David TC Davies: 'Technoleg AI wedi gwrthod fy ngheisiadau am swyddi'

Mae David TC Davies bellach yn gweithio fel pennaeth staff i'r Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru yn honni fod meddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI) wedi gwrthod ceisiadau ganddo am swyddi gan nad oes ganddo radd prifysgol.
Mae David TC Davies, oedd yn rhan o Lywodraeth Geidwadol Rishi Sunak, wedi galw ar gyflogwyr i ail-ystyried y ffordd y maen nhw'n defnyddio deallusrwydd artiffisial wrth recriwtio.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial wrth recriwtio sy'n rhybuddio cwmnïau: "Ar bob cam mae risg o ragfarn annheg neu wahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr."
Mae llawer o gwmnïau'n defnyddio systemau olrhain ymgeiswyr i ddidoli a graddio ceisiadau, er gwaethaf pryderon y gallent fod yn hidlo'r ymgeiswyr gorau allan.
'Dim gobaith gyda CV od'
Gadawodd Mr Davies yr ysgol yn 16 oed a bu'n gweithio ym musnes cludo nwyddau ei deulu cyn cael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999 ac yn ddiweddarach bu'n AS Mynwy am 19 mlynedd.
Ar ôl colli ei sedd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, dywedodd iddo ymgeisio am sawl swydd lefel gradd y tu allan i wleidyddiaeth, ond cafodd ei wrthod ar unwaith.
Mae'n credu mai'r rheswm am ei fethiant oedd diffyg cymwysterau a fyddai'n dderbyniol i feddalwedd graddio ceisiadau.
Dywedodd wrth y BBC: "Yn amlwg pan fyddwch chi'n cyflwyno CV does neb dynol yn edrych arnyn nhw o gwbl - ac os oes gennych chi CV ychydig yn od, fel sydd gen i, yna does gennych chi ddim gobaith."
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
Hyd yn oed pan basiodd y cam cyntaf, fe wynebodd her anarferol pan ofynnodd un sefydliad rhyngwladol am fanylion ei bennaeth diwethaf.
Ysgrifennodd ar LinkedIn: "Mewn un achos fe es ychydig ymhellach a derbyniais ffurflen gyda'r cwestiynau canlynol:
"Enw'r rheolwr llinell diwethaf?' Atebais: 'Rishi Sunak'.
"Teitl swydd y rheolwr llinell diwethaf?' Rhoddais: 'Prif Weinidog y Deyrnas Unedig'.
"Rhif ffôn y rheolwr llinell?' "Mae gen i rif Rishi ond yn sicr doeddwn i ddim yn mynd i'w roi yn y blwch! Y canlyniad - gwrthodiad!"
Awgrymodd na fyddai'r cyn-brif weinidog wedi rhoi geirda da iddo pe bai wedi rhannu ei rif ffôn!

Roedd Mr Davies yn un o 175 o ASau Torïaidd wnaeth golli eu sedd y llynedd.
Dywedodd Mr Davies y gallai cyflogwyr fod yn colli doniau amrywiol trwy ddefnyddio systemau o'r fath.
"Nid oes gan bawb CV confensiynol," meddai.
Ychwanegodd fod y sgiliau oedd eu hangen i yrru lorïau ar draws Ewrop ar gyfer ei fusnes teuluol cyn dyddiau ffonau clyfar a systemau llywio lloeren "yn gofyn am PhD mewn synnwyr cyffredin" - rhinweddau oedd yn cael eu gwastraffu ar systemau olrhain ymgeiswyr.
Dywedodd y cyn-weinidog, sydd nawr yn gweithio fel pennaeth staff i'r Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, na allai'r defnydd o feddalwedd recriwtio fod yn beth da i gwmnïau.
"Maen nhw gyd yn mynd i recriwtio'r un math o bobl," meddai.