Oes digon o ferched yn mentro i faes gwyddoniaeth a pheirianneg?

Enillodd criw o ferched o chweched dosbarth Ysgol Bro Edern wobr am eu gwaith mewn cystadleuaeth
- Cyhoeddwyd
Oes yna ddigon o ferched yn mentro i faes gwyddoniaeth a pheirianneg?
Mae'n ymddangos bod y meysydd hynny, ar y cyfan, yn denu mwy o ddynion o hyd.
Er bod ymdrechion i newid hynny, mae ffigyrau yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd fu yn y blynyddoedd diwethaf yn y nifer sy'n astudio rhai o'r pynciau sy'n cael eu galw yn STEM ar gyfer Safon Uwch.
Mae'r pynciau hynny'n cyfeirio at wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Mae'n bosib bod hen stereoteipiau yn dal i gael effaith, meddai'r Athro Arwyn Tomos Jones
Mae Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi ceisio cynyddu'r nifer o ferched sy'n dilyn gyrfaoedd yn y meysydd yma.
Ond yn ôl ffigyrau gan y Cydgyngor Cymwysterau, mae nifer y merched sy'n astudio Safon Uwch bioleg, cemeg, mathemateg a ffiseg yn y chwe blynedd diwethaf wedi aros yn eithaf cyson.
Yn 2018/19 roedd y ffigwr yn 4,720, a 4,767 oedd y nifer yn 2024/25 - er ei fod wedi codi yn rhai o'r blynyddoedd yn y canol.
Mae 'na hefyd fwy o fechgyn yn parhau i astudio'r pynciau yma - 6,015 oedd y ffigwr y llynedd.
'Efallai bod y stigma yna o hyd'
Dywedodd yr Athro Arwyn Tomos Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd fod mwy o ferched, yn gyffredinol, yn astudio yno na bechgyn.
Ond, beth felly ydy'r rhesymau dros brinder merched yn y meysydd eraill?
"Mae'n bosib nad ydy'r hen stereoteip wedi diflannu, nac yn wannach chwaith," meddai'r Athro Arwyn Tomos Jones.
"Efallai bod y stigma yna o hyd - nad ydy merched efallai yn meddwl mai peirianneg neu ffiseg ydy eu lle nhw."

Dywedodd Carys o Ysgol Bro Edern ei bod yn ymddiddori mwy mewn pynciau STEM ers cael cymryd rhan mewn cystadleuaeth gyda'r ysgol
Yn ddiweddar mae criw o ferched 16 oed o chweched dosbarth Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth ysgolion Fformiwla 1 y byd yn Singapore.
Fe enillon nhw wobr merched mewn chwaraeon.
Dywedodd Carys, un o'r cystadleuwyr, fod y gystadleuaeth wedi gwneud iddi gymryd mwy o ddiddordeb mewn pynciau STEM.
"Nawr fi'n gwneud pedwar ohonyn nhw yn Lefel A," meddai.
Dywedodd Dewi Thomas, sy'n dysgu gwyddoniaeth a thechnoleg, fod yr ysgol wedi newid cyfnod allweddol tri i ddenu mwy o blant a merched i astudio'r pynciau STEM.
"Unwaith mae un neu ddwy yn dewis y pwnc maent yn dilyn ac yn gweld llwyddiant.
"Maen nhw'n deall bod e ddim just i fechgyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
  
- Cyhoeddwyd21 Hydref
  
- Cyhoeddwyd25 Medi
 