Trin cleifion mewn coridorau ysbytai yn 'beryglus a diraddiol'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw'n cefnogi trin pobl mewn "amgylcheddau anaddas"
- Cyhoeddwyd
Mae pob adran frys yng Nghymru yn gofalu am gleifion mewn coridorau, gyda'r broblem bellach yn "endemig", yn ôl y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng (RCEM).
Mae'r coleg - sy'n cynrychioli meddygon brys ar draws y DU - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi stop ar yr arfer "peryglus" a "diraddiol".
Yn ôl arolwg newydd gan y RCEM - gafodd ei gynnal dros dri diwrnod ym mis Ionawr a Chwefror - roedd pobl yn cael eu trin yng nghoridorau bob un o'r 12 adran frys yng Nghymru, tra bod rhai cleifion hefyd yn derbyn gofal mewn ambiwlansys.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n cefnogi trin pobl mewn "amgylcheddau anaddas neu sydd ddim yn glinigol", ond bod y gwasanaeth iechyd yn wynebu "pwysau aruthrol" ar adegau.
'Rhaid gweithredu nawr'
Dywedodd Dr Rob Perry, is-lywydd RECM Cymru: "Yn ddiweddar, mae'r llywodraeth wedi dweud bod ansawdd y gofal, preifatrwydd, neu urddas cleifion ond yn cael ei beryglu ar 'adegau pan mae'r GIG yn wynebu pwysau eithriadol'.
"Mae ein hymchwil yn dangos fod y pwysau eithriadol yna bellach yn rhywbeth cyffredin o fewn adrannau brys yng Nghymru.
"Dwi'n hyderus y byddai canlyniadau'r arolwg wedi bod yn debyg dim ots pa adeg o'r flwyddyn y cafodd ei gynnal."
Ychwanegodd: "Mae'r hyn sy'n cael ei alw yn 'ofal coridor' yn beryglus, yn diraddio ac mae yna endemig yma yng Nghymru erbyn hyn.
"Mae'n rhaid iddo gael blaenoriaeth wleidyddol, ac mae'n rhaid iddynt weithredu nawr."
Roedd canlyniadau'r arolwg yn dangos fod:
12 allan o'r 12 adran frys yng Nghymru â chleifion yn cael eu trin yn y coridorau
O'r cyfartaledd o 619 o gleifion mewn uned frys ar yr un adeg, roedd 13.5% yn cael eu trin mewn troli ar y coridorau ac mewn mannau amhriodol eraill
Roedd 10.7% o gleifion yn aros mewn ardaloedd a oedd angen gofod clinigol
Roedd 43.9% (272) o'r holl gleifion yn aros am wely
Roedd pob ciwbicl o fewn yr adrannau brys yn llawn, gyda chyfartaledd defnydd ciwbicl yn 176%. Yr uchaf oedd 278% mewn un adran lle'r oedd 75 o gleifion a dim ond 27 ciwbicl.
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
Mae data perfformiad diweddaraf GIG Cymru yn dangos gwelliannau mewn triniaethau gofal brys, er bod y ffigyrau'n parhau i fod ymhell islaw'r targed.
Bu cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd i adrannau brys bob dydd ym mis Chwefror – ac eto bu gwelliannau bychain o ran arosiadau pedair a 12 awr.
'Mae'r cyfan yn annerbyniol'
Dywedodd Dr Perry: "Mae'r broblem sylfaenol o symud pobl o'r adran frys i'r ysbyty ac adref eto pan maen nhw'n ddigon da, yn parhau.
"Bu'n rhaid i bron i hanner y rheiny aeth i uned frys fis diwethaf aros mwy na pedair awr - a bu'n rhaid i filoedd yn fwy aros o leiaf 12 awr.
"Mae aros yn hir, y torfeydd, a'r gofal coridor - mae'r cyfan yn annerbyniol. Mae ein haelodau a'n cleifion yn haeddu llawer mwy."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, James Evans AS, fod "gofal coridor yn arfer annerbyniol, ac yn symbol o gamreolaeth Llafur o'r gwasanaeth iechyd ar hyd y wlad".
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, "mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu'r argyfwng mewn gofal cymdeithasol os am ddod a gofal coridor i ben".
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn cymeradwyo gofal na thriniaeth arferol unigolion mewn amgylchiadau anghlinigol neu anaddas, nac unrhyw sefyllfaoedd lle mae ansawdd gofal, preifatrwydd nac urddas cleifion yn cael eu peryglu.
"Fodd bynnag, mae yna adegau pan fydd y GIG yn wynebu pwysau eithriadol, megis yn ystod cyfnodau o alw cynyddol neu argyfyngau iechyd cyhoeddus.
"Nid yw'r pwysau hwn yn unigryw i Gymru. Rydym wedi darparu mwy na £200m o arian ychwanegol eleni i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal i reoli mwy o bobl gartref yn ddiogel a gwella prydlondeb rhyddhau o'r ysbyty sy'n hanfodol i helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn."