n dangos bod y llu wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa, ond yn brawf bod y ffatrïoedd yn digwydd "ym mhobman".

“Ennill y frwydr ni’n ‘neud oherwydd bod ni yn darganfod y ffatrïoedd yma ac felly dwi’n falch iawn o’r gwaith ry’n ni’n gwneud yma i’w darganfod nhw…

"Ni yn arestio, ni yn rhoi pobl o flaen y llysoedd, ac mae’r llwyddiant ni ‘di ca’l dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn aruthrol.”

Wrth ddisgrifio natur y ffatrïoedd cannabis, dywedodd bod y planhigion yn "cymryd tua tair mis i dyfu a dim ond yn yr wythnosau diwethaf o’r tair mis hynny mae’r arogl yn dechrau dod".

"O ran un achos yn Llandysul, fe gethon ni alwad ar un diwrnod a fuon ni mewn drwy’r drws y dydd ar ôl ‘ny…

"Mwy na’r arfer nawr, ry’n ni’n gweld bod y ffatrïoedd yma yn cael eu rhoi i fyny mewn llefydd oedd yn siopau yn y gorffennol, ardaloedd masnachol.

"Bydden i’n gofyn i unrhywun sy’n berchen ar y siopau yma, pwy sy’n talu’r rhent i chi?

"Ydyn nhw’n talu mewn arian parod neu drwy’r banc? Ac unrhyw wybodaeth maen nhw’n gallu rhoi i ni yn gynnar, fe allwn ni ymateb.”

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i'r ffatri yma yn Nhycroes, ger Rhydaman ym mis Mai

Mae safleoedd sy'n cael eu hamau o fod yn ffatrïoedd canabis wedi cael eu darganfod yn Llandysul, Penfro, Doc Penfro, Y Trallwng, Caerfyrddin, Tycroes a Chastellnewydd Emlyn yn ystod 2024.

Cyfaddefodd y Prif Gwnstabl bod maint daearyddol y llu, sy’n cwmpasu dros hanner Cymru, "yn destun sy’n creu problemau".

O’r 1,310 o swyddogion heddlu gwarantedig ar lyfrau’r heddlu, roedd 55 yn absennol oherwydd salwch, a 138 o swyddogion eraill ar ddyletswyddau cyfyngedig, sef tua 15% o’r gweithlu, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth ar 1 Hydref 2024.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Lewis bod y ffigyrau'n adlewyrchu pwysau'r swydd.

“Beth mae e’n dweud wrthon ni yw bod plismona yn waith ardderchog i’w wneud, rwy’ wedi bod wrth fy modd yn bod yn heddwas ac ymhell mewn i’r dyfodol hefyd, ond mae e’n waith caled."

'Gallu bod yn anodd'

"Ma’r heddweision a staff yr heddlu a’r gwirfoddolwyr allan yn y cymunedau yn gweld pethau anodd yn ddyddiol.

"Ni’n gorfod sicrhau bo' ni’n gwneud popeth ry’n ni’n gallu i’w cadw nhw’n iach. Yn iach ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd, wrth gwrs, ond hefyd i fod mas yna yn eu cymunedau.

"Mae plismona yn waith ardderchog ond yn gallu bod yn anodd o bryd i’w gilydd.”

Fe ddywedodd, serch hynny, bod bron i chwarter miliwn o bobl dros Gymru a Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf wedi ceisio ymuno â’r heddlu.

Mae "llwyddiant aruthrol" Heddlu Dyfed-Powys, meddai, yn gyfuniad o waith y swyddogion, y comisiynydd yn comisiynu’r gwasanaethau ynghyd â gwaith y cymunedau.