Caniatâd i osod plac er cof am frwydr ffyrnig Maes de Winton

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn Nhonypandy nos Fercher i drafod sut i gofio'r hanes
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod wedi derbyn caniatâd i osod plac glas yn Nhonypandy er mwyn cofio am frwydr ffyrnig a ddigwyddodd yno yn 1936.
Fe ddigwyddodd yr ymladd rhwng y rheiny oedd yno ar gyfer rali gan Undeb y Ffasgwyr Prydeinig [BUF], a thua 6,000 o brotestwyr gwrth-ffasgaidd.
Mae'n cael ei hadnabod fel Brwydr Maes de Winton ac mae'r ymgyrchwyr yn bwriadu cael digwyddiad mwy ar gyfer dathlu 90 mlynedd yn 2026.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Guto Davies, trefnydd y digwyddiad, bod y frwydr yn foment "bwysig yn hanes y cymoedd".

Dywedod Guto Davies bod y frwydr yn foment "bwysig yn hanes y cymoedd"
Cafodd y casgliad o ffasgwyr eu gwahanu yn sgil yr ymladd 89 mlynedd yn ôl, a dyma oedd ymgais olaf y BUF i gynnal rali yng Nghymru.
Y gred ydy fod lleoliad y frwydr ar gae mawr yng ngogledd Tonypandy, ond bellach mae tai wedi'u hadeiladu yno.
Cafodd y rali ei gwarchod gan yr heddlu ar y diwrnod, ond gwaethygu wnaeth y sefyllfa.
Cafodd 37 o bobl eu harestio yn sgil y frwydr, a chael eu cyhuddo o wahanol droseddau fel achosi terfysg (riot) a thor-heddwch.
Mae Guto Davies yn credu mai perchennog y tir oedd de Winton, a dywedodd fod tafarn wedi'i henwi ar ei ôl hefyd.

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn trafod sut i nodi 90 mlynedd ers y digwyddiad yn 2026
Cafodd y BUF ei sefydlu gan Oswald Mosley yn y 30au, wrth i Adolf Hitler a Benito Mussolini amlygu eu hunain yn Ewrop - a Mosley yn ceisio'u hefelychu yn y DU.
"Mi 'naeth tua 6,000 o bobl yrru'r ffasgwyr allan o'r dref," meddai Guto Davies, sydd hefyd yn ysgrifennydd i'r Blaid Gomiwnyddol ym Mhontypridd.
Dywedodd Mr Davies ei fod yn ddigwyddiad "eitha' pwysig yn hanes y cymoedd".
"Roedd dyrnau a cherrig yn cael eu taflu ac mi gaeth undeb y BUF eu harwain allan o'r dre' gan yr heddlu - felly mi a'th hi'n eitha' treisgar a nifer yn cael eu carcharu."
Ychwanegodd Mr Davies fod nifer o'r rhai a gafodd eu carcharu yn sgil y frwydr allan yn Sbaen o fewn blwyddyn, yn ymladd lluoedd ffasgaidd Franco yn y rhyfel cartref.
"Felly oedd hynny'n agwedd bwysig arall o'r digwyddiad," meddai.

Dywedodd Guto Davies fod y rali yn 1936 wedi mynd yn "eitha' treisgar a nifer yn cael eu carcharu"
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn Nhonypandy nos Fercher i drafod yr hanes a sut i nodi 90 mlynedd ers y digwyddiad yn 2026.
"Mi fydd y noson yn coffau'r digwyddiad - areithiau, edrych yn ôl ar hanes a'i roi yng nghyd-destun lle ydyn ni heddiw yn wleidyddol," meddai Mr Davies.
"Mae'r asgell dde eithafol yn amlygu eu hunain ar draws Ewrop, a ma' hynny'n wir yng Nghymru hefyd.
"Dyna beth ni'n trio adlewyrchu, fod y broblem oedd gyda ni'n 1936 yn dal gyda ni heddiw. Felly bydd difrifoldeb, ac adloniant i goffau'r frwydr."
Ychwanegodd Mr Davies eu bod nhw bellach wedi derbyn caniatâd i osod plac glas ar fur Llyfrgell Tonypandy gerllaw.
"Felly ni am ganolbwyntio ar flwyddyn nesa' – y 90 mlynedd, digwyddiad mwy falle - gorymdaith, dadorchuddio'r plac," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth