'Trawma' disgyblion o weld trywanu Ysgol Dyffryn Aman
- Cyhoeddwyd
"'Nes i droi cornel a gweld merch yn ymosod gyda chyllell ar ddisgybl arall. O'n i mor ofnus."
Fe drodd diwrnod arferol yn olygfa o ofn yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman ar 24 Ebrill.
Fe gafodd dwy athrawes - Fiona Elias a Liz Hopkin - a disgybl eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu trywanu sawl gwaith yn ystod amser egwyl y bore.
Mae merch 14 oed wedi ei chael yn euog yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun o geisio llofruddio.
Roedd hi wedi cyfaddef trywanu tri pherson, ond roedd yn gwadu ceisio llofruddio.
- Cyhoeddwyd2 awr yn ôl
Mae undeb athrawon UCAC wedi rhybuddio y gallai fod angen ystyried sgrinio mewn ysgolion, tra bod yr aelod lleol yn y Senedd, Adam Price, wedi galw am adolygiad cenedlaethol o ddiogelwch ysgolion.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n trafod diogelwch staff mewn cynhadledd yn y gwanwyn.
'Dal ddim yn gallu credu'r peth'
"Mae'n rhywbeth fi dal ddim yn gallu credu oedd wedi digwydd," dywedodd Osian, 16, a welodd ran o'r ymosodiadau.
"O'dd pawb jyst dros y lle i gyd. O'dd e'n chaos.
"Weles i'r ferch yn cael ei dal yn ôl wrth un o'r athrawon.
"O'dd hi gyda cyllell - o'dd e'n rili ofnus i weld."
Fiona Elias gafodd ei thrywanu gyntaf, wrth i'r ferch weiddi "dwi'n mynd i dy f****** ladd di", cyn i Liz Hopkin gael ei hanafu â'r gyllell sawl gwaith, ac yna disgybl.
Fe gafodd disgyblion yr ysgol eu cloi mewn dosbarthiadau am oriau ar ôl y digwyddiad wrth i heddlu ymchwilio.
"O'n ni 'di cael ein cloi yn y dosbarth am tua pedair awr," ychwanegodd Osian.
"Yr unig hawl oedd gyda ni adael oedd i fynd i'r tŷ bach. O'n ni jyst yn trio cefnogi'n gilydd."
'O'n i mor ofnus'
Fe gafodd Lacey, 12, sesiynau cwnsela drwy'r ysgol ar ôl iddi weld disgybl yn cael ei thrywanu.
"O'n i ar yr iard, ac o'n i 'di gweld grŵp o bobl gyda'u ffonau symudol mas," dywedodd.
"O'n i'n meddwl o'dd jyst disgyblion yn ymladd.
"Ond wedyn nes i droi cornel a gweld merch yn ymosod gyda chyllell ar ddisgybl arall.
"O'dd popeth yn mynd mor glou. O'dd loads o sgrechen, o'dd pawb yn rhedeg.
"O'n i mor ofnus. O'n i yn traumatised iawn."
Ynghyd â'r ddwy athrawes a gafodd eu trywanu, fe welodd sawl athro arall yr hyn ddigwyddodd, a rhai wedi ceisio dod â'r ymosodiadau i ben.
Mae ymchwil BBC Cymru wedi awgrymu i blant mor ifanc â Blwyddyn 2 - chwech i saith oed - ddod â chyllell i'r ysgol yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd ddiwetha'.
Trwy gais rhyddid gwybodaeth i awdurdodau lleol, ry'n ni wedi clywed am achosion o hunan-niweidio ac o athrawon yn cael eu bygwth.
Gweld cyllyll 'fwyfwy' mewn ysgolion
Dywedodd ysgrifennydd undeb athrawon UCAC ei bod yn bosib y bydd yn rhaid ystyried camau fel sgrinio bagiau mewn ysgolion ledled Cymru.
"Does 'na ddim dwywaith bod yr arfer o ddod â chyllyll i'r ysgol yn arfer 'dan ni'n gweld fwyfwy," dywedodd Ioan Rhys Jones.
"Mae'n hysgolion ni i fod yn lefydd lle mae pawb i fod i ddysgu, ac addysgu, mewn awyrgylch diogel."
Galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru mae Aelod Senedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Plaid Cymru, Adam Price, hefyd.
"Rwy'n credu bod angen adolygiad llawn, cenedlaethol, o ddiogelwch mewn ysgolion," dywedodd.
"Mae'r bobl sy'n gweithio mewn ysgolion o ddydd i ddydd yn dweud 'na, dyw'r canllawiau ddim yn ddigon da, dyw'r polisïau ddim yn ddigon cadarn'."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth yn erbyn staff yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.
"Gall ysgolion gymryd camau ar unwaith ac yn barhaol i ddiarddel unrhyw ddisgybl sydd ag arf yn eu meddiant, ac mae gan ysgolion rym eisoes i chwilio am arfau.
"Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cymryd mater diogelwch staff o ddifrif ac mae Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol ar y gweill ar gyfer y gwanwyn i ddod ag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau ynghyd i drafod diogelwch staff a disgyblion."