Rhybudd fod cyflwyno TGAU newydd Cymru yn 'gambl'

Athrawes gyda gwallt hir, tywyll yn gwisgo du ac yn pwyntio at wybodaeth ar sgrin o flaen dosbarth o ddisgyblion sy'n eistedd mewn rhesi.
Disgrifiad o’r llun,

Plant sy'n dechrau blwyddyn 10 ym Medi 2025 yw'r cyntaf i astudio rhai o'r TGAU newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfres o gymwysterau TGAU newydd wedi cael eu cyflwyno yn ysgolion Cymru, gydag un arbenigwr addysg yn rhybuddio bod yna "risgiau clir" ynghlwm â'r cam.

Fe fydd mwy o gymwysterau'n cael eu hailwampio dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o newidiadau yn sgil cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru y byddai un o agweddau mwyaf dadleuol y cynllun - cael gwared â TGAU unigol Bioleg, Ffiseg a Cemeg - yn cael ei oedi tan o leiaf 2031.

Fe fydd yna degwch i'r disgyblion sy'n astudio'r cymwysterau newydd am y tro cyntaf, yn ôl prif fwrdd arholi Cymru, CBAC.

Athrawes gyda gwallt hir tywyll a blows ddu yn gwenu gyda silff lyfrau a wal gyd aphosteri yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Ellis yn cydnabod ei bod yn anodd paratoi disgyblion pan nad yw'r athrawon yn sicr o'r hyn i'w ddisgwyl

Yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog mae pennaeth yr adran Gymraeg, Angharad Ellis, yn gweld y datblygiadau yn "gyffrous" ac yn "her".

Yn ei phwnc hi "mae lot fawr o ryddid i athrawon ddewis y farddoniaeth maen nhw eisiau mynd ar ei hôl, sydd yn neis mewn un ffordd er mwyn i ni allu addasu'r gwaith ar gyfer ein plant ni".

Mae'n bwysig, meddai, bod plant yn gallu astudio llenorion lleol.

Mae'n gweld manteision uno iaith a llenyddiaeth yn y cymhwyster TGAU newydd, er y bydd rhai disgyblion yn gweld hynny'n heriol.

Mae'n rhaid i athrawon ddewis y farddoniaeth, meddai, sy'n "fwy o waith cynllunio", gydag "amser yn brin".

'Anodd i blant eleni'

Gyda mwy o waith cwrs mewn pynciau fel Cymraeg, mae rhai athrawon wedi mynegi pryderon am y pwysau gwaith ychwanegol.

Ond dywedodd Ms Ellis ei bod yn credu "bod y cydbwysedd yn addas rhwng y gwaith cwrs ac arholiad".

"Mae'n anodd i blant eleni dwi'n teimlo - i blant blwyddyn 10," meddai.

"'Da ni gyd yn gwneud o am y tro cynta'.

"Maen nhw hefyd yn ymwybodol bod 'na ddim arholiadau wedi digwydd o'r blaen.

"Mae'n anodd iawn i ni baratoi'r plant yma i eistedd arholiad yn yr haf lle 'da ni ddim yn siŵr iawn be' i ddisgwyl."

Delyth Jones o CBAC gyda gwallt golau i'w hysgwysdau yn sefyll o flaen wal gyda logo CBAC arno
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Delyth Jones o CBAC bod yna gefnogaeth barhaus i athrawon wrth gyflwyno'r cymwysterau newydd

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fe ddywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru, Ashok Ahir eu bod wedi cynnal arolygon barn gyda myfyrwyr.

Dywedodd mai gwaith cwrs oedd "un o'r prif bethau oedd myfyrwyr eisiau, dim just un siawns ar ddiwedd y cwrs ar ôl astudio dwy flynedd o bwnc".

"Hefyd, mae pobl yn astudio mewn ffyrdd gwahanol, a dyw e ddim i gyd am un arholiad mae am sgiliau arall ti 'di datblytgu.

"Mae hwnna'n rhan mawr o'r cwricwlwm hefyd, sgiliau ychwanegol, sgiliau traws y cwricwlwm", meddai.

Ychwanegodd bod y cwricwlwm newydd yn "ffocysu ar ddysgu am eich ardal leol chi ac mae'n really anodd cael asesiad cenedlaethol os chi 'di dilyn elfen lleol".

Wrth gael ei holi am bryderon athrawon y bydd yn golygu mwy o waith i ddechrau dywedodd: "Mae e am gyfnod ond mae CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i helpu paratoi athrawon am y newid a bydd hwnna'n parhau am y ddwy flynedd nesaf."

Yn ogystal ag uno iaith a llên yn y TGAU Cymraeg a Saesneg, a chyfuno'r ddau TGAU mathemateg presennol yn un, mae yna rhai pynciau newydd fel dawns.

Mae mwy o asesu di-arholiad hefyd, meddai Delyth Jones, cyfarwyddwr cynorthwyol yn CBAC sydd wedi bod yn datblygu'r cymwysterau.

"'Da ni wedi bod yn rhoi cymorth i athrawon dros y flwyddyn sydd yn arwain i fyny at y dysgu cynta'," meddai.

"Cafodd y manylebau eu cyhoeddi dros flwyddyn yn ôl ac, yn dilyn hynny deunydd asesu enghreifftiol, canllawiau addysgu, ac mae 'na broses o ddysgu proffesiynol."

'Pryder naturiol' i blant a rhieni

Mae Ms Jones yn cydnabod y bydd rhai pynciau'n gofyn am fwy o waith asesu gan athrawon.

"'Da ni wedi bod yn ymwybodol o bryderon athrawon ac undebau ynglŷn â llwyth gwaith - mae hynny wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yng nghefn ein meddwl ni trwy gydol y gwaith datblygu."

Ychwanegodd bod yna "bryder naturiol" i'r plant a'u rhieni sy'n mynd drwy'r TGAU newydd am y tro cyntaf.

"'Da ni'n ymwybodol ohono fo - mae'r rheoleiddiwr hefyd yn ymwybodol iawn ohono fo ac yn trafod sut 'da ni'n medru gwneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr hynny yn y flwyddyn gynta' ac yn y blynyddoedd cynta' yna yn cael eu trin mor deg â phobl sydd wedi mynd trwyddyn nhw'n gynt, a phobl fydd yn mynd drwodd ar ôl i'r cymwysterau setlo."

Luke Sibieta
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Luke Sibieta, mae gwaith cwrs "yn tueddu i ffafrio plant o gefndiroedd mwy breintiedig"

Ond mae gan, Luke Sibieta - awdur adroddiad ar addysg Cymru i'r Institute for Fiscal Studies - bryderon.

"Mae'r TGAU newydd yng Nghymru yn rhywfaint o gambl, gyda rhai risgiau amlwg," meddai.

"Mae yna risg bod mwy o ddefnydd o waith cwrs yn ehangu anghydraddoldebau gan ei fod yn tueddu i ffafrio plant o gefndiroedd mwy breintiedig".

Dywedodd bod y defnydd cynyddol o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) yn peryglu hygrededd gwaith cwrs - rhywbeth mae CBAC yn dweud sydd wedi cael ei ystyried.

Elain a Jack
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elain a Jack o Ysgol y Moelwyn yn falch o weld llai o bwyslais ar arholiadau

Yn Ysgol y Moelwyn mae Jack, 14, "bach yn nerfus" am ddechrau cyfnod TGAU, ond mae'n falch na fydd cymaint o bwyslais ar arholiadau.

"Dwi'n mwynhau gwneud gwaith cwrs - dwi ddim rili'n mwynhau gwneud arholiadau o gwbl," meddai.

Un arall o flwyddyn 10 yw Elain, 14, sydd hefyd yn croesawu'r asesu drwy gydol y cwrs.

"Mae'n edrych mwy ar sut mae cynnydd disgybl o fewn y flwyddyn mwy na sut mae'r cynnydd jyst mewn prawf.

"Dwi'n credu bod e'n beth da achos mae'n dangos gallu disgybl mewn ffordd mwy positif."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle yn y Senedd ddydd Mawrth bod y llywodraeth wedi cymryd camau i sicrhau bod ysgolion yn barod am y cymwysterau newydd.

Ychwanegodd y byddai Adnodd a CBAC yn derbyn cyllid ychwanegol wrth baratoi ar gyfer cyflwyno ail don y TGAU newydd ym Medi 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.