Beth yw llwybr Cymru i Gwpan y Byd erbyn hyn?

Y siom yn amlwg ar wyneb Craig Bellamy ar ôl colli yn erbyn Gwlad Belg nos Lun
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig fwy neu lai ar ben.
Gwlad Belg ydy'r ffefrynnau clir i orffen ar frig y grŵp rhagbrofol bellach ar ôl iddyn nhw ennill 4-2 yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.
Dim ond un fuddugoliaeth sydd ei hangen ar Wlad Belg o'u dwy gêm nesaf, oddi cartref yn Kazakhstan a gartref yn erbyn Liechtenstein.
Fe all y gêm yn yr oerfel yn Kazakhstan fod yn un anodd, ond a bod yn gwbl onest - maen nhw'n siŵr o ennill yn hawdd yn erbyn Liechtenstein ym Mrwsel.
Gorffen yn ail ydy'r gorau y gall Cymru obeithio amdano bellach, ond mae'r un peth yn wir am Ogledd Macedonia.

Dyma sefyllfa Grŵp J fel mae'n sefyll
Sut all Cymru orffen yn ail?
Y newyddion da ydy fod tynged Cymru yn eu dwylo eu hunain.
Y ffordd symlaf i Gymru orffen yn ail ydy ennill y ddwy gêm sydd ganddyn nhw'n weddill fis nesaf.
Byddan nhw'n teithio i Vaduz i wynebu Liechtenstein, cyn herio Gogledd Macedonia yng Nghaerdydd.
Chwe phwynt o'r ddwy gêm yna, a bydd pawb yn hapus.
Gwahaniaeth goliau yn ffactor
Fe allai pedwar pwynt fod yn ddigon hefyd.
Byddai gêm gyfartal yn erbyn Liechtenstein a buddugoliaeth yn erbyn Gogledd Macedonia yn eu gweld nhw'n gorffen yn ail.
Ond tasen nhw'n curo Liechtenstein, ac wedyn yn cael gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Macedonia - fe fyddai'r ddau dîm yn gorffen yn gyfartal ar bwyntiau.
Fel mae pethau ar y funud, mae gwahaniaeth goliau Gogledd Macedonia yn well.
Byddai Cymru'n gallu gwneud gydag ennill o chwe gôl yn erbyn Liechtenstein - dim ond wedyn y byddai gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Macedonia yn ddigon.

David Brooks yn sgorio wrth i Gymru gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gogledd Macedonia fis Mawrth
Gorffen yn ail yn bwysig
Mae'n bwysig cofio fod Cymru fwy neu lai yn saff o'u lle yn y gemau ail-gyfle yn barod.
Dyna'r peth da am ennill eich grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Mae 'na bedwar lle yn cael eu cadw wrth gefn yn y gemau ail-gyfle ar gyfer timau sydd wedi gwneud yn dda yn y gystadleuaeth honno.
Y broblem ydy, mae mynd mewn i'r gemau ail-gyfle, heb orffen yn y ddau safle uchaf yn eich grŵp rhagbrofol, yn gwneud pethau'n llawer anoddach.
Sut mae'r gemau ail-gyfle yn gweithio?

Gareth Bale yn sgorio yn erbyn Wcráin yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2022
Bydd 16 tîm yn chwarae yn y gemau ail-gyfle fis Mawrth nesa', gyda phedwar ohonyn nhw yn mynd trwodd i Gwpan y Byd.
Dyna sut llwyddodd Cymru i gyrraedd y gystadleuaeth yn Qatar yn 2022.
Bydd yr un fformat yn cael ei ddefnyddio y tro hwn - rownd gynderfynol dros un cymal, ac wedyn rownd derfynol hefyd dros un cymal.
Gorffen yn ail yn y grŵp, ac fe ddylai Cymru fod ymysg y prif ddetholion, fyddai'n golygu gêm gartref yn erbyn un o'r detholion isaf yn y rownd gynderfynol.
Fel mae pethau ar y funud, fe allai hyn olygu gêm yn erbyn Moldofa.
Ond os ydyn nhw'n gorffen yn drydydd, mi fydden nhw wedyn ymysg y detholion isaf, fyddai'n golygu gêm oddi cartref cartref yn erbyn un o'r prif ddetholion.
Fel mae pethau ar y funud - fe allai hyn olygu taith i'r Eidal.
Efallai bod y freuddwyd o orffen ar frig y grŵp ar ben, ond mae'n hollbwysig bellach i Gymru orffen yn ail, fyddai'n rhoi cyfle llawer gwell iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd9 Hydref