Carcharu mam 'sbeitlyd' am ddwyn etifeddiaeth ei merched

Katherine Hill
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Katherine Hill ei dedfrydu i 30 mis o garchar ar ôl dwyn etifeddiaeth gwerth £50,000 gen ei dwy ferch

  • Cyhoeddwyd

Mae mam wedi ei charcharu ar ôl dwyn etifeddiaeth gwerth £50,000 gan ei dwy ferch.

Cafwyd Katherine Hill, 53 oed o Alltwen ym Mhontardawe, a’i thad Gerald Hill, 93 oed o Fairwood yn Abertawe, yn euog o dwyll drwy gamddefnyddio grym mewn achos yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf.

Dydd Gwener cafodd Katherine Hill ei dedfrydu i 30 mis o garchar, ac fe gafodd Gerald Hill ddedfryd o 12 mis dan glo, wedi ei ohirio am 18 mis.

Disgrifiwyd y diffynyddion gan y barnwr, Greg Bull KC, fel “pobl cwbl anonest”.

Clywodd y llys fod yr arian wedi ei adael i ddwy ferch Katherine Hill, Jessica a Gemma Thomas, gan eu nain, Margaret Hill, a fu farw yn 2013.

Roedd Katherine Hill hefyd wedi derbyn £40,000.

Dywedodd y bargyfreithiwr dros yr erlyniad, James Hartson, wrth y llys fod etifeddiaeth y merched i fod i gael ei gadw mewn ymddiriedolaeth tan iddyn nhw droi'n 25, gyda'r diffynyddion yn gweithredu fel ymddiriedolwyr.

Ychwanegodd Mr Hartson fod y merched yn fregus oherwydd “roedden nhw’n 15 oed ac yn 12 oed pan wnaethon nhw etifeddu’r arian, doedd ganddyn nhw ddim rheolaeth drosto".

Rhwng Mawrth 2016 a Mawrth 2017, clywodd y llys fod arian wedi'i dynnu o'r cyfrif lle’r oedd yr arian yn cael ei gadw ar 10 achlysur, a bod £35,000 wedi’i dynnu allan mewn tair gweithred yn unig.

Clywodd y llys nad oes cyfnod o le mae'r arian hwnnw heddiw, a bydd y Ddeddf Elw Trosedd nawr yn dod i rym er mwyn ceisio adennill yr arian.

'Parhau i gael effaith andwyol'

Daeth gweithredoedd y diffynyddion i’r amlwg yn 2018 pan oedd Gemma Thomas eisiau rhywfaint o’r arian i’w ddefnyddio fel blaendal i brynu tŷ.

Yn wreiddiol cafodd ymchwiliad sifil ei lansio cyn i'r teulu gysylltu â'r heddlu.

Clywodd y llys fod Katherine Hill wedi gofyn i’w thad 93 oed ei helpu i gymryd yr arian, a bod Gerald Hill “wedi ei recriwtio a’i ecsbloetio gan Katherine Hill er mwyn cyflawni’r twyll".

Dywedodd Mr Hartson fod Hill “yn amlwg yn cymryd rhan trwy ecsbloetio neu orfodi” gan ei ferch.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gerald Hill (eistedd) ddedfryd o 12 mis wedi ei ohirio am 18 mis.

Clywodd y llys pan geisiodd y merched adennill yr arian am y tro cyntaf drwy hawliad gan yswirwyr, dywedodd Mr Hartson iddo fethu oherwydd i'r diffynyddion honni fod y merched eisoes wedi ei dderbyn.

Honnodd y diffynyddion fod y dioddefwyr wedi derbyn yr arian, a bod yr yswirwyr yn eu credu ac “ni chafodd yr hawliad ei dalu".

Ychwanegodd Mr Hartson: “Mae colli etifeddiaeth y dioddefwr yn parhau i gael effaith andwyol ddifrifol arnyn nhw.”

Darllenwyd datganiadau effaith ar ddioddefwyr ar ran merched Hill yn y llys.

Gweithred llawn 'trachwant a sbeit'

Wrth amddiffyn Hill dywedodd Matt Murphy wrth y llys nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau blaenorol, ac roedd pobl wedi ymddiried ynddi i oruchwylio “miloedd o gyfrifon” yn ei rôl flaenorol yn gweithio mewn banc stryd fawr.

Dywedodd Harry Dickens, ar ran Hill, "nad yw'n debygol o aildroseddu, mae ar ddiwedd ei oes".

Ychwanegodd Mr Dickens: “Nid oes ganddo deulu sy'n siarad gydag o. Mae ar ei ben ei hun. Does ganddo neb.”

Dywedodd wrth Katherine Hill iddi ddwyn yr arian allan o “drachwant a sbeit.”

Dywedodd y Barnwr Greg Bull KC bod y ddau wedi cymryd rhan mewn “twyll bwriadol” a'i fod yn fodlon fod Hill "wedi gwylltio cymaint bod eich merched wedi derbyn mwy o arian na chi, nes i chi gymryd eu hetifeddiaeth".

Ychwanegodd iddi ddefnyddio’r arian “fel arf yn erbyn eich merched eich hun", "i’w sbeitio nhw a’ch cyn-ŵr”, ond mai Katherine Hill oedd "prif ysgogydd y sgam”.

“Ni allaf ddychmygu tor-ymddiriedaeth mwy sinigaidd na hyn," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Jessica Thomas: “'Dw i ddim yn meddwl y bydd hi byth yn flin am yr hyn mae hi wedi’i wneud”

Dywedodd Jessica Thomas, sy'n 21, ei fod yn “anodd deall sut y gall fy nheulu fy hun achosi cymaint o niwed” a'i bod wedi dioddef “trawma meddwl difrifol” a bod angen cwnsela arni yn ystod ei harddegau.

Mewn datganiad a ddarllenwyd ar ran Gemma Thomas, clywodd y llys fod gweithredoedd y diffynyddion wedi achosi “llawer iawn o straen emosiynol ac ariannol" iddi a’i bod yn dioddef o “bryder ym mhob maes” o’i bywyd.

Dywedodd fod gweithred ei mam wedi ei gadael “mewn llawer o ddyled”, gan ei bod yn dibynnu ar yr etifeddiaeth i brynu ei chartref, ond bellach mae arni hi filoedd o bunnau “sy’n achosi cymaint o straen i mi".