'Ymrwymiad cryf o hyd' i ddatblygu cyfleusterau iechyd Dyffryn Nantlle

cyfarfod cyhoeddus
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 150 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae bwrdd iechyd y gogledd yn dweud bod "ymrwymiad cryf o hyd i ddarparu cynnig iechyd a lles i gymuned Dyffryn Nantlle".

Roedd dros 150 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Goffa Penygroes nos Lun i drafod dyfodol cyfleusterau iechyd yr ardal.

Mae cynlluniau i greu canolfan iechyd a lles newydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd, ond hyd yma does dim wedi digwydd.

Y bwriad yn wreiddiol oedd defnyddio 'Canolfan Lleu' i glymu gwasanaethau iechyd, tai, a swyddfeydd eraill gyda'i gilydd - ond gyda chymaint o oedi, mae 'na bryder am ddyfodol y prosiect.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Grŵp Cynefin mewn datganiad ar y cyd mai'r "nod yw sicrhau cytundeb Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda chynllun mwy cymedrol".

Siân Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses o greu canolfan newydd wedi "llusgo a llusgo," meddai Siân Gwenllian

Siân Gwenllian, Aelod Senedd Cymru Arfon, oedd wedi trefnu'r cyfarfod cyhoeddus er mwyn ceisio cael eglurder ynglŷn â'r camau nesaf.

"Ma' hi 'di bod yn amser hir iawn ers i ni ddechrau trafod yr angen am gyfleusterau iechyd gwell ar gyfer y dyffryn i gyd, ac yn anffodus mae pethau wedi llusgo, llusgo a llusgo," meddai.

"Mae 'na safle yma yn y pentref ond mae o'n wag, ac mae hi'n hen bryd rŵan i glywed newyddion dipyn bach mwy calonogol 'neith roi hwb i bobl.

"Gobeithio bod 'na rywbeth yn mynd i ddigwydd, ond dwi ddim yn gwybod eto."

Carol Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carol Morris am weld y ganolfan yn cynnig cymorth iechyd meddwl i bobl yr ardal

Dywedodd Carol Morris, sy'n byw yn lleol, ei bod "isio gweld y lle yn cael ei ddatblygu i helpu pobl hefo anghenion iechyd meddwl".

"Rhywle all rhieni roi eu plant i mewn i gael brêc," ychwanegodd.

'Bwlch cyllido sylweddol'

Roedd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Grŵp Cynefin yn bresennol i gynnig eglurder ac i ateb cwestiynau pobl leol.

Dywedodd y bwrdd iechyd a Grŵp Cynefin mewn datganiad ar y cyd fod y ganolfan "wedi esblygu yn sylweddol ers i'r prif gynllun gwreiddiol gael ei gytuno" a bod "newidiadau allweddol wedi effeithio ar y prosiect".

"Cyflwynwyd Achos Amlinellol Strategol (SOC) i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2023 ac yna fe'i cymeradwywyd i symud ymlaen i'r cam Achos Busnes Amlinellol (OBC).

"Mae rhai partneriaid wedi tynnu'n ôl, mae chwyddiant wedi arwain at gynnydd mewn costau, ac mae heriau wrth gysoni costau yn erbyn cyllid grant sydd ar gael wedi arwain at fwlch cyllido sylweddol o'i gymharu â'r cam SOC.

"O ganlyniad, mae angen adolygu'r prif gynllun gwreiddiol ar gyfer y safle a'r dyluniadau."

Er gwaethaf yr heriau ariannol, mae'r datganiad yn nodi bod "ymrwymiad cryf o hyd i ddarparu cynnig iechyd a lles i gymuned Dyffryn Nantlle" a bod "ymdrechion yn parhau i fynd i'r afael â'r heriau a sicrhau llwyddiant y prosiect".

"Y nod yw sicrhau cytundeb Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda chynllun mwy cymedrol sy'n dal i gynnal egwyddorion craidd darpariaeth gofal iechyd modern," ychwanega'r datganiad.

"Byddai hyn yn cynnwys swyddfa Grŵp Cynefin wedi'i ailfodelu ar y safle.

"Bydd Grŵp Cynefin hefyd yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i sefydlu beth yw'r angen lleol am dai a ffurfio cynnig."