Heddlu'n dod o hyd i gorff wrth chwilio am bensiynwr coll

Reginald ReesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Reginald Rees ei weld ddiwethaf fore Mercher diwethaf yn gyrru Renault Captur coch ym mhentref Crofty ar Benrhyn Gŵyr

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion heddlu sy'n chwilio am ddyn 98 oed o Abertawe aeth ar goll ganol wythnos diwethaf wedi dod o hyd i gorff.

Fe gafodd Reginald Rees ei weld ddiwethaf ddydd Mercher 14 Awst, ychydig cyn 08:35, yn gyrru Renault Captur coch ym mhentref Crofty ar Benrhyn Gŵyr.

Fe gadarnaodd Heddlu De Cymru ddydd Gwener eu bod wedi dod o hyd i gerbyd "o'r un disgrifiad â char Mr Rees oddi ar yr arfodir ym Mae Rhosili".

Mewn datganiad pellach nos Lun dywedodd y llu eu bod "wedi canfod corff ym Mae Rhosili dros y penwythnos".

Ychwanegodd y datganiad bod y corff heb ei adnabod yn ffurfiol eto ond mae teulu Mr Rees wedi cael gwybod.

Pynciau cysylltiedig