Morgan yn 'bryderus iawn' am gwmni sy'n rheoli meddygfeydd

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan nad oedd hi'n hapus gyda meddygfeydd "yn cael eu rhedeg o bell i bob pwrpas"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn dweud ei bod yn "bryderus iawn" am gwmni sy'n rheoli meddygfeydd, yr honnir sydd ddim wedi talu staff yn llawn.

Clywodd y Senedd ddydd Mawrth fod cleifion yn cael trafferth i gael apwyntiadau mewn meddygfeydd sy'n cael eu rheoli gan eHarley Street.

Dywedodd y prif weinidog "nad yw'r math yma o ymddygiad yn ddigon da", gan fygwth canlyniadau os nad yw'r sefyllfa'n gwella.

Dywedodd y cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran eHarley Street fod y cwmni mewn cyswllt cyson gyda Bwrdd Iechyd Aneirin Bevan a'u bod yn y broses o fynd i'r afael â'r pryderon gafodd eu codi yn y Senedd.

Datgelodd BBC Cymru bryderon diogelwch a staffio ym mis Tachwedd - honiadau mae'r cwmni wedi gwadu.

Mae galwadau am ymchwiliad i eHarley Street, sy'n rheoli meddygfeydd yng Nghaerffili, Blaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen o Loegr.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Hefin David, AS Llafur Caerffili, bod cleifion "wedi nodi dirywiad yn y gwasanaethau y maen nhw wedi eu cymryd drosodd; nid yw staff - gan gynnwys meddygon teulu - wedi cael eu talu ar amser".

Roedd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, Delyth Jewell, yn poeni y gallai'r model "gynrychioli preifateiddio meddygfeydd trwy'r drws cefn".

Dywedodd Alun Davies, AS Llafur Blaenau Gwent: "Mae methiant eHarley Street yn warth.

"Mae fy etholwyr ac etholwyr pobl eraill yn canfod nad ydyn nhw nid yn unig yn gallu cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol sylfaenol, ond rydyn ni mewn sefyllfa lle mae meddygon a chyflenwyr yn parhau i fod heb eu talu a lle mae staff yn cael eu bwlio."

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim eisiau ymchwiliad, rydyn ni eisiau gweithredu."

'Diffyg parch'

Dywedodd Eluned Morgan fod sawl aelod o'r Senedd wedi codi'r mater gyda hi.

"Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylen ni fod yn bryderus iawn yn ei gylch," meddai.

Roedd Jeremy Miles, yr ysgrifennydd iechyd, wedi trafod y mater gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac mae disgwyl iddo gwrdd â'r cadeirydd yr wythnos nesaf, meddai.

"Ni fyddwn yn goddef y math yma o ymddygiad a diffyg parch at y cytundeb sydd wedi ei arwyddo," meddai Ms Morgan.

Dywedodd nad oedd hi'n hapus gyda meddygfeydd "yn cael eu rhedeg o bell i bob pwrpas".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae eHarley Street yn gysylltiedig â sawl meddygfa yng Nghymru

Dywedodd Ms Morgan fod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn darparu cefnogaeth "yn ystod cyfnod pontio".

"Os na fydd pethau'n gwella, yna wrth gwrs byddwn yn disgwyl y bydd canlyniad."

Ychwanegodd y prif weinidog: "Rydym yn aml yn ei chael hi'n anodd recriwtio i rai o'r meysydd hyn, felly rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â phwy sy'n fodlon cymryd y meddygfeydd yma.

"Ond mewn llawer o fyrddau iechyd, yr hyn sy'n digwydd yw bod byrddau iechyd yn cymryd rheolaeth ac maen nhw'n cyflogi meddygon teulu yn uniongyrchol.

"Felly mae modelau amgen y dylid efallai eu hystyried os nad yw hyn yn datrys ei hun."

Gwadu'r pryderon

Mae'r partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd ac eHarley Street wedi dweud yn y gorffennol fod gofal amserol i gleifion "yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth" a'i fod yn "cynnig, ar gyfartaledd, un sesiwn o amser clinigwyr fesul 200 o gleifion", sef y "lefel y cytunwyd arni".

Roedden nhw wedi gwadu'n bendant y pryderon a godwyd y llynedd.

Mewn datganiad gan eu cyfreithwyr, roedd y partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd ac eHarley Street wedi dweud eu bod yn gweithredu nifer o bractisau meddygon teulu yng Nghymru sydd "yn dod o dan eu rheolaeth trwy brosesau cais agored".a

Dywedon nhw eu bod yn wynebu "cyfyngiadau ariannol sylweddol" ond eu bod "wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau hyn" i sicrhau bod meddygfeydd yn "parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion tra'n cynnal amgylchedd gwaith cynaliadwy i staff".

Fe wnaeth y partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd, ac eHarley Street, ddweud y llynedd bod asiantaethau locwm yn "gyrru prisiau i fyny i lefelau anghynaladwy" yng Nghymru, ond dywedon nhw fod cynllun "i sicrhau bod pob taliad hwyr yn cael ei wneud yn llawn".

Dywedon nhw eu bod wedi buddsoddi £383,000 yn y meddygfeydd yng Nghymru ond eu bod yn dal i wynebu colledion sylweddol.

Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd cyfreithwyr y cwmni eu bod mewn cyswllt cyson gyda Bwrdd Iechyd Aneirin Bevan a'u bod yn y broses o fynd i'r afael â'r pryderon gafodd eu codi yn y Senedd.

"Mae ein cleientiaid yn dal i ganolbwyntio ar ddod o hyd i ddatrysiadau fydd yn dderbyniol i bawb," meddai'r datganiad.

"Gallwn gadarnhau bod y partneriaid yn croesawu cyfarfod gyda'r Prif Weinidog neu unrhyw Aelodau o'r Senedd er mwyn trafod eu pryderon."