Mwy na 30 o ysgolion y gogledd ar gau oherwydd rhew ac eira
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 30 o ysgolion gogledd Cymru wedi methu ag agor ddydd Iau oherwydd perygl rhew ac eira.
Dyma'r trydydd diwrnod yn olynol i rai o ysgolion y gogledd fethu ag agor oherwydd y tywydd.
Mae 'na ysgolion ynghau mewn pedair sir yn y gogledd - Conwy, Dinbych, Wrecsam a'r Fflint.
Roedd rhybudd melyn am rew mewn grym ar gyfer hanner gogleddol Cymru dros nos, ond fe ddaeth i ben am 10:00 fore Iau.
Ond bellach mae rhybudd arall am eira a rhew mewn grym ar gyfer y mwyafrif llethol o'r wlad brynhawn Iau tan fore Gwener.
Gwiriwch yr ysgolion sydd ar gau yn eich ardal chi:
Cafodd nifer helaeth o ysgolion eu cadw ar gau ar draws Cymru dros y dyddiau diwethaf - gyda dros 160 ohonynt ynghau ddydd Mawrth a tua 50 ddydd Mercher.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd arall am eira a rhew ar gyfer mwyafrif y wlad.
Mae mewn grym rhwng hanner dydd, ddydd Iau, a 10:00 fore Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod darnau rhewllyd ar ffyrdd yn arwain at rai amodau teithio anodd.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio i gymryd gofal ar balmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu graeanu.
Wrth edrych ymlaen at y penwythnos mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am law trwm a gwynt ar gyfer mwyafrif llethol Cymru, wrth i Storm Bert daro.
Fe fydd y rhybudd glaw, rhwng 06:00 ddydd Sadwrn tan 06:00 fore Sul, yn berthnasol i bob sir oni bai am Ynys Môn a Sir Y Fflint.
Mae'r rhybudd gwynt mewn grym ar gyfer ardaloedd gorllewinol Cymru, ac mae hynny rhwng 05:00 a 19:00 ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl 50-75mm o law yn gyffredinol a 100-125mm o law ar dir uchel, yn arbennig yn y de, ble mae hyd at 150mm yn bosib mewn rhai mannau wrth i fand o law symud yn araf.
Gyda'r arbenigwyr yn darogan gwyntoedd o hyd at 70mya hefyd, fe allai'r amodau achosi llifogydd mewn mannau a thrafferthion i deithwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024