Galw am ymchwiliad i feddygfeydd lle mae cleifion yn teimlo'n 'anniogel'
- Cyhoeddwyd
Mae galw am ymchwiliad i feddygfeydd sy'n cael eu rhedeg o bell gan gwmni rheoli meddygon teulu preifat.
Fis diwethaf fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu fod yna bryderon am lefelau staffio "peryglus" a phrinder cyflenwadau mewn grŵp o feddygfeydd teulu sy'n gysylltiedig â chwmni preifat eHarley Street.
Nawr mae cleifion - rhai â salwch terfynol - wedi dweud eu bod yn cael anhawster cael apwyntiadau a thriniaethau.
Dywed y partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd ac eHarley Street eu bod wedi buddsoddi bron i £400,000 yn y practisau a'u bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â "heriau".
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
"Mae'n fy nychryn i - dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel," meddai Katrina Hughes, 69, sydd â chanser terfynol.
Mae hi'n dweud ei bod yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiad na gweld yr un meddyg ag y mae hi wedi'i weld o'r blaen ym Meddygfa Brynmawr ym Mlaenau Gwent.
"Does dim gofal parhaol o gwbl," meddai.
Mae gan Ms Hughes ganser yr esgyrn sy'n achosi i'w hasgwrn cefn freuo, ac mae'n teimlo nad oes ganddi feddyg.
Roedd hi ymhlith tua 100 o bobl a aeth i gyfarfod cyhoeddus i drafod gwasanaethau ym Meddygfa Brynmawr.
Dywedodd nifer eu bod yn cael trafferth cael apwyntiadau neu'n aros am feddyginiaeth a chanlyniadau profion.
Mae Meddygfa Brynmawr wedi'i gontractio i ddau feddyg teulu, ac mae'r un ddau feddyg teulu yn rhedeg eHarley Street - cwmni rheoli meddygon teulu o Sir Gaerlŷr sy'n cefnogi naw practis yng Nghymru.
Mae Ralph Morgan, 69, yn un o gleifion Meddygfa Aberbîg yn Sir Fynwy - safle arall sy'n cael ei reoli gan eHarley Street.
Mae'n cael triniaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel ac angen pigiadau i'w bengliniau yn gyson er mwyn helpu iddo gerdded.
Mae wedi bod yn yr un feddygfa ers 25 mlynedd ond yn ddiweddar dywed fod y gwasanaeth wedi dirywio.
Dywedodd ei fod wedi cael gwybod bod y feddygfa ond yn cynnig "12 apwyntiad arferol" yr wythnos ac "nad yw'n gwybod" pryd y gall gael ei bigiad nesaf.
Mae Mr Morgan eisiau i Lywodraeth Cymru ymchwilio ac mae wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gwyno.
Dywedodd y dylai ymchwiliad gael ei gynnal "ar unwaith".
Fis diwethaf fe ddatgelodd BBC Cymru fod meddygon locwm - sy'n llenwi swyddi meddygon teulu am gyfnodau byr - wedi gwrthod gweithio mewn practisau Cymreig sy'n gysylltiedig ag eHarley Street.
Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi cael eu talu'n llawn a rhyngddynt bod dyled y cwmni iddyn nhw yn £250,000.
Dywedodd y partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd ac eHarley Street fod gofal amserol i gleifion "yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth" a'u bod yn "cynnig, ar gyfartaledd, un sesiwn o amser clinigydd fesul 200 o gleifion", sef y "lefel o ofal clinigol a gytunwyd".
Maen nhw yn gwadu yn bendant y pryderon a godwyd fis diwethaf.
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi "gwella trefniadau monitro" ac y byddan nhw'n parhau i wneud "gwaith pellach".
Y meddygfeydd sy'n gysylltiedig ag eHarley Street
Meddygfa Brynmawr, Brynmawr
Meddygfa Blaenafon, Blaenafon
Canolfan Feddygol Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl
Meddygfa Bryntirion, Bargoed
Canolfan Iechyd Tredegar, Tredegar
Meddygfa Aberbîg, Aberbîg
Meddygfa Gelligaer, Hengoed
Meddygfa Ffordd y Gorfforaeth, Caerdydd
Canolfan Feddygol Llyswyry, Casnewydd
Mae'r meddygfeydd yn cael eu cytundebu i feddygon teulu unigol, ond mae gan bob un gysylltiadau ag eHarley Street.
Mae'r dudalen "Ein Meddygfeydd" ar wefan y cwmni yn rhestru naw meddygfa yng Nghymru, a 15 yn Lloegr.
"Dydyn ni dal heb gael ein talu", meddai Dr Samantha Jenkins, sy'n disgwyl bron i £10,000 o dâl am waith ym meddygfeydd Brynmawr a Blaenafon.
Mae hi'n cefnogi'r galwadau am ymchwiliad, ac mae hi a meddygon eraill yn bwriadu mynd i'r llys i adennill eu cyflogau.
Mae cleifion a meddygon hefyd wedi cwestiynu rhan y bwrdd iechyd cyn rhoi'r cytundebau meddygon teulu.
Mae'r partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd ac eHarley Street wedi cyhuddo asiantaethau meddygon locwm o "godi prisiau i lefelau anghynaladwy" yng Nghymru ac yn dweud y byddan nhw yn "sicrhau fod pob taliad hwyr yn cael ei dalu'n llawn".
Maen nhw'n dweud eu bod wedi buddsoddi £383,000 yn y practisau Cymreig ond eu bod yn dal i wynebu colledion "difrifol".
'Cyfrifoldeb i ymchwilio i hyn'
Cododd yr Aelod o'r Senedd Alun Davies, sy'n cynrychioli Blaenau Gwent, y mater yn Senedd Cymru yn ddiweddar.
Dywedodd mai ei flaenoriaeth yw "diogelwch cleifion" ond mae'n credu y dylai ymchwiliad gael ei gynnal i "pam fod y cwmni hwn yn methu pobl".
Mae'n teimlo bod gan naill ai Llywodraeth Cymru neu'r pwyllgor iechyd "gyfrifoldeb i ymchwilio i hyn".
Dywedodd Mr Davies ei fod yn "warthus" fod meddygon teulu yn dal heb gael eu talu, a galwodd am i reolwr Meddygfa Brynmawr, Amy McCrystal, gael ei swydd yn ôl wedi iddi gael ei diswyddo heb unrhyw rybudd.
Mae Delyth Jewell, AS Dwyrain De Cymru, hefyd wedi galw am atebion gan Lywodraeth Cymru ar ôl i rai ddweud wrthi eu bod yn bryderus am Feddygfa Brynmawr, a Meddygfa Bryntirion ym Margoed.
Mae'r partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd ac eHarley Street yn honni nad yw sylwadau'r gwleidyddion yn "wir" ac maen nhw'n dweud eu bod wedi "cysylltu" â chynghorwyr lleol.
Mewn datganiad gan eu cyfreithwyr, dywedodd y partneriaid sy'n rhedeg y meddygfeydd ac eHarley Street eu bod yn rheoli nifer o bractisau meddygon teulu yng Nghymru a bod hynny wedi digwydd "drwy brosesau cais agored".
Ychwanegon nhw eu bod yn wynebu "cyfyngiadau ariannol sylweddol" ond eu bod yn "ymrwymedig i fynd i'r afael â'r heriau hyn" i sicrhau bod practisau'n "parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion tra'n cynnal amgylchedd gwaith cynaliadwy i staff".
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r pryderon a bod y bwrdd iechyd "yn parhau i ddarparu cefnogaeth ac mewn cysylltiad agos â'r rheolwyr a'r partneriaid meddygon teulu i geisio sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u cytundeb".
Dywedodd y bwrdd iechyd nad oedd ganddynt unrhyw gytundebau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) gydag e-Harley Street a bod pob cytundeb GMS wedi eu neilltuo i feddygon teulu penodol.
Ychwanegon nhw eu bod yn ymwybodol o bryderon a'u bod yn "cyfarfod yn rheolaidd gyda'r partneriaid meddygon teulu i sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â gofynion y cytundeb".
"Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi cynnal adolygiadau penodol fel rhan o'r trefniadau monitro gwell ac rydym yn parhau i wneud rhagor o waith yn sgil y pryderon a godwyd yn lleol," medd llefarydd.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda, a chefnogi ein partneriaethau meddygon teulu i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy a dibynadwy."