Mam yn gorfod ad-dalu etifeddiaeth £50,000 ei merched

Katherine Hill Ffynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Katherine Hill wedi tynnu'r arian o gyfrif yr oedd hi'n ymddiriedolwr iddo

  • Cyhoeddwyd

Mae mam wedi cael gorchymyn i ad-dalu £50,000 o etifeddiaeth y gwnaeth hi ei ddwyn gan ei dwy ferch.

Cafwyd Katherine Hill, 53 oed o Alltwen ym Mhontardawe, a'i thad Gerald Hill, 93 oed o Fairwood yn Abertawe, yn euog o dwyll drwy gamddefnyddio grym mewn achos yn Llys y Goron Abertawe y llynedd.

Cafodd Katherine Hill ei dedfrydu i 30 mis o garchar, ac fe gafodd Gerald Hill ddedfryd o 12 mis dan glo, wedi ei ohirio am 18 mis.

Gadawyd yr etifeddiaeth o £50,000 i Gemma a Jessica Thomas gan eu nain, Margaret Hill, fu farw yn 2013.

Roedd Katherine Hill hefyd wedi derbyn £40,000.

Beth yw'r cefndir?

Dydd Llun, mewn gwrandawiad elw troseddau, clywodd Llys y Goron Abertawe fod y swm a gafodd ei ddwyn bellach yn werth tua £65,000, yn sgil chwyddiant.

Roedd merched Katherine Hill - Jessica a Gemma - yn 12 a 15 oed pan fu farw eu nain, a rhoddwyd yr arian mewn ymddiriedolaeth tan eu penblwyddi yn 25 oed.

Roedd yr ymddiriedolaeth yn cael ei reoli'n rhannol gan eu mam.

Ond dywedodd hi a'i thad gelwydd, a dweud eu bod wedi postio arian parod mewn amlenni drwy flychau llythyrau'r merched.

Dywedodd y barnwr wrth Katherine Hill ei bod wedi dwyn yr arian oherwydd ei bod "mor flin bod eich merched wedi derbyn mwy o arian na chi".

Rhoddodd Katherine Hill yr arian mewn cyfrif banc, er gwaethaf cael cyngor i beidio â gwneud hynny, ac roedd ganddi hi a'i thad gardiau i gael mynediad ato.

O fewn 12 mis, roedd y rhan fwyaf o'r £50,000 wedi'i dynnu o'r cyfrif, ond dim ond yn 2018 y daeth eu trosedd i'r amlwg, pan ofynnodd un o'i merched am ei harian yn gynnar i'w ddefnyddio fel blaendal i brynu tŷ.

Katherine Hill a'i thad, Gerald Hill Ffynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Katherine Hill ei charcharu am 30 mis y llynedd, tra bod ei thad, Gerald Hill, (eistedd) wedi cael dedfryd o 12 mis wedi ei ohirio am 18 mis

Ar ôl yr achos, dywedodd y Cofiadur Greg Bull KC fod Katherine Hill wedi "golchi" rhywfaint o arian ei merched drwy dalu morgais ei phartner.

Dywedodd fod Katherine Hill a'r glanhawr ffenestri, Phillip Lloyd, "yn byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig" a'i bod hi'n gallu ad-dalu ei merched drwy godi ecwiti o'u cartref.

"Mae'n arwyddocaol na allai ymchwiliadau ddatgelu beth oedd wedi digwydd naill ai i'r £50,000 hwnnw, nac i'r hyn oedd wedi digwydd i symiau gymharol sylweddol eraill a adawyd i Katherine Hill ar ôl marwolaeth ei mam," ychwanegodd.

"Mae hi'n dal i honni nad yw hi erioed wedi derbyn y £50,000. Dydw i ddim yn ei chredu hi ar hynny ac rwy'n gweld bod ei hateb yn gwbl gelwyddog.

"Mae Mr Lloyd yn gwbl ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd i'r £50,000 hwnnw ac mae'n debyg ei fod wedi ei helpu i'w olchi o leiaf, os nad i fwynhau ffrwyth ei thwyll."

Ychwanegodd fod yr arian wedi'i ddefnyddio i dalu eu morgais a'u biliau tŷ, yn ogystal â mwynhau ffordd o fyw na fyddent fel arall yn gallu ei fforddio.

Dywedwyd wrth Katherine Hill fod yn rhaid iddi ad-dalu £50,000 o fewn tri mis neu wynebu chwe mis arall o garchar, tra bod ei thad wedi cael gorchymyn i dalu £6,000 am ei ran yn y twyll neu wynebu tri mis yn y carchar.

Clywodd y llys os nad ydyn nhw'n talu, y byddan nhw'n cael eu carcharu ond na fyddai eu dyledion yn cael eu clirio.