Lluniau: Marathon Eryri 2024
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Sadwrn, 26 Hydref, daeth pentref Llanberis a'r ardal i stop gan fod Marathon Eryri'n cael ei chynnal am 40fed tro.
Cynhaliwyd y marathon am y tro cyntaf yn 1982, ond doedd dim ras am ddwy flynedd oherwydd pandemig Covid-19.
Mae'r ras yn dechrau yn Llanberis gan ddilyn yr A4086 sy'n dringo i ben Pas Llanberis. Yna mae'r rhedwyr yn mynd lawr i gyffordd Penygwryd cyn ymuno â’r A498.
Aeth y rhedwyr drwy Feddgelert, Rhyd Ddu a Betws Garmon ac yna i Waunfawr a dringo’n serth i Fwlch y Groes, cyn mynd nôl lawr a gorffen yn Llanberis.
Roedd 2,800 o redwyr eleni, gan gynnwys dros 1,000 o ferched, y nifer fwyaf erioed.
Dyma rai o'r golygfeydd oedd i'w gweld ar hyd y daith ddydd Sadwrn.
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/80df/live/47e3bb50-951a-11ef-9504-b516e8b5f45f.jpg)
Andrew Davies o'r Drenewydd yn arwain y ras
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/c389/live/cd54ceb0-950f-11ef-8e6d-e3e64e16c628.jpg)
Roedd y ddau yma, Andy Moxon a’i bartner Christine Pollard, yn codi arian ar gyfer elusen dementia. Mae Andy'n byw gyda'r cyflwr ac yn cael trafferth rhedeg, ond fe gwblhaodd y ras
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/c5ec/live/1365d1b0-9510-11ef-9504-b516e8b5f45f.jpg)
Gwenu wrth redeg fyny'r llwybrau serth
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/9bdc/live/3fcb7b10-9510-11ef-8e6d-e3e64e16c628.jpg)
Fe wnaeth y ddau yma, Adam Latcham ac Aled Jenkins, seiclo o Ben-y-bont ar Ogwr, rhedeg y ras ac wedyn seiclo yn ôl y diwrnod wedyn. Tipyn o gamp!
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/62c8/live/771ecbd0-951a-11ef-89ae-5575c76d98e6.jpg)
Gorffennodd Tom Roberts o Ddolgellau yn y 10fed safle gydag amser o 2:49:34
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/d6fc/live/f623ea30-9517-11ef-89ae-5575c76d98e6.jpg)
Roedd yna gefnogwyr bob ochr i'r ffordd mewn rhai mannau
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/055e/live/67a80e50-951a-11ef-89ae-5575c76d98e6.jpg)
Hugo Thomas o Ben Llŷn a orffennodd y ras mewn amser o 4:27:58
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/ee99/live/47d9e560-951c-11ef-89ae-5575c76d98e6.jpg)
Rhai o'r gwirfoddolwyr a oedd yn helpu i drefnu a stiwardio'r diwrnod
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/cdc3/live/769cb140-951f-11ef-8e6d-e3e64e16c628.jpg)
Enillydd ras y merched oedd Louise Flynn o glwb rhedeg Les Croupiers yng Nghaerdydd
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/cdac/live/fc5c7320-950f-11ef-9504-b516e8b5f45f.jpg)
Enilydd ras y dynion, Andrew Davies, yn croesi'r llinell derfyn
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/3b4e/live/0621b200-9518-11ef-9504-b516e8b5f45f.jpg)
Gorffennodd Louise Flynn mewn amser o 2:59:27, un o'r ychydig o ferched sydd wedi cwblhau'r ras yma mewn llai na thair awr
![marathon eryri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/61bd/live/7dcef9f0-950b-11ef-9504-b516e8b5f45f.jpg)
Gorffennodd Andrew Davies gydag amser o 2:28:41, sy'n record newydd i’r cwrs presennol
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2024