Gwrthdrawiad yr A48: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham yn gynnar ddydd Sadwrn 25 Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â gwrthdrawiad yn Sir Gâr dros y penwythnos wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn gwrthdrawiad yn cynnwys dau gerbyd - BMW du a Toyota Prius gwyn - ar lôn orllewinol yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham tua 04:20 fore Sadwrn, 25 Ionawr.
Bu'n rhaid i bedwar o bobl gael triniaeth ysbyty, gan gynnwys gyrrwr 18 oed y BMW.
Fe gafodd ei arestio o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus, gyrru heb yswiriant a gyrru dan ddylanwad.
Mae'r gyrrwr, a fethodd â stopio ar gais yr heddlu cyn y gwrthdrawiad, wedi ei ryddhau o'r ddalfa ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Fe gadarnhaodd y llu ddydd Sadwrn eu bod wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr